Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am fesuriadau’r sgan anomaledd ffetws

Gwybodaeth:

Fersiwn 2, Hydref 2026

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol os mai mesuriad bach yw’r unig ganfyddiad annisgwyl ar eich sgan anomaledd ffetws.  

Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fyddan nhw rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd. Mae’r sgan yn gwirio a yw’n ymddangos bod eich baban yn datblygu yn ôl y disgwyl. Mae hwyrach y bydd yn dangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn trwy sganiau pellach.

Beth yw mesuriad bach?

Yn ystod y sgan anomaledd y ffetws, maent yn mesur maint pen eich baban, bol (abdomen) ac asgwrn y glun (ffemwr) i weld sut mae’n tyfu. Bydd y sonograffydd sy’n cynnal eich sgan yn gwirio a yw’r mesuriadau hyn o fewn yr ystod ddisgwyliedig. Os bydd unrhyw fesuriadau yn llai na’r disgwyl, byddant yn dweud wrthych pa fesuriad sy’n fach. 

Yn y rhan fwyaf o achosion pan mai mesuriad bach yw’r unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan anomaledd y ffetws, bydd eich baban yn tyfu ac yn datblygu yn ôl y disgwyl.  

Mae’r rhestr isod yn dangos rhai cyflyrau a chanlyniadau sydd wedi’u canfod mewn babanod â mesuriad bach. Bydd y meddyg neu’r fydwraig yn trafod pa rai o’r canfyddiadau hyn a allai fod yn gysylltiedig â mesuriad bach eich baban.  

  • Babanod sy’n cael eu geni yn llai na’r disgwyl  
  • Babanod a enir yn rhy gynnar  
  • Babanod sydd â (neu sydd wedi cael) haint feirysol 
  • Cyflwr meddygol sydd gennych chi a allai effeithio ar dyfiant eich baban. 
  • Babanod sydd â chyflwr genetig  
  • Mwy o siawns o farw-enedigaeth  

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y meddyg neu’r fydwraig yn esbonio pa ofal a gynigir i chi. Byddan nhw’n egluro mwy am y mesuriad bach ac yn trafod y profion a gynigir i chi, sut maen nhw’n cael eu gwneud a phryd y gallwch chi eu cael.  

Byddant yn adolygu’r gofal a gawsoch yn ystod eich beichiogrwydd hyd yn hyn. Byddant hefyd yn adolygu’r profion sgrinio a gawsoch a chanfyddiadau eich sgan. Byddant yn esbonio mwy am ganfyddiadau’r sgan a sut y gellir eu cysylltu â chyflyrau eraill, ac am brofion pellach y gellir eu cynnig i chi. 

Mae rhai menywod yn penderfynu peidio â chael unrhyw brofion pellach. Bydd y meddyg a’r fydwraig yn cefnogi unrhyw ddewis a wnewch. Efallai bod gennych gwestiynau i’w gofyn i’r fydwraig neu’r meddyg ac efallai yr hoffech gael apwyntiad arall. Efallai y byddwch am i’ch partner neu rywun arall ddod gyda chi i gael cymorth. Efallai y byddwch am gael mwy o amser i feddwl cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.  

Yn dibynnu ar ba mor fach yw mesuriad eich baban, neu ganlyniadau eich profion, efallai y cewch eich atgyfeirio at arbenigwr meddygaeth ffetws am adolygiad pellach ac i gynllunio unrhyw ofal dilynol. Gall yr apwyntiad hwn fod mewn ysbyty gwahanol. 

Pa brofion y gellir eu cynnig i mi?

Bydd hyn yn dibynnu ar:

  • pa fesuriad sydd yn fach, a
  • pha mor fach yw’r mesuriad.

Sganiau uwchsain

Efallai y cewch gynnig sgan arall i fonitro’r mesuriad. Efallai y cynigir sganiau rheolaidd i chi hefyd yn ystod gweddill eich beichiogrwydd i wirio twf eich baban. 

Prawf gwaed ar gyfer heintiau

Efallai y cewch gynnig prawf gwaed i weld a ydych wedi cael haint yn ddiweddar, fel sytomegalofeirws (CMV), siffilis, rwbela neu docsoplasmosis. Os bydd y prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael haint yn ddiweddar, efallai bod y feirws wedi cael ei gludo ar draws y brych ac wedi heintio eich baban. Gallai hyn achosi niwed.

Os bydd eich prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael un o’r heintiau hyn, efallai y cewch gynnig amniosentesis i weld a yw wedi trosglwyddo i’ch baban. Mae gan Sgrinio Cynenedigol Cymru ragor o wybodaeth am amniosentesis ar eu tudalen we ‘Gwybodaeth am brofion pellach ar gyfer cyflyrau cromosomaidd neu enetig a amheuir‘.

Os bydd yr ysbyty yn cynnig eich atgyfeirio at arbenigwr meddygaeth ffetws, efallai y bydd yr arbenigwr yn trafod profion pellach, fel y canlynol.

MRI

Os yw pen eich baban yn mesur yn fach yn ystod eich sgan anomaledd efallai y cynigir sgan MRI i chi yn ddiweddarach yn eich beichiogrwydd i weld sut mae ei ymennydd yn datblygu.

Profion genetig

Efallai y cewch gynnig amniosentesis i brofi’r hylif amniotig (yr hylif sy’n amgylchynu’r babi yn y groth) i weld a oes gan eich babi gyflwr genetig.

Efallai y byddwch am feddwl am yr hyn y gallech ei wneud os bydd canlyniadau’r prawf yn dangos bod gan eich babi gyflwr genetig. Bydd rhai menywod am baratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi gyflwr. Efallai y bydd menywod eraill yn penderfynu dod â’r beichiogrwydd i ben.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amniosentesis ar dudalen we Sgrinio Cyn Geni Cymru ‘Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych wedi cael cynnig profion pellach ar gyfer cyflyrau cromosomaidd neu enetig a amheuir’.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael gwybodaeth fwy cyffredinol gan y meddyg ysbyty neu’r fydwraig sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn geni.

Ysmygu

Mae amddiffyn eich babi rhag mwg tybaco yn un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i roi dechrau iach mewn bywyd iddo. Gall fod yn anodd rhoi’r gorau i ysmygu, ond nid yw byth yn rhy hwyr i roi’r gorau iddi. Dewch o hyd i wybodaeth a chymorth yn Helpa Fi I Stopio.

Fersiynau eraill