Neidio i'r cynnwys

Amdanom ni – Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd Cymru

Beth yw nod ac amcanion y rhwydwaith?

Nod y Rhwydwaith yw hysbysu, hwyluso a chreu cysylltiadau i’r rheini sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru.

Cyflawnir hyn trwy:

  • Rhannu gwybodaeth o ystod amrywiol o safbwyntiau, gan gynnwys polisi, ymchwil ac ymarfer i wella iechyd a lles y boblogaeth.
  • Hwyluso datblygiad datrysiadau ac ymagweddau i lywio polisi, ymarfer ac ymchwil trwy ddod â safbwyntiau amrywiol ynghyd mewn gofodau creadigol.
  • Cysylltu aelodau ac adeiladu cymuned i hyrwyddo’r nod cyffredin o wella iechyd a lles y boblogaeth trwy weithredu ar draws cymdeithas.
  • Helpu pobl o ystod o sectorau i gydnabod eu cyfraniad cyfredol a phosibl at iechyd a lles y boblogaeth.

Sut mae’r Rhwydwaith yn cael ei lywodraethu?

Sefydlwyd Grŵp Cynghori Rhwydwaith yn 2016 i gynrychioli aelodau’r Rhwydwaith â chylch gwaith i gynghori a chefnogi’r Rhwydwaith i gyflawni ei nodau a’i amcanion ac i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid a’i randdeiliaid i gyflawni ‘Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol (Deddf Cymru) 2015’ a pholisïau a chynlluniau perthnasol eraill. Cadeirir y Grŵp Cynghori gan Dr Ciáran Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae’n cyfarfod bob chwarter.

Beth yw manteision bod yn aelod o’r Rhwydwaith?

  • Mynediad cynnar i gynnwys
  • Eich cysylltu chi ag aelodau sydd â diddordebau tebyg
  • Rhannu’ch gwaith gyda’r aelodau
  • Cyfrannu at ein gweminarau
  • Y gallu i arbed ein cynnwys i’ch cyfrif eich hun
Ymuno â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru