Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi – Mae hypothyroidedd cynhenid (CHT) yn cael ei amau

Mae prawf smotyn gwaed eich baban newydd-anedig (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod isthyroidedd cynhenid arno ​​(CHT).  

Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes CHT arno.  

Beth yw CHT? 

Mae CHT yn gyflwr prin y gellir ei drin. 

Nid yw babanod y mae CHT arnynt yn cynhyrchu digon o’r hormon thyrocsin, sy’n sylwedd naturiol a gynhyrchir yn y corff. Mae thyrocsin yn cael ei gynhyrchu gan y chwarren thyroid yn y gwddf. Os na chaiff ei drin, gall CHT arwain at broblemau iechyd hirdymor.  

O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â CHT dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl â CHT fwynhau bywydau iach a gweithgar.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd tîm arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban CHT. 

Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn. 

Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban CHT, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.

Sut y gallech chi fod yn teimlo:

 Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chefnogaeth gan:  

British Thyroid Foundation. 

  • Ffonio:01423 810093 

E-bost: [email protected]

Fersiynau eraill