Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi – Mae clefyd wrin surop masarn (MSUD) yn cael ei amau

Mae prawf smotyn gwaed (pigo sawdl) eich baban newydd-anedig yn awgrymu y gallai fod clefyd wrin surop masarn (MSUD) ganddo.  

Nid yw hyn yn cadarnhau bod gan eich baban MSUD – mae angen cynnal rhagor o brofion. 

Beth yw MSUD?

Mae clefyd wrin surop masarn (MSUD) yn anhwylder metabolaidd etifeddol prin y gellir ei drin. 

Nid oes gan fabanod ag MSUD ddigon o’r ensym sydd ei angen arnynt i dorri i lawr rhan o’r protein a geir mewn bwyd. Heb yr ensym hwn, gall rhai sylweddau gronni yn y corff. Os na chaiff ei drin, gall arwain at salwch difrifol a phroblemau iechyd hirdymor. 

O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod ag MSUD dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl ag MSUD fwynhau bywydau iach a gweithgar.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd tîm metabolig arbenigol yn trefnu profion ychwanegol i gadarnhau a oes gan eich baban MSUD. 

Gall gymryd ychydig ddyddiau i ganlyniadau’r profion hyn gael eu dychwelyd.

Gwybodaeth:

Os bydd eich baban yn mynd yn sâl neu os ydych chi’n poeni ei fod yn bwydo’n wael, ceisiwch sylw meddygol. 

Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban MSUD, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm metabolig a fydd yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth ar unwaith. 

Sut y gallech chi fod yn teimlo:

Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chefnogaeth o’r adnoddau isod:

Metabolic Support UK 

  • Rhif ffôn: 0845 241 2173 neu 0800 652 3181 

Mae llyfryn defnyddiol am MSUD (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan British Inherited Metabolic Diseases Group (BIMDG).

Fersiynau eraill