Plant sy’n derbyn gofal, mabwysiadu, a maethu
Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC)
Plant sy’n Derbyn Gofal yw babanod, plant a phobl ifanc o dan 18 oed sydd yng ngofal awdurdod lleol, neu sy’n cael llety gan awdurdod lleol am fwy na 24 awr. Gall Plant sy’n Derbyn Gofal fod yn byw gyda’u rhieni neu berthnasau, ac efallai bod rhai yn byw’n annibynnol. Mae’r plant hyn ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Maent yn aml yn profi adfyd, tarfu ar berthnasoedd neu drawma, ac mae angen cefnogaeth gydlynol, sy’n ystyriol o drawma, arnynt. Mae gan awdurdodau lleol, ochr yn ochr ag asiantaethau iechyd a phartneriaid, ddyletswydd statudol i ddiogelu’r plant hyn, hyrwyddo eu llesiant a gweithredu fel rhieni corfforaethol effeithiol.
Canllawiau a rheoliadau:
- Fframwaith Asesu Iechyd GIG Cymru ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
- Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Rhan 6, Cod Ymarfer 74-125 (Saesneg yn unig)
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- CoramBAAF: Iechyd plant ceiswyr lloches diarwyliad a phlant ar wahân eraill (Saesneg yn unig)
- UASC Health: Adnoddau (Saesneg yn unig)
- AFA Cymru
- CoramBAAF: Grŵp Iechyd (Saesneg yn unig)
- CoramBAAF: Hyrwyddo iechyd plant mewn gofal cyhoeddus (Saesneg yn unig)
Mabwysiadu a Maethu
Mae’r mwyafrif o blant sy’n derbyn gofal yn byw gyda gofalwyr maeth yn y tymor byr neu’n hirdymor.
Nid yw cael eu hadsefydlu gyda’u teulu biolegol yn briodol ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal, ac mae mabwysiadu yn rhoi cyfle am well canlyniadau hirdymor. Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn rhoi arweinyddiaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y maes mabwysiadu a maethu.
Mae gan ein Tîm gysylltiadau cryf â Grŵp Meddygol Cymru, Grŵp Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru, Rhwydwaith GIG Diogelu Cymru Gyfan, Grŵp Llywio Plant Sy’n Derbyn Gofal, ac mae’n cynrychioli’r GIG ar y Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant ac ar Grŵp Llywio Strategol y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.
Canllawiau a rheoliadau:
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Saesneg yn unig)
- Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012
- Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- Safonau Ansawdd ar gyfer cynghorwyr meddygol wrth fabwysiadu
- Adroddiadau blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol