Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth os yw’r sgan anomaledd ffetws wedi dangos bod gan y babi ymlediad y pelfis arennol

Gwybodaeth:

Fersiwn 6, Hydref 2026

Mae’r wybodaeth yn berthnasol os RPD yw’r unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan. 

Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fyddan nhw rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd. Mae’r sgan yn ffordd o wirio bod eich baban yn ymddangos yn datblygu fel y disgwylir. Mae hwyrach y bydd yn dangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn trwy sganiau pellach.

Ymlediad pelfis arennol

Mae RPD i’w gael mewn llai nag 1% (llai nag 1 mewn 100) o sganiau anomaledd a gyflawnir yng Nghymru. 

Beth yw RPD?

Y pelfis arennol yw’r ardal yn aren eich baban lle mae wrin yn casglu. Os yw pelfis yr arennau yn edrych yn lletach (yn fwy ymlededig) nag arfer, bydd y sonograffydd yn ei fesur. Os yw’n mesur dros 5 milimetr (mm), mae hyn yn cael ei ddosbarthu fel wedi ymledu. Gellir gweld RPD mewn un aren yn unig (unochrog) neu’r ddwy aren (dwyochrog).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd bydwraig sy’n arbenigo mewn sgrinio cynenedigol neu’ch meddyg ysbyty (obstetrydd) yn eich gweld a fydd yn egluro pa ofal a gynigir i chi nesaf.  

Pa ofal fydd yn cael ei gynnig i mi?

Os oedd yr RPD yn mesur rhwng 5.1mm a 10.0mm, cynigir sgan pellach i chi pan fyddwch chi rhwng 30 a 32 wythnos yn feichiog.

Os oedd y mesuriad yn 10.1mm neu’n uwch, gelwir hyn yn hydroneffrosis. Byddwch yn cael apwyntiad gydag obstetrydd a fydd yn trafod hyn yn fanylach gyda chi. Byddwch hefyd yn cael cynnig sgan pellach pan fyddwch chi rhwng 30 a 32 wythnos yn feichiog.

Beth fydd y sgan nesaf yn ei ddweud wrtha i?

Os yw’r mesuriad nesaf yn 7.0mm neu lai

Os yw’r mesuriad yn dilyn y sgan nesaf yn 7.0mm neu’n is, ni fydd angen unrhyw ddilyniant pellach. Yng Nghymru mae hyn yn digwydd mewn tua 8 allan o 10 (80%) o fabanod ag RPD yn y sgan anomaledd. Mae gan y babanod hyn yr un siawns o fynd i’r ysbyty gyda phroblem arennau yn ystod plentyndod â babanod nad oeddent wedi gweld RPD ar y sgan anomaledd.

Os yw’r mesuriad nesaf yn 7.1mm neu’n uwch

Os yw’r sgan yn ystod 30 i 32 wythnos yn dangos bod yr RPD yn mesur 7.1mm neu uwch, bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi drafod hyn gyda meddyg a fydd yn egluro hyn yn fanylach.

Yng Nghymru, mewn tua 2 o bob 10 (20%) o fabanod ag RPD yn y sgan anomaledd, mae’r pelfis arennol yn parhau i fod wedi ymledu. I’r babanod hyn, mae’r risg o fynd i’r ysbyty gyda phroblem arennau yn ystod plentyndod tua 20 gwaith yn fwy tebygol nag i fabanod heb RPD ar y sgan anomaledd (38 o bob 100 o blant o’i gymharu â 2 o bob 100 o blant).

Bydd y meddyg yn trefnu i’ch baban gael ei weld gan feddyg babanod (pediatregydd) ar ôl i’ch baban gael ei eni.

Os oes angen dilyniant ar fy maban ar ôl iddo gael ei eni, beth mae hyn yn ei olygu? 

Efallai y bydd y pediatregydd yn cynnig gwrthfiotigau i chi ar gyfer eich baban i atal haint posibl. Byddant hefyd yn trefnu sgan arall ar gyfer pan fydd eich baban tua phythefnos oed i weld a yw’r pelfis arennol yn parhau i fod yn lletach (wedi ymledu). 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cynenedigol neu’ch meddyg ysbyty (obstetrydd).

Ysmygu

Mae amddiffyn eich baban rhag mwg tybaco yn un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i roi dechrau iach mewn bywyd iddo. Gall fod yn anodd rhoi’r gorau i ysmygu, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi’r gorau iddi. Dewch o hyd i wybodaeth a chymorth yn Helpa Fi i Stopio.  

Defnyddiwyd gwybodaeth gan CARIS (Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid) ac Astudiaeth Mamau a Babanod Cymru yn y daflen hon i ddisgrifio sut y gall RPD ymddangos yn eich baban. 

Fersiynau eraill