Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio’r fron
Pwy: Rhai pobl rhwng 50 hyd at 70 oed (a dros 70 os ydych yn gofyn)
Pryd: Pob tair blynedd
Prawf: Mamogram (pelydr-X o’r frest)
Byddwch yn cael eich gwahoddiad cyntaf cyn eich pen-blwydd yn 53 oed.
Os cewch eich gwahodd i gael prawf sgrinio’r fron neu os ydych wedi gofyn i hyn gael ei wneud yn yr ysbyty, mae’n bwysig eich bod yn mynd i’r apwyntiad.
Gall sgrinio’r fron achub bywydau drwy ganfod canser yn gynnar.
Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio’r fron
Os ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg, byddwch yn cael eich gwahodd I apwyntiad sgrinio’r fron.
- Os ydych yn cael therapi oestrogen hirdymor, mae’n bosibl bod mwy o risg i chi ddatblygu canser y fron a dylech fynd i apwyntiad sgrinio pan gewch eich gwahodd.
- Os ydych wedi cael llawdriniaeth i adlunio eich bronnau (mewnblaniadau’r fron) rydym yn argymell eich bod yn mynd i’r apwyntiad sgrinio’r fron.
Os nad ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg, ni chewch eich gwahodd i brawf sgrinio’r fron.
Os nad ydych wedi cael llawdriniaeth i adlunio eich bronnau (llawdriniaeth i ran uchaf y corff) neu os oes gennych fronnau o hyd, rydym yn argymell eich bod yn mynd i’ch apwyntiad sgrinio’r fron.
Bydd angen i chi siarad â’ch meddyg i drefnu iddo eich atgyfeirio i’r ysbyty neu glinig y fron. Nid Bron Brawf Cymru fydd yn gwneud hyn.
Mae’n bosibl y byddwn yn gwahodd pobl nad oes angen iddyn nhw gael prawf sgrinio’r fron. Os yw hyn yn berthnasol i chi neu os nad ydych yn siwˆ r, cysylltwch â Bron Brawf Cymru, a fydd yn gallu eich helpu.
Gwybodaeth gyffredinol
Rhowch wybod i Bron Brawf Cymru os hoffech chi apwyntiad ar ddechrau neu ar ddiwedd y clinig neu os hoffech gael eich sgrinio yn eich canolfan sgrinio’r fron agosaf.
Os ydych chi’n gwisgo rhwymyn (binder), mae ystafelloedd newid preifat ar gael fel y gallwch chi dynnu hwn cyn cael pelydr-X o’ch bron.
Os ydych chi’n poeni am fynd am brawf sgrinio’r fron neu os yw canser y fron yn rhedeg yn eich teulu siaradwch â’ch meddyg. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad â’ch meddyg efallai y byddwch am gael cymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan.
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn prawf sgrinio. Os nad ydych eisiau cael eich gwahodd i apwyntiad sgrinio’r fron, bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa sgrinio’r fron agosaf, byddan nhw’n egluro wrthych sut i optio allan o brofion sgrinio.
Beth allwch chi ei wneud
Mae’n bwysig eich bod yn dod i adnabod sut mae eich bronnau yn edrych neu’n teimlo. Rydym yn deall y gallai hyn for yn anodd. Fodd bynnag, mae’n bwysig gan y bydd yn eich helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau sy’n wahanoi. Er ei fod yn anghyffredin, gall pobl a gafodd eu rhoi yn y categori gwryw adeg eu geni gael canser y fron, felly mae’n bwysig bod pawb yn ymwybodol o’u bronnau/brest.
Yr arwyddion a’r symptomau y dylech edrych amdanyn nhw
- Newid ym maint neu yn siâp un o’r bronnau.
- Crych neu bant yn y croen.
- Newid yn lleoliad y deth (nipple) – efallai ei bod wedi troi i mewn neu’n pwyntio i gyfeiriad gwahanol.
- Lympiau, meinwe mwy trwchus neu fannau anwastad mewn un fron neu o dan y gesail.
- Rhedlif (discharge) neu waed o’r deth.
- Brech o gwmpas y deth.
- Chwydd dan eich cesail.
- Teimlad anghyfforddus neu boen mewn un fron sy’n wahanol i’r teimlad arferol.
Sut i wyrio’ch bronau
- Cyffyrddwch â’ch bronnau: ydych chi’n gallu teimlo unrhyw beth anarferol?
- Edrychwch am newidiadau: a oes unrhyw beth yn edrych yn wahanol?
- Gwiriwch unrhyw newidiadau gyda’ch meddyg.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau, siaradwch â’ch meddyg ar unwaith.
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio’r bron.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Mehefin 2026