Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

Cefnogi ymddygiadau iach

Tynnodd Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (safle allanol), sylw at yr angen i symud tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar, er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl, a chefnogi cynaliadwyedd ein system iechyd a gofal. 

Mae llawer o gyfleoedd i gychwyn sgyrsiau newid ymddygiad, a grymuso pobl i wneud dewisiadau iachach, trwy’r nifer uchel o gysylltiadau rhwng unigolion a gwasanaethau gofal sylfaenol. 

Mae’r Adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu cyfres o adnoddau, wedi’u cynllunio i gyfarparu’r gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol i gael sgyrsiau ag unigolion am fabwysiadu ymddygiadau iach. Mae’r adnoddau yn y gyfres hon wedi’u teilwra i staff sy’n gweithio ym meysydd (1) ymarfer cyffredinol, (2) optometreg a (3) fferylliaeth gymunedol. 

Mae’r adnoddau’n trafod ymddygiadau iechyd allweddol, mewn perthynas ag ysmygu, fepio, alcohol, defnyddio sylweddau, pwysau iach a gweithgarwch corfforol, ac yn cynnwys yn benodol: 

  • Meysydd ar gyfer gweithgareddau gwella ansawdd
  • Dolenni i hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer y gweithlu
  • Gwybodaeth gryno am fanteision mabwysiadu ymddygiadau iach a’r niwed sy’n cael ei achosi gan ymddygiadau afiach
  • Cyfeirio unigolion at wybodaeth ar gael cymorth pellach.

Er bod yr adnoddau isod wedi’u teilwra i’w defnyddio mewn gwasanaethau penodol dan gontract, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth yn berthnasol i ystod eang o staff mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Darllenwch Cefnogi Ymddygiadau Iach – Canllaw ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol

Darllenwch Cefnogi Ymddygiadau Iach – Canllaw ar gyfer Optometreg

Darllenwch Cefnogi Ymddygiadau Iach – Canllaw ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol