Canlyniad sgrinio eich babi chi – Mae ffibrosis systig (CF) yn cael ei amau
Mae prawf smotyn gwaed eich baban newydd-anedig (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod ganddo/ganddi ffeibrosis systig.
Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes gan eich baban ffeibrosis systig.
Beth yw Ffeibrosis Systig?
Mae ffeibrosis systig yn gyflwr prin a etifeddir ond y gellir ei drin.
Gall babanod â ffeibrosis systig gynhyrchu mwcws trwchus a gludiog sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r system dreulio. Os na chaiff ei drin, gall ffeibrosis systig arwain at broblemau iechyd hirdymor.
O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â ffeibrosis systig dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl â ffeibrosis systig fyw bywydau iach a gweithgar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban ffeibrosis systig.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn.
Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban ffeibrosis systig, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol a fydd yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau’r driniaeth yn brydlon.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol:
Yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig
- Gwefan: www.cysticfibrosis.org.uk (Saesneg yn unig)
- Rhif ffôn: 0300 373 1000 neu 020 3795 2184 (Dydd Llun–Dydd Gwener 10am-4pm)
- E-bost: [email protected]
- WhatsApp: 07361 582053