Atal cenhedlu - Dewis dull atal cenhedlu
Pa ddull atal cenhedlu sy’n iawn i mi?
Mae atal cenhedlu yn amddiffyn rhag beichiogrwydd. Mae llawer o ddulliau atal cenhedlu ar gael yn y DU ar hyn o bryd.
Mae angen defnyddio dull atal cenhedlu tan y menopos. Mae hyn yn golygu dwy flynedd ar ôl eich mislif olaf os ydych o dan 50 oed, neu un flwyddyn os ydych dros 50 oed. Gall y cyngor hwn fod yn wahanol os ydych yn defnyddio dull atal cenhedlu hormonaidd. Mae’r rhan fwyaf o ddulliau atal cenhedlu wedi’u dylunio i’w defnyddio gan fenywod. Fodd bynnag, mae’r condom allanol (gwrywaidd) yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd.
Mae’n werth cymryd amser i ddarganfod mwy am bob dull er mwyn i chi allu dewis un sy’n gweddu i chi. O’r 15 dull, mae dau yn benodol ar gyfer dynion – y condom (dynion) allanol a diffrwythloni dynion (fasdoriad) – ac mae 13 ar gyfer menywod. Bydd y math sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar eich oed, eich iechyd a’ch amgylchiadau. Er enghraifft, ydych chi eisiau gwneud atal cenhedlu yn rhan o’ch trefn ddyddiol ai peidio? Oes gwahaniaeth gennych chi os bydd eich mislif yn newid? Beth os nad ydych yn gallu defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd?
A yw atal cenhedlu yn effeithio ar ffrwythlondeb yn y dyfodol?
Mae defnyddio rhai dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn gysylltiedig ag oedi cyn i ffrwythlondeb ddychwelyd. Mae dulliau atal cenhedlu chwistrelladwy yn dangos yr oedi hiraf (hyd at flwyddyn). Fodd bynnag, nid oes fawr ddim effaith, os o gwbl, ar y siawns o feichiogi pan fyddwch yn barod i geisio cael babi, hyd yn oed ar ôl defnyddio’r dulliau hyn am gyfnod hir.
Sut gallaf ddod o hyd i wasanaeth atal cenhedlu?
Darperir tua thri chwarter o wasanaethau atal cenhedlu mewn gofal sylfaenol, gyda’r gweddill yn cael eu darparu gan fferyllfeydd a chlinigau iechyd rhywiol. Mae atal cenhedlu brys hefyd ar gael gan eich meddyg teulu, clinigau iechyd rhywiol a fferyllfeydd.
Gallwch brynu condomau allanol (gwrywaidd) a chondomau mewnol (benywaidd) gan fferyllfeydd, yn ogystal ag o beiriannau gwerthu, archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol a siopau eraill.
Cyflenwadau iechyd rhywiol
Gallwch gael condoms am ddim mewn amrywiaeth o feintiau a mathau, gan gynnwys rhai heb latecs, drwy wasanaeth archebu condomau Iechyd Rhywiol Cymru. Gallwch hefyd gael cyflenwadau eraill, gan gynnwys:
- Liwb.
- Damiau: Defnyddir y rhain ar gyfer rhyw drwy’r geg ac rydym yn gallu darparu fersiynau heb latecs.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch ar ein platfform archebu, cysylltwch â ni: [email protected]
Archebwch eich cyflenwadau iechyd rhywiol am ddim
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 7fed Hydref 2026