Neidio i'r cynnwys

Aseswyr a Dilyswyr

Aseswyr

Cyfrifoldebau’r aseswr:

  • Cwblhau hyfforddiant Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig i aseswyr yn llwyddiannus 
  • Gallu asesu’n fedrus y dystiolaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr 
  • Bod yn hollol gyfarwydd â’r safonau ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus
  • Cadarnhau bod yr holl safonau wedi’u bodloni, a throsglwyddo ceisiadau i’w dilysu gan y dilyswr a benodwyd 

Pwy sy’n gymwys:
I fod yn aseswr mae angen i chi fod yn weithiwr proffesiynol ym maes iechyd, sydd â dwy flynedd o brofiad o weithio ar lefel uwch ym maes iechyd cyhoeddus.  

Ymrwymiad o ran amser:
Mae’n ofynnol i aseswyr fynychu 1.5 diwrnod o hyfforddiant a gyflwynir gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, ni ddisgwylir iddynt asesu mwy na dau ymarferydd y flwyddyn ac ni ddylai unrhyw un ohonynt gymryd mwy na 12 awr i’w asesu. At hynny, caiff aseswyr eu gwahodd i sesiynau diweddaru hyfforddiant bob blwyddyn.

Manteision bod yn aseswr:
Hyfforddiant ac arfarniad a ardystiwyd gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig, sy’n gallu cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus 
Dealltwriaeth well o sut y caiff yr ystod lawn o wybodaeth a sgiliau ym maes iechyd cyhoeddus eu rhoi ar waith wrth i ymarferwyr gyflwyno ymyriadau iechyd cyhoeddus 
Gwerthfawrogiad ehangach o agendâu, polisïau, rolau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mewn ardaloedd daearyddol a meysydd gwasanaeth eraill 

Dilyswyr

Cyfrifoldebau’r dilyswr 

Mae’n rhaid i ddilyswyr:

  • Gwblhau hyfforddiant Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig i ddilyswyr  
  • Gwneud argymhellion i’r Panel Dilysu priodol
  • Gwirio bod y prosesau tuag at gofrestru wedi’u gweithredu yn gywir 
  • Cadw am 3 mis gopi o’r cais y mae’r ymarferydd wedi’i gwblhau er mwyn cael ei gynnwys yng Nghofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig

Bod yn gymwys:
I fod yn ddilyswr rhaid eich bod yn arbenigwr iechyd cyhoeddus sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig, rhaid bod gennych enw da, a rhaid eich bod wedi dal swydd meddyg ymgynghorol neu arbenigwr am 3 blynedd.   

Ymrwymiad o ran amser:
Bydd yn ofynnol i chi fynychu hanner diwrnod o hyfforddiant a gyflwynir gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Bydd angen i chi fynychu 2 – 3 Panel Dilysu bob blwyddyn ac 1 – 2 weithdy hanner diwrnod bob blwyddyn.

Manteision bod yn ddilyswr:

  • Hyfforddiant a ardystiwyd gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus – ‘gwarcheidwad safonau ymarferwyr’, hyfforddiant parhaus 
  • Gwerthfawrogiad gwell o sut y caiff yr ystod lawn o wybodaeth a sgiliau ym maes iechyd cyhoeddus eu rhoi ar waith wrth i ymarferwyr gyflwyno ymyriadau iechyd cyhoeddus 
  • Gwerthfawrogiad ehangach o rolau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mewn ardaloedd daearyddol a meysydd gwasanaeth eraill 
  • Yn llywio sut yr ydych yn cynorthwyo eich gweithlu eich hun ac yn hybu datblygiad o ran gyrfa’r sawl yr ydych yn eu rheoli