Gwneud penderfyniadau ac Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac ymgysylltu
Egwyddorion Brown a Bracking
Mae cyfraith achosion yn arwain sut rydym yn asesu effaith.
Dyma egwyddorion Brown a Bracking sy’n helpu i arwain y rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth gynnal asesiadau effaith:
- Gwybodaeth – mae angen i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau wybod y Dyletswyddau Cydraddoldeb
- Dylid ystyried effaith wrth wneud penderfyniadau – nid yn ôl-weithredol
- Rhaid ystyried yn fanwl gyda meddwl agored mewn ffordd sy’n dylanwadu ar y penderfyniad terfynol
- Rhaid i’r Bwrdd Iechyd asesu risg a mesur unrhyw effaith negyddol a’r ffyrdd y gellir dileu risg o’r fath cyn mabwysiadu polisi/penderfyniad arfaethedig.
- Mae cadw cofnodion priodol yn annog tryloywder a sut mae BIPBC/darparwyr wedi ymgymryd â’r ddyletswydd yn gydwybodol – gan gynnwys cyfarfodydd lle trafodir materion
- Ni ellir dirprwyo cyfrifoldebau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) – e.e. ni allwch ei throsglwyddo i sefydliad arall
- Mae dyletswydd PSED yn un barhaus
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Canllawiau technegol ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Cymru | EHRC
I gael canllaw ymarferol, gweler y pecyn cymorth Cyd-gynhyrchu
Ymgysylltu
Gall gwaith ymgysylltu helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a dylai fod yn rhan o’r dystiolaeth mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Beth a olygwn wrth Gyd-gynhyrchu?
Mae Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn ei ddiffinio fel ‘Dull o weithio a seilir ar asedau yw cyd-gynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, sy’n galluogi pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb, ac i gydweithio trwy gysylltiadau cyfartal, dwyochrog a gofalgar Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’i angen, ac i gyfrannu at newid cymdeithasol’.
Cyd-gynhyrchu wrth wneud penderfyniadau:
Mae cyd-gynhyrchu ar draws y GIG yn cyfeirio at gynnwys cleifion, eu teuluoedd, a chymunedau wrth ddylunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd. Fe’i defnyddir mewn sefyllfaoedd pan fo darparwyr gofal iechyd yn cydnabod bod angen iddynt weithio mewn partneriaeth â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu a darparu gofal effeithiol o ansawdd. Gellir defnyddio cyd-gynhyrchu mewn lleoliadau gofal iechyd amrywiol, megis wrth:
- Ddatblygu polisïau a/neu wasanaethau gofal iechyd
- Datblygu canllawiau ac arferion gorau
- Ailgynllunio gwasanaeth
- Darparu gofal
Mae llawer o fanteision i’r dull hwn. Un o’r rhain yw meithrin perthynas agos â rhanddeiliaid
I gael canllaw ymarferol, gweler y pecyn cymorth Cyd-gynhyrchu
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag ymarfer blwch ticio
Cyhoeddwyd adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Medi 2022 a oedd yn archwilio effaith cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar draws sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn darparu ystod o feysydd gwella y dylai sefydliadau fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn i waith asesu fod yn fwy nag ymarfer blwch ticio.