Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth os ydych yn feichiog a bod gennych ganlyniad prawf positif ar gyfer HIV

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?

Mae eich canlyniad yn golygu bod gennych yr haint HIV. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn sâl. Mae triniaeth effeithiol ar gael i’ch helpu i aros yn iach.

Beth yw HIV?

Mae HIV yn feirws sy’n ymosod ar y system imiwnedd sy’n amddiffyn y corff rhag salwch. Heb driniaeth, mae’r system imiwnedd yn mynd yn wannach dros amser, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i’ch corff ymladd heintiau a salwch difrifol.

Mae triniaeth effeithiol iawn ar gael sy’n golygu y gallwch ddisgwyl byw cyhyd ag unrhyw un arall. Mae gwybod bod HIV gennych yn golygu y gallwch gael eich monitro a’ch cefnogi gan dîm arbenigol a derbyn triniaeth. Bydd hyn yn eich helpu i gadw’n iach.

HIV a beichiogrwydd

Heb driniaeth, gall mam drosglwyddo HIV i’w baban yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth, neu fwydo ar y fron.

Drwy wybod eich bod yn HIV positif a chael y driniaeth a’r gofal cywir, mae’r siawns o drosglwyddo HIV i’ch baban yn llai na 0.3% (1 o bob 300), sy’n isel iawn. Mae cael y gofal cywir yn eich helpu chi a’ch baban i aros yn iach.

Nid yw HIV yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt bob dydd

Ni allwch drosglwyddo HIV i bobl eraill drwy gyswllt cymdeithasol bob dydd. Mae hyn yn cynnwys siopa, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, bwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd, rhannu tywelion neu doiledau, defnyddio’r un cyllyll a ffyrc, neu gusanu.

Sut y gellir trosglwyddo HIV?

Gellir trosglwyddo HIV yn y ffyrdd canlynol:

  • O fam i’w baban yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth a bwydo ar y fron. Os oes gennych chi blant eraill, bydd eich arbenigwr HIV yn siarad â chi ynghylch a ddylent gael eu profi.
  • Cael rhyw gyda rhywun sydd â HIV heb ddefnyddio condom.
  • Trallwysiadau gwaed neu gynhyrchion gwaed sy’n cynnwys HIV. Yn y DU, mae gwaed wedi cael ei brofi am HIV ers 1985, ond efallai nad yw hyn yn wir mewn rhai gwledydd eraill.
  • Rhannu nodwyddau neu offer chwistrellu gyda rhywun sydd ag HIV.
  • Defnyddio nodwyddau aflan ar gyfer tyllu, tatŵio neu driniaethau meddygol y tu allan i’r DU.
  • Anafiadau damweiniol o nodwyddau a ddefnyddiwyd neu eitemau miniog a allai fod â gwaed arnynt (a elwir weithiau’n ‘anafiadau nodwydd’).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Cynigir apwyntiad i chi mewn clinig arbenigol i chi gael eich asesu, cael archwiliad iechyd cyflawn ac i adolygu cam eich haint HIV. Bydd y tîm arbenigol yn parhau i’ch gweld yn rheolaidd, yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i’ch baban gael ei eni.

Bydd eich bydwraig hefyd yn eich helpu i gynllunio eich gofal a thrafod eich dewisiadau, a sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Monitro’r haint HIV

Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd i wirio’ch iechyd. Mae’r profion hyn yn helpu eich tîm arbenigol i fonitro eich cyflwr a sicrhau bod eich triniaeth yn gweithio. Bydd profion gwaed yn cynnwys:

  • cyfrif CD4 sy’n dangos pa mor gryf yw eich system imiwnedd, a
  • phrawf llwyth feirysol, sy’n mesur faint o HIV sydd yn eich gwaed.

Triniaeth i chi

Caiff triniaeth ei chynnig a’i hargymell yn ystod eich beichiogrwydd a phan fyddwch yn rhoi genedigaeth. Mae’r driniaeth hon yn helpu i wneud y canlynol:

  • eich cadw mor iach â phosibl, ac
  • atal HIV rhag cael ei drosglwyddo i’ch baban yn ystod eich beichiogrwydd ac wrth i chi roi genedigaeth.

Mae triniaeth HIV yn gweithio trwy atal y feirws rhag tyfu. Mae hyn yn lleihau faint o HIV sydd yn eich gwaed (a elwir yn llwyth feirysol).

Argymhellir eich bod yn parhau â’r driniaeth ar ôl i’ch baban gael ei eni. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae’n bwysig eich bod yn eu trafod gyda’r tîm arbenigol HIV. Maen nhw yno i’ch cefnogi chi.

Beth alla i ei wneud i amddiffyn fy maban rhag HIV?

Heb driniaeth, byddai tua 25% i 40% o fabanod (25 i 40 ym mhob 100) a enir i famau ag HIV yn cael yr haint. Drwy ddilyn y camau yn y daflen hon, fel cymryd triniaeth HIV yn ystod beichiogrwydd a rhoi genedigaeth, gellir lleihau’r risg i lai na 0.3% (1 o bob 300).

Triniaeth cyffuriau yn ystod beichiogrwydd a rhoi genedigaeth

Caiff triniaeth HIV ei chynnig a’i hargymell i chi tra byddwch yn feichiog a phan fyddwch yn rhoi genedigaeth. Mae hyn yn eich helpu i gadw’n iach ac yn lleihau’r siawns yn fawr y byddwch yn trosglwyddo HIV i’ch baban.

Rhoi genedigaeth

Os yw eich HIV wedi’i reoli’n dda ac mae eich beichiogrwydd yn syml, ni fydd HIV fel arfer yn effeithio ar eich dewisiadau o ran rhoi genedigaeth i’ch baban.

Bwydo’ch baban

Y ffordd fwyaf diogel o amddiffyn eich baban rhag HIV yw ei fwydo â llaeth fformiwla. Ni argymhellir bwydo ar y fron i fenywod sy’n HIV positif oherwydd y gallant drosglwyddo HIV i’w baban trwy laeth y fron. Bydd eich tîm arbenigol HIV yn siarad â chi am eich opsiynau bwydo cyn i’ch baban gael ei eni ac yn eich cefnogi i wneud y dewis gorau ar gyfer iechyd eich baban.

Argymhellir eich bod yn defnyddio llaeth fformiwla nes y bydd eich baban tua 12 mis oed.

Triniaeth ar gyfer eich baban

Bydd eich baban yn cael meddyginiaeth wrth-HIV am hyd at bedair wythnos ar ôl ei eni er mwyn rhoi amddiffyniad ychwanegol iddo. Rhoddir hyn ar ffurf hylifau. Efallai y bydd hefyd yn cael gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. Bydd eich baban yn cael ei weld mewn clinig plant arbenigol, lle bydd y tîm yn trafod profion a thriniaeth gyda chi.

Profion HIV ar gyfer eich baban

Argymhellir bod eich baban yn cael profion gwaed yn fuan ar ôl ei eni, yn chwe wythnos oed ac yn 12 wythnos oed.

Os bydd canlyniadau’r profion gwaed adeg ei enedigaeth, yn chwe wythnos oed ac yn 12 wythnos oed yn negatif ac nad ydych chi’n bwydo ar y fron, ni ddylai eich baban fod ag HIV. Bydd prawf terfynol ar ôl 18 mis oed yn cadarnhau hyn. Mae hyn oherwydd y gall eich baban gario eich gwrthgyrff HIV nes ei fod tua 18 mis oed. Nid yw’r gwrthgyrff hyn yn golygu bod gan eich baban HIV. Maent yn cael eu trosglwyddo iddo gennych chi cyn i chi roi genedigaeth. Mae’r prawf terfynol yn gwirio am haint HIV, nid dim ond gwrthgyrff.

Pwy ddylai wybod bod gen i HIV?

Er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch baban yn cael y gofal mwyaf diogel a phriodol, efallai y bydd angen i’ch bydwraig rannu gwybodaeth berthnasol ag arbenigwyr eraill sy’n ymwneud â’ch gofal, fel:

  • tîm y clinig HIV,
  • yr obstetrydd (meddyg ysbyty sy’n gofalu am fenywod beichiog); ac
  • pediatregydd (meddyg sy’n gofalu am fabanod a phlant).

Mae’r arbenigwyr hyn yn gweithio gyda chi i gynllunio eich gofal a’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn rhan arferol o ofal y GIG.

Bydd eich bydwraig yn egluro pa wybodaeth sydd angen cael ei rhannu a pham. Gallwch ddewis a ydych chi eisiau i’ch meddyg teulu wybod am eich gofal a’ch diagnosis HIV. Gall dweud wrth eich meddyg teulu am eich diagnosis HIV helpu i osgoi unrhyw broblemau gyda meddyginiaethau sy’n rhyngweithio â’ch triniaeth HIV.

Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol bob amser a dim ond gyda staff gofal iechyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal y caiff ei rhannu.

Siarad â’ch partner

Efallai yr hoffech ofyn i’ch arbenigwr HIV am gyngor ar sut i esbonio canlyniad eich prawf i’ch partner.

Os nad yw’ch partner yn gwybod a oes ganddo HIV:

  • defnyddiwch gondomau i leihau’r siawns o drosglwyddo HIV iddo; ac
  • anogwch eich partner i gael prawf yn ei bractis meddygon teulu neu glinig iechyd rhywiol.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:

y fydwraig ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn geni,

  • yr obstetrydd
  • eich clinig iechyd rhywiol GIG agosaf, ffoniwch eich ysbyty lleol a gofynnwch am y clinig iechyd rhywiol; a
  • phobl eraill. Efallai yr hoffech siarad â menywod eraill sydd ag HIV. Gall Ymddiriedolaeth Terrence Higgins helpu i drefnu hyn.
  • GIG 111 Cymru (Saesneg yn unig)

Fersiynau eraill