Gwybodaeth os yw’n feichiog ac wedi derbyn canlyniad adweithiol cychwynnol mewn HIV, hepatitis B neu syffilis
Yr hyn y mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu
Mae eich prawf gwaed cychwynnol wedi dangos canlyniad aneglur (a elwir hefyd yn ganlyniad adweithiol). Yn syml, mae’n golygu bod angen profion pellach arnoch i gadarnhau eich canlyniad.
Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?
Weithiau, gall profion gwaed roi canlyniad aneglur. Nid yw hyn yn golygu bod gennych haint. Fel arfer mae’n digwydd oherwydd bod adwaith gwan yn y prawf. Mae llawer o resymau pam y gall hyn ddigwydd, gan gynnwys y canlynol:
- roedd gennych chi salwch ysgafn, fel annwyd adeg y prawf; neu
- roedd y sampl gwaed yn rhy gynnes neu’n rhy oer wrth iddi gael ei chludo i’r labordy.
Yn aml nid oes rheswm hysbys dros gael canlyniad aneglur.
Profion pellach yn ystod eich beichiogrwydd
I gael canlyniad clir, fe’ch cynghorir i gael prawf gwaed arall. Mae’n bwysig i chi gael prawf arall er mwyn i chi gael canlyniad pendant.
Fel arfer, gofynnir i chi roi’r ail sampl gwaed yn ystod apwyntiad cyn geni diweddarach. Efallai y bydd eich bydwraig yn gofyn rhai cwestiynau i chi a fydd yn eich helpu i benderfynu pryd y byddai orau i chi gael y prawf hwn. Weithiau mae angen mwy nag un sampl gwaed arall i gadarnhau eich canlyniad.
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y gallwch gael canlyniadau’r prawf gwaed ychwanegol (neu brofion) a bydd yn ateb unrhyw gwestiynau pellach a allai fod gennych.
Mae’n bwysig rhannu unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych gyda’ch bydwraig. Bydd y fydwraig yn eich cefnogi ac yn helpu i sicrhau eich bod yn cael y gofal gorau posibl i chi a’ch baban.