Neidio i'r cynnwys

Brechlyn ffliw - Cymhwystra ar gyfer y brechlyn ffliw

Mae dros filiwn o bobl yn cael eu brechlyn ffliw bob blwyddyn yng Nghymru. Mae hynny’n fwy nag un o bob pedwar o bobl.

Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, os ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n hŷn. Gall y ffliw fod yn ddifrifol i blant ifanc hefyd.  

Pwy ddylai gael y brechlyn ffliw?

Dylech chi gael y brechlyn ffliw os oes un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n feichiog
  • yn 65 oed neu hŷn (neu’n troi’n 65 cyn diwedd y rhaglen brechu ffliw), neu
  • rhwng chwe mis a 64 oed ac yn byw â chyflwr iechyd hirdymor sy’n cynnwys:
    • problemau gyda’ch brest neu broblemau anadlu. Mae hyn yn cynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma, sy’n golygu bod angen defnyddio anadlyddion neu dabledi steroid yn rheolaidd
    • problem ar y galon
    • clefyd yr arennau (o gam 3)
    • clefyd yr afu
    • cyflyrau’r nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
    • anabledd dysgu
    • salwch meddwl difrifol
    • diabetes
    • annigonolrwydd adrenal, fel clefyd Addison
    • epilepsi
    • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
    • pobl heb ddueg neu broblem gyda’r ddueg, neu
    • bod ymhell dros bwysau. Mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy yw hyn, ac yn 16 oed neu’n hŷn.

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, rydych chi mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw os oes unrhyw un o’r uchod yn berthnasol i chi.  

Dylai’r bobl ganlynol hefyd gael y brechlyn ffliw i helpu i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

  • Pobl sy’n byw mewn cartref gofal neu gyfleuster gofal hirdymor arall
  • Pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Pobl ddigartref
  • Pobl sy’n byw yn y carchar
  • Pobl sy’n gweithio gydag ieir (gweithwyr dofednod) sy’n wynebu risg uchel
  • Pobl sy’n gweithio gyda gwartheg a moch (gweithwyr da byw) sy’n wynebu risg uchel
  • Plant dwy a thair oed (ar 31 Awst)
  • Plant oedran ysgol a phobl ifanc o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11
  • Gofalwyr
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio
  • Unigolion sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechlyn yn gyflym a di-boen drwy chwistrell trwyn. Bydd niwl mân yn cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn, trwy’r ddwy ffroen. Y brechlyn chwistrell trwyn yw’r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o ddwy oed i fyny.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, dylai’r practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechlyn, cysylltwch â’r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol neu’r â’r practis meddyg teulu os nad yw yn yr ysgol.

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod wedi methu eich gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu eich fferyllfa leol.

Sut i gael eich brechlyn ffliw

Mae’r tabl isod yn dangos pwy all gael y brechlyn ffliw a ble y gallwch ei gael.

Plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst) Practis meddygon teulu (mewn rhai ardaloedd, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn meithrinfeydd i blant tair oed)
Plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Yn yr ysgol
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol Practis meddyg teulu (bydd angen i chi wneud apwyntiad)
Plant rhwng chwe mis a 17 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor Practis meddyg teulu (bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig yn yr ysgol i blant oedran ysgol)
Merched beichiog Practis meddyg teulu, rhai fferyllfeydd lleol, neu gan eich bydwraig (mewn rhai ardaloedd yng Nghymru)
Oedolion â chyflwr iechyd hirdymor Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Pobl 65 oed neu hŷn Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Gofalwyr di-dâl Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Gweithwyr gofal cartref (y rhai sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl) Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd)
Staff cartrefi gofal a’r rhai sy’n gweithio mewn cyfleusterau gofal hirdymor eraill Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd)
Gweithiwyr iechyd a gofal cymdeithasol Drwy eich cyflogwr neu yn eich practis meddygon teulu
Pobl sy’n gweithio gydag ieir (gweithwyr dofednod) sy’n wynebu risg uchel

Pobl sy’n gweithio gyda gwartheg a moch (gweithwyr da byw) sy’n wynebu risg uchel

Fferyllfa leol (os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn)

O’ch practis meddygon teulu (os ydych chi’n 16 neu 17 oed)

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd. 

Oedolion

Brechlyn ffliw a beichiogrwydd

Mae cael brechlyn ffliw yn ddiogel yn ystod pob cam o feichiogrwydd.

Os bydd rhywun sy’n feichiog yn cael y ffliw, maent mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty. Felly, mae’r baban yn fwy tebygol o gael ei eni’n gynnar, o fod â phwysau geni isel, o fod yn farwanedig neu mewn perygl o farw. Mae’r brechlyn hefyd yn helpu i amddiffyn y baban yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd, pan all y ffliw fod yn ddifrifol iawn.

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog (os yw’r brechlyn ar gael). Gallwch ei gael ar yr un pryd â’r brechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV), brechlyn y pas a brechlyn COVID-19 (os ydych chi’n gymwys oherwydd clefyd neu driniaeth). Fodd bynnag, peidiwch ag oedi cael eich brechlyn ffliw dim ond er mwyn i chi allu cael brechlynnau eraill ar yr un pryd.

Os ydych chi’n feichiog, gallwch gael eich brechlyn ffliw gan eich meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gall bydwragedd roi brechlynnau ffliw.

Argymhellir y brechlyn ffliw bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.

Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch baban. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.

Yn y gaeaf, mae miloedd o bobl yn marw yn y DU o salwch sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yn un o’r ffyrdd gorau o’ch amddiffyn chi a’ch baban rhag y ffliw.

Unrhyw un o chwe mis a hŷn sy’n byw â chyflwr iechyd hirdymor

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, rydych chi mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw os oes unrhyw un o’r isod yn berthnasol i chi:

  • problemau gyda’ch brest neu broblemau anadlu. Mae hyn yn cynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma, a’ch bod yn defnyddio anadlyddion neu dabledi steroid yn rheolaidd
  • problem ar y galon
  • clefyd yr arennau (o gam 3)
  • clefyd yr afu
  • cyflyrau’r nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
  • anabledd dysgu
  • salwch meddwl difrifol
  • diabetes
  • annigonolrwydd adrenal, fel clefyd Addison
  • epilepsi
  • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
  • pobl heb ddueg neu broblem gyda’r ddueg, neu
  • fod ymhell dros bwysau. Mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy yw hyn, ac yn 16 oed neu’n hŷn.

Os ydych yn oedolyn yn y grŵp hwn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis meddygon teulu neu yn eich fferyllfa leol. Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn yr ysgol (os ydynt yn y grŵp oed iawn) neu yn eu practis meddygon teulu.

Pobl 65 oed a hŷn

Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn (yn cynnwys y rhai sy’n 65 oed erbyn 31 Mawrth), rydych chi’n fwy tebygol o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw.

Gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis meddygon teulu neu yn eich fferyllfa leol.

 

 

Pobl sy’n byw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, neu gyfleuster gofal hirdymor arall

Bron bob blwyddyn, bydd angen triniaeth ar rai plant mewn uned gofal dwys oherwydd y ffliw. Mae hyn yn cynnwys rhai mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion a hosbisau plant. Mae hyn yn golygu bod y preswylwyr mewn mwy o berygl o ddal y ffliw na phobl eraill. Fel arfer, rheolwr y cartref gofal fydd yn trefnu i breswylwyr gael eu brechlyn ffliw.

Gofalwyr

Os ydych chi’n gofalu am rywun y byddai ei iechyd neu ei lesiant mewn perygl pe byddech chi’n chi’n dal y ffliw, dylech gael brechlyn ffliw am ddim. Mae hyn yn cynnwys gofalwyr di-dâl. Mae cael eich brechiad rhag y ffliw yn helpu i’ch diogelu chi a’r person neu’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt.

Gallwch gael y brechlyn ffliw yn eich practis meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol.

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Os ydych yn gweithio mewn cartref gofal, yn weithiwr gofal yn y cartref neu’n weithiwr gofal iechyd, gallwch gael gwybod sut mae cael eich brechlyn ffliw yn Y Ffliw – Gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer y brechiad – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol ac yn darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio, neu os ydych yn ymatebwr cyntaf yn y gymuned, dylech chi hefyd gael y brechlyn ffliw. Gallwch gael hwn yn eich practis meddyg teulu neu yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd lleol – bydd rhaid i chi ddangos prawf o’ch rôl.

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw?

Ychydig iawn o bobl na all gael y brechiad ffliw. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw.

Os ydych yn sâl a bod gennych dymheredd uchel, dylech ohirio’r brechiad hyd nes eich bod yn teimlo’n well.

Plant a phobl ifanc

Pa blant all gael brechlyn ffliw am ddim?

Gall pob plentyn dwy oed a hŷn gael y brechlyn ffliw am ddim. Mae hyn yn cynnwys:

  • plant sy’n ddwy neu dair oed ar 31 Awst
  • pob plentyn ysgol gynradd
  • pob plentyn ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7 i 11
  • plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol (gallant gael eu brechlyn yn eu practis meddygon teulu), a
  • phlant chwe mis oed neu hŷn sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl oherwydd y ffliw.
Pam mae angen brechlyn ffliw ar blant a rhai pobl ifanc?

Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un ddal y ffliw, ond mae plant yn fwy tebygol o’i ddal a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt hwy.

Gall ffliw arwain at:

  • broncitis (llid yr ysgyfaint)
  • niwmonia (heintiau’r ysgyfaint), a
  • heintiau yn y glust

Mae rhai plant yn mynd mor sâl fel bod angen iddynt fynd i’r ysbyty.

Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?

Os yw eich plentyn yn chwe mis oed neu hŷn a bod ganddo unrhyw un o’r cyflyrau iechyd canlynol, mae’n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn:

  • Diabetes
  • Annigonolrwydd adrenal, fel clefyd Addison
  • Problem ar y galon
  • Problem gyda’r frest neu broblem anadlu, yn cynnwys asthma, a bod angen iddo ddefnyddio anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • System imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
  • Clefyd yr afu
  • Cyflyrau’r nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
  • Pobl heb ddueg neu broblem gyda’r ddueg
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Plant (chwe mis oed neu hŷn ar 1 Medi) sydd â mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu uwch
  • Epilepsi

Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n ddigartref gael brechiad ffliw hefyd.

Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt ym mlwyddyn derbyn i flwyddyn 11 yr ysgol. Gall plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol gael y brechlyn ffliw yn eu practis meddyg teulu.

Gofalwyr ifanc

Mae’n bwysig iawn i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun sydd mewn mwy o berygl oherwydd y ffliw gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae’n helpu i’w diogelu nhw a’r person maent yn gofalu amdano.

Oes plant a phobl ifanc na ddylent gael y chwistrell trwyn?

Ni ellir rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc sydd:

  • o dan ddwyflwydd oed
  • yn cael triniaeth aspirin (salicylate) hirdymor
  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n peryglu bywyd i’r brechlyn neu ei gynhwysion
  • â system imiwnedd wan oherwydd clefyd neu driniaeth
  • yn feichiog
  • â brest wichiog ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tridiau blaenorol, neu
  • wedi cynyddu’r defnydd o’u hanadlyddion asthma yn ystod y tridiau blaenorol.

Mae rhai sefyllfaoedd lle dylech chi gael cyngor ynglŷn â rhoi’r brechlyn chwistrell trwynol i’ch plentyn. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r meddyg teulu os yw’ch plentyn:

  • yn dioddef o asthma ac mae angen steroidau geneuol rheolaidd arno neu wedi bod angen  triniaeth gofal dwys ar ei gyfer
  • yn cael mewnblaniad cochlear wedi’i osod (nid yw’n ddelfrydol os ydyn nhw’n cael y brechlyn  chwistrell drwynol yn yr wythnos cyn neu bythefnos ar ôl)
  • â chamffurfiad o’r wyneb a’r penglog heb ei drwsio, neu
  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn. Er enghraifft, pobl sydd mewn amgylchedd gwarchodedig ar ôl cael trawsblaniad mêr esgyrn.

Os na all plentyn neu berson ifanc gael y brechlyn ffliw drwy’r chwistrell trwyn, gall gael y brechlyn ffliw drwy bigiad yn lle hynny. Mae hyn ar gael yn ei bractis meddyg teulu a thrwy rai gwasanaethau nyrsio ysgol.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw

Os yw eich plentyn yn sâl a bod ganddo dymheredd uchel, mae’n well gohirio ei frechiad hyd nes ei fod yn teimlo’n well.

A all fy mhlentyn gael y brechlyn os oes ganddo alergeddau?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau.

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn os yw’ch plentyn wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Gellir rhoi’r brechlyn chwistrell drwynol yn ddiogel i’r rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau. Os yw eich plentyn wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i wy a oedd angen triniaeth gofal dwys, dylid cynnig brechlyn ffliw priodol iddo drwy bigiad.

A yw’r brechlyn chwistrell drwynol yn cynnwys gelatin?

Mae brechlyn ffliw chwistrell drwynol yn cynnwys olion bach o gelatin porc wedi’i buro’n dda.

Dyma’r brechlyn ffliw a argymhellir i’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. 

Ni fydd rhai pobl yn bwyta gelatin porc oherwydd eu ffydd. Mae cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig wedi cymeradwyo defnyddio’r brechlyn chwistrell drwynol ffliw. Mae hyn oherwydd bod y chwistrell drwynol ffliw yn gynnyrch nad yw drwy’r geg ac yn feddyginiaeth.

Os penderfynwch nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael y chwistrell drwynol, gallant gael pigiad yn lle hynny. Nid yw hyn yn cynnwys gelatin porc. Gallwch amlygu hyn ar eich ffurflen gydsynio. Neu gallwch gysylltu â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r eddyg teulu i drafod gyda nhw sut i gael y pigiad.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlynnau a gelatin porc.

Pobl sy’n gweithio gydag ieir (gweithwyr dofednod), gwartheg neu foch (gweithwyr da byw)

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, yn 16 oed neu hŷn ac yn gweithio gydag ieir, gwartheg neu foch, gallwch gael brechlyn ffliw GIG Cymru am ddim yr hydref neu’r gaeaf hwn.

Mae llythyr ar gael sy’n cadarnhau eich swydd a’ch cymhwysedd. Ewch â’r llythyr i fferyllfa pan fyddwch chi’n cael eich brechlyn:

  • Llythyr ffliw i weithwyr dofednod **yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd**
  • Er mwyn cael eich brechlyn, bydd angen i chi fynd â’ch llythyr cadarnhau i’ch fferyllfa leol, neu ddangos math arall o brawf eich bod chi’n weithiwr dofednod.  Mae enghreifftiau’n cynnwys slip cyflog neu fathodyn adnabod staff.

Mae dofednod, gwartheg a moch yn golygu adar, gwartheg a moch sy’n cael eu magu neu eu cadw:

  • i gynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill i’w gwerthu
  • fel anifeiliaid bridio sy’n cynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill i’w gwerthu
  • i amnewid stociau anifeiliaid hela

Mae prosesu dofednod, gwartheg a moch yn golygu gwaith i gynhyrchu:

  • dofednod, gwartheg a moch ar gyfer bwyd
  • cynhyrchion eraill o ddofednod, gwartheg a moch
Pam y gall gweithwyr dofednod a da byw gael brechlyn ffliw?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyngor gan arbenigwyr brechlynnau.

Pobl sy’n gweithio gydag ieir (gweithwyr dofednod) a phobl sy’n gweithio gyda gwartheg a moch (gweithwyr da byw):

Y nod yw lleihau’r risg o gael ffliw dynol a ffliw adar ar yr un pryd. Mae hefyd yn anelu at leihau’r risg o gael ffliw dynol a math arall o ffliw a gludir gan wartheg a moch ar yr un pryd. Mae hyn yn helpu i leihau’r siawns o ddatblygu math newydd o ffliw a allai ledaenu rhwng pobl.

Pa weithwyr dofednod a da byw all gael brechlyn ffliw?

Yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlyn ffliw os ydych chi:

  • yn 16 oed neu hŷn
  • yn byw yng Nghymru, ac
  • yn bodloni’r meini prawf canlynol:
  1. Rydych chi’n gweithio ar safle lle yr amheuir bod ffliw adar ar yr anifeiliaid neu ar safle lle cafodd achosion o ffliw adar eu cadarnhau ar yr anifeiliaid, a’ch bod yn: 
  • difa neu drin anifeiliaid byw sy’n sâl
  • glanhau mannau caeedig, neu’n
  • casglu anifeiliaid marw.
  1. Rydych chi’n gweithio’n rheolaidd ar safleoedd dofednod cofrestredig sydd â 50 neu fwy o adar, neu safleoedd gwartheg a moch, neu eich bod chi’n ymweld yn rheolaidd â’r safleoedd hyn. Rydych chi’n dod i gysylltiad uniongyrchol â gwastraff anifeiliaid yn eich gwaith, a’ch bod yn:
  • mynd yn rheolaidd i fannau caeedig lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw neu eu magu
  • casglu a gwaredu gwastraff anifeiliaid neu ddeunydd gorwedd o siediau, neu’n glanhau siediau ac adeiladau’n drylwyr
  • didoli wyau os yw’r ardal ddidoli yn rhan o’r uned gynhyrchu, neu’n
  • dal neu ddifa ieir mewn mannau caeedig lle cânt eu magu neu lle cynhyrchir wyau.
  1. Rydych chi’n gweithio mewn unedau prosesu cywion ieir, gwartheg neu foch ac yn: 
  • dal a thrin adar byw
  • lladd a phrosesu anifeiliaid, neu’n
  • glanhau a diheintio ardaloedd ac offer sydd â baw adar neu wastraff anifeiliaid drostynt.
A fydd y brechlyn ffliw yn fy atal rhag cael ffliw gan adar neu anifeiliaid?

Na, ni fydd y brechlyn ffliw yn eich amddiffyn rhag ffliw adar, na ffliw gan anifeiliaid fel gwartheg neu foch. Fodd bynnag, bydd y brechlyn yn helpu i amddiffyn rhag ffliw dynol.

Drwy leihau eich risg o ddal ffliw dynol, mae’r brechlyn hefyd yn lleihau eich siawns o gael ffliw dynol a ffliw adar neu anifeiliaid ar yr un pryd. Mae hyn yn bwysig. Gallai dal y ddau fath o ffliw ar yr un pryd greu math newydd o ffliw sy’n lledaenu’n haws rhwng pobl.

Bydd y brechlyn ffliw hefyd yn helpu i leihau’r risg o salwch difrifol pe baech yn dal y ddau fath ar yr un pryd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Awst 2026