Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys

E-ddysgu MECC

Gall codi cwestiynau am ymddygiadau iechyd fod yn heriol ac nid yw pawb yn teimlo’n hyderus i wneud hynny. Mae defnyddio dull MECC yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth er mwyn helpu pobl i:

  • Deimlo’n hyderus i gynorthwyo unigolion
  • Arwain sgyrsiau am iechyd a lles

Mae hyfforddiant ac adnoddau yn elfen allweddol o raglen MECC. Mae llwyddiant MECC yn dibynnu ar:

  • Gynnig E-Ddysgu Cyffredin Lefel 1 a 2 MECC cenedlaethol sydd ar gael ledled Cymru
  • Cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar lefel leol a rhanbarthol
  • Cynnal cymhwysedd a hyder staff i gyflwyno negeseuon allweddol
  • Gwreiddio MECC mewn ymarfer bob dydd

Hefyd, mae’n bwysig bod staff a gwirfoddolwyr yn gallu cyfeirio unigolion at wasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol priodol.

E-ddysgu MECC

Yma, cewch wybodaeth am sut i gael at fodiwlau e-ddysgu MECC. Bydd y modiwlau hyn yn eich helpu i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gael sgyrsiau effeithiol a all gefnogi newid cadarnhaol mewn ymddygiad iechyd.

Pa e-ddysgu sydd ar gael?

  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 1: Cyffredinol
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Cyffredinol
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 1: Sgyrsiau Pwysau Iach
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Sgyrsiau Pwysau Iach
  • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Lefel 2: Ymyriadau Byr ar Alcohol (ABI)

Sut i gael at e-ddysgu MECC

  1. Os ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG ac mae gennych gyfrif ESR, gallwch gael mynediad at gyrsiau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) drwy ESR (Saesneg yn unig) drwy chwilio am ‘MECC’ fel Llwybr Dysgu.
  2. Os nad ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG, neu os ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG ond nad oes gennych gyfrif ESR, gallwch gael mynediad at gyrsiau MECC drwy Dysgu@Cymru. Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif os nad oes gennych un eisoes.
  3. Fel arall, os ydych yn gweithio i GIG Cymru, neu’n gweithio ym meysydd iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru, gallwch gyrchu cyrsiau MECC trwy Y Tŷ Dysgu, y llwyfan ddysgu genedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Chwiliwch am “MECC” ar y llwyfan. Os nad oes gennych gyfrif yn barod, bydd angen i chi gofrestru am ddim trwy Y Tŷ Dysgu.