Neidio i'r cynnwys

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant

Diweddarwyd yr amserlen imiwneiddio (brechu) reolaidd i blant yng Nghymru yn 2025 a 2026.

Mae’r newidiadau yn cynnig amddiffyniad i blant rhag brech yr ieir, a gwell amddiffyniad fyth rhag clefydau fel y frech goch. 

Gwybodaeth:

Gallwch weld yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Amserlenni imiwneiddio rheolaidd i Gymru

Newidiadau rhwng hydref 2026 a gwanwyn 2028 

Rhaglen frechu un dos yn erbyn brech yr ieir ar gyfer plant cymwys

Mae plant a aned rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Awst 2022 yn cael cynnig un dos o frechlyn brech yr ieir.  

Brechlyn cyfun yw brechlyn brech yr ieir. Mae’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela, a farisela (brech yr ieir). ‘MMRV’ yw enw’r brechlyn hwn. 

Pam mae amddiffyn rhag brech yr ieir yn bwysig? 

Mae’r grŵp hwn o blant yn cael cynnig y brechiad hwn yw er mwyn eu hamddiffyn rhag haint brech yr ieir (a elwir hefyd yn farisela).  

Mae brech yr ieir yn lledaenu’n hawdd iawn. Er bod y rhan fwyaf o blant yn gwella’n gyflym, gall rhai fynd yn sâl iawn. Efallai y bydd angen gofal ysbyty arnyn nhw. Mae brechu yn helpu i amddiffyn plant rhag brech yr ieir a’i gymhlethdodau. 

Mae plant nad ydynt wedi cael haint brech yr ieir na dau ddos ​​o frechlyn brech yr ieir mewn perygl o ddal yr haint. Mae’r brechlyn MMRV hefyd yn helpu i atal brech yr ieir rhag lledaenu i bobl eraill. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglen frechu un dos yn erbyn brech yr ieir yn:  Brechlynnau sy’n cynnwys y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a farisela (MMRV ac MMR)

Newidiadau o 1 Ionawr 2026 

Apwyntiad 18 mis oed: 

  • Ar 1 Ionawr 2026, cafodd apwyntiad brechu ychwanegol ei gyflwyno i’r amserlen imiwneiddio i blant. Bydd yr ymweliad hwn yn digwydd pan fydd baban yn 18 mis oed. 
  • Yn yr apwyntiad 18 mis hwn, rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod (gweler yr adran ‘Pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi a phryd?’ isod). Bydd babanod hefyd yn cael dos ychwanegol o’r brechlyn 6-mewn-1.  
  • Mae’r dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn helpu i amddiffyn rhag Hib (Haemophilus influenzae math b). Math o germ yw Hib sy’n gallu achosi afiechydon difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys llid yr ymennydd (haint o amgylch yr ymennydd) a niwmonia (haint ar y frest). Yn y gorffennol, roedd amddiffyiad rhag Hib yn cael ei roi fel rhain o’r brechlyn Hib/MenC. 

Pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi a phryd?   

Ar 1 Ionawr 2026, cyflwynwyd y brechlyn MMRV i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela). 

Rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod yn rhad ac am ddim gan y GIG fel rhan o’u brechiadau rheolaidd. Mae’r brechlyn MMRV wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd lawer. 

  • Rhoddir y dos cyntaf i fabanod pan fyddant yn 12 mis oed.  
  • Rhoddir yr ail ddos ​​pan fyddant yn 18 mis oed (gweler ‘Apwyntiad 18 mis oed’ isod). 

Mae’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer rhai plant hŷn neu oedolion. Mae’n cael ei roi i unigolion a fethodd un neu’r ddau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR, neu unigolion sydd ddim yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.   

Mae’n bwysig cael dau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Gallwch ddysgu rhagor am y brechlyn MMRV yn MMRV a brechlynnau MMR. 

Gwybodaeth:

Bydd eich nyrs practis neu’ch meddyg teulu yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn. Mae’n bwysig bod plant yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosib ar ôl cael cynnig.

Gweler yr amserlen imiwneiddio gyflawn i Gymru. 

Brechlynnau ar gyfer plant oedran ysgol a phobl ifanc 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau am frechlynnau ar gyfer plant oedran ysgol a phobl ifanc. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Hydref 2026