Canlyniad sgrinio eich babi – Amheuir diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwyn-ganolig (MCADD)
Mae prawf smotyn gwaed (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod gan eich baban newydd-anedig ddiffyg dihydrogenas asyl-CoA cadwyn ganolig (MCADD).
Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes ganddo MCADD.
Beth yw MCADD?
Mae MCADD yn anhwylder metabolaidd etifeddol prin y gellir ei drin.
Nid yw babanod ag MCADD yn gallu torri i lawr brasterau’n ddigon cyflym i gynhyrchu egni.
Ni fydd MCADD yn achosi problemau oni bai pan fo angen torri brasterau i lawr yn gyflym, er enghraifft pan na fydd baban wedi bwyta ers amser maith neu pan fydd yn sâl. Os bydd hyn yn digwydd, gall MCADD achosi siwgr gwaed isel a chroniad rhai brasterau a sylweddau niweidiol yn y corff. Os na chaiff ei drin, gall MCADD arwain at salwch difrifol a phroblemau iechyd hirdymor.
O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â MCADD dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl ag MCADD fwynhau bywydau iach a gweithgar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm metabolig arbenigol yn cynnal rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban MCADD.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch barhau i fwydo’ch baban ar y fron neu ei fwydo â photel fel arfer.
Os bydd eich baban yn mynd yn sâl neu os ydych chi’n poeni nad yw’n bwydo’n iawn, ceisiwch gymorth meddygol.
Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban MCADD , byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus ac yn ansicr pan fydd angen profion ychwanegol ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol:
Metabolic Support UK
- Gwefan: www.metabolicsupportuk.org (Saesneg yn unig)
- Rhif ffôn: 0845 241 2173 neu 0800 652 3181
- E-bost: [email protected]
Mae llyfryn defnyddiol am MCADD (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan British Inherited Metabolic Diseases Group (BIMDG)