Gwybodaeth os ydych yn feichiog a bod gennych ganlyniad prawf positif ar gyfer hepatitis B
Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?
Mae eich prawf gwaed sgrinio yn dangos eich bod wedi bod â’r feirws hepatitis B ar ryw adeg a’ch bod chi’n dal i’w gario yn eich corff.
Mae’n annhebygol y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo i’ch baban yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae siawns uchel y gallai basio i’ch baban yn ystod y geni.
Beth yw hepatitis B?
Mae hepatitis B yn feirws sy’n effeithio ar yr afu. Mae llawer o bobl sydd â hepatitis B yn teimlo’n dda ac nid ydynt yn gwybod bod ganddyn nhw ef nes eu bod nhw’n cael prawf gwaed sy’n ei ddangos.
Dydy rhai pobl byth yn cael gwared ar y feirws, er eu bod nhw’n ymddangos yn iach. Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau, gallwch chi barhau i drosglwyddo’r feirws i eraill.
Nid yw hepatitis B yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt bob dydd
Ni allwch drosglwyddo hepatitis B i bobl eraill trwy gyswllt cymdeithasol bob dydd. Mae hyn yn cynnwys siopa, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, bwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd, rhannu tywelion neu doiledau, defnyddio’r un cyllyll a ffyrc, neu gusanu.
Sut y gellir trosglwyddo hepatitis B?
Gellir trosglwyddo Hepatitis B yn y ffyrdd canlynol:
- Gan fam sydd â hepatitis B, yn trosglwyddo’r haint i’w baban wrth roi genedigaeth.
- Cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd â’r haint. Mae defnyddio condom (ar y pidyn neu gondom mewnol yn y fagina) yn lleihau’r risg o drosglwyddo hepatitis B yn fawr.
- Tatŵs a thyllu wedi’u gwneud gydag offer ansteril. Gellir trosglwyddo hepatitis B os defnyddir offer fwy nag unwaith neu os nad yw wedi’i sterileiddio’n iawn.
- Rhannu nodwyddau neu offer chwistrellu. Mae rhannu neu ailddefnyddio nodwyddau i chwistrellu cyffuriau yn cynyddu’r risg o ledaenu hepatitis B oherwydd bod y feirws yn cael ei gario mewn gwaed unigolion.
- Cael eich anafu gan nodwydd a ddefnyddiwyd neu eitem finiog sydd â gwaed arni (a elwir weithiau’n ‘anaf nodwydd’).
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn cymryd sampl gwaed arall i gadarnhau eich canlyniad. Mae’n annhebygol iawn y bydd y canlyniad hwn yn newid.
Ar yr un pryd, byddwn yn gwneud prawf gwaed arall, i roi rhagor o wybodaeth i ni am unrhyw ofal neu driniaeth a allai gael ei hargymell i chi a’ch baban.
Bydd eich canlyniadau’n cael eu gwirio gan yr arbenigwyr priodol cyn eich apwyntiad, fel y gallwn gynllunio’r gofal gorau i chi.
Bydd y tîm arbenigol yn:
- eich cynghori ar sut i amddiffyn eich baban rhag yr haint, a
- gwirio a oes angen cynnig unrhyw driniaeth i chi.
Gall hepatitis B effeithio ar yr afu, ac mae angen triniaeth ar rai pobl i leihau’r risg o niwed i’r afu.
Sut fydd fy maban yn cael ei amddiffyn?
Gall eich baban gael cwrs diogel ac effeithiol o frechiadau a fydd yn ei amddiffyn rhag hepatitis B ac yn lleihau’r risg o niwed i’r afu yn fawr ar gyfer y dyfodol.
Os yw canlyniad eich prawf gwaed yn dangos bod y feirws yn heintus iawn, bydd eich baban hefyd yn cael cynnig pigiad arall ar yr un pryd i gael amddiffyniad ychwanegol.
Os na fydd eich baban yn cael triniaeth, mae siawns o 90% (9 o bob 10) y bydd yn dal y feirws, yn ei gario am oes, ac yn wynebu risg o ddatblygu niwed difrifol i’r afu yn ddiweddarach yn ei fywyd. Cynigir amddiffyniad rhag hepatitis B i bob baban fel rhan o frechiadau rheolaidd i fabanod. Argymhellir i fabanod y mae eu mamau’n hepatitis B positif gael chwe brechiad ar y camau canlynol er mwyn iddynt gael yr amddiffyniad gorau.
Brechu:
- O fewn 24 awr i’r enedigaeth.
- Yn 1 mis oed
- Yn 2, 3 a 4 mis oed (fel rhan o frechiadau rheolaidd i fabanod).
- Yn 18 mis oed.
Mae’n bwysig iawn bod eich baban yn cael y cwrs llawn o frechiadau. Ar ôl y brechiad olaf, bydd eich baban yn cael prawf gwaed i wneud yn siŵr nad oes ganddo hepatitis B.
Sut alla i aros yn iach gyda hepatitis B?
Gall y camau syml hyn helpu:
- Peidiwch ag yfed alcohol gan y gall niweidio’ch afu.
- Dywedwch wrth eich meddyg fod gennych hepatitis B a gofynnwch am unrhyw brofion neu driniaeth a allai helpu.
- Gwiriwch gyda’ch meddyg cyn i chi gymryd unrhyw feddyginiaeth, gan gynnwys meddyginiaethau llysieuol neu feddyginiaethau y gellir eu prynu heb bresgripsiwn.
- Osgowch chwistrellu cyffuriau. Gall chwistrellu cyffuriau arwain at heintiau eraill (hepatitis C a D) a all hefyd niweidio’ch afu. Os oes angen help arnoch i roi’r gorau iddi, cysylltwch â chanolfan trin cyffuriau.
Pwy ddylai wybod bod gen i hepatitis B?
Er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch baban yn cael y gofal mwyaf diogel a phriodol, efallai y bydd angen i’ch bydwraig rannu gwybodaeth ag arbenigwyr eraill sy’n ymwneud â’ch gofal, fel:
- tîm arbenigol hepatitis B,
- yr obstetrydd (meddyg ysbyty sy’n gofalu am fenywod beichiog), a’r
- pediatregydd (meddyg sy’n gofalu am fabanod a phlant).
Mae’r arbenigwyr hyn yn gweithio gyda chi i gynllunio eich gofal a’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn rhan arferol o ofal y GIG.
Bydd eich bydwraig yn egluro pa wybodaeth sydd angen cael ei rhannu a pham. Gallwch ddewis a ydych chi eisiau i’ch meddyg teulu wybod am eich diagnosis o hepatitis B.
Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol bob amser a dim ond gyda staff gofal iechyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal y caiff ei rhannu.
Siarad â’ch partner
Efallai yr hoffech ofyn i’ch tîm arbenigol am gyngor ar sut i esbonio canlyniad eich prawf i’ch partner.
Os nad yw’ch partner yn gwybod a oes ganddo hepatitis B:
- defnyddiwch gondomau i leihau’r siawns o drosglwyddo hepatitis B iddo, ac
- anogwch eich partner i gael prawf yn ei bractis meddygon teulu neu glinig iechyd rhywiol.
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan:
- y fydwraig ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn geni
- yr obstetrydd
- GIG 111 Cymru