Neidio i'r cynnwys

Beichiogrwydd heb ei gynllunio - Prawf beichiogrwydd bositif

Prawf bositif – beth nawr?

Os yw canlyniad y prawf beichiogrwydd yn bositif, gallai hyn olygu eich bod yn feichiog. Mae pob prawf yn ddibynadwy iawn. Fodd bynnag, mae rhai pethau yn gallu achosi canlyniadau positif ffug, er enghraifft meddyginiaethau a ddefnyddir ar gyfer triniaethau ffrwythlondeb. 

Pryd mae’n rhaid i mi wneud penderfyniad am beth i’w wneud?

Er eich bod yn teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad o bosib, mae’n bwysig cymryd amser i ystyried eich dewisiadau a gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir i chi.

Wrth wneud eich penderfyniad, efallai y bydd hi’n ddefnyddiol ystyried y canlynol:

  • Eich bywyd ar hyn o bryd. Beth sydd fwyaf pwysig i chi mewn bywyd ar hyn o bryd? Gall hyn gynnwys pethau fel teulu, ffrindiau, gwaith, addysg.
  • Eich dyfodol. Beth yw eich gobeithion a’ch nodau i’r dyfodol?

Mae’n bwysig eich bod yn cael cymorth pan fydd ei angen arnoch chi, ac nad ydych chi’n teimlo dan bwysau i wneud penderfyniad nad ydych chi eisiau ei wneud. Eich penderfyniad chi yw hyn. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i benderfynu.

Gallwch chi ddewis:

  • Parhau â’r beichiogrwydd a bod yn rhiant
  • Dod â’r beichiogrwydd i ben drwy gael erthyliad
  • Parhau â’r beichiogrwydd a dewis mabwysiadu

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Tachwedd 2025