Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio'r Coluddyn Beth Sy'n Digwydd Nesaf

 

 

Cynnwys

― Beth sy’n digwydd nawr?
― Beth yw colonosgopi?
― Paratoi ar gyfer y colonosgopi
― Sut rydym yn defnyddio’ch manylion a gwybodaeth amdanoch
― Rhagor o wybodaeth

 

Diolch am dreulio amser yn cwblhau a dychwelyd eich pecyn prawf sgrinio’r coluddyn. Mae eich canlyniadau’n dangos fod gwaed wedi darganfod yn eich pŵ. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ganser. Efallai bod gwaedu o bolypau (tyfiannau bach) neu gyflyrau eraill fel hemoroidau (piles) wedi achosi’r canlyniad hyn, yn hytrach na chanser y coluddyn. Mae’n siŵr bod gennych gwestiynau am beth sy’n digwydd nesaf. Gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn helpu i ateb eich cwestiynau.

 

Beth sy’n digwydd nawr?

Hoffem gynnig apwyntiad ffôn gydag un o’n Nyrsys Sgrinio i chi, a fydd yn eich asesu ac yn trafod ymchwiliadau pellach (colonosgopi) gyda chi. Gall yr alwad ffôn hon gymryd hyd at awr.

Ffoniwch y llinell gymorth apwyntiadau Rhadffôn ar 0800 294 3370 i drefnu amser apwyntiad cyfleus i’r Nyrs Sgrinio eich ffonio.

Apwyntiad asesu

Bydd y Nyrs Sgrinio yn eich ffonio ar yr amser yr ydych wedi trefnu i drafod ymchwilio’ch coluddyn (colonosgopi). Yn ystod yr apwyntiad dros y ffôn, bydd y Nyrs Sgrinio yn gofyn cwestiynau i weld a ydych yn ddigon iach i gael colonosgopi. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau am y canlynol:

  • Eich iechyd yn gyffredinol
  • Unrhyw gyflyrau meddygol fel clefyd siwgwr (diabetes), neu asthma
  • Unrhyw lawdriniaethau yr ydych wedi eu cael
  • Meddyginiaethau yr ydych yn eu cymryd ar hyn o bryd.

Bydd y Nyrs Sgrinio hefyd yn trafod y canlynol gyda chi:

  • Beth yw colonosgopi a pham eich bod yn cael ei gynnig
  • Risgiau a manteision cael colonosgopi
  • Os cawsoch ddigon o wybodaeth oddi wrthym i’ch helpu i wneud penderfyniad ynglŷn â chael colonosgopi
  • Sut i gymryd carthyddion (laxatives) cyn cael colonosgopi
  • Beth y gallwch ac na allwch ei fwyta cyn, yn ystod ac ar ôl cymryd y carthyddion
  • Y dewis o gael tawelydd (sedative) neu gyffur lleddfu poen (neu’r ddau) yn ystod y colonosgopi
  • Mathau o dawelyddion a dulliau lleddfu poen
  • Effaith y tawelydd a beth i’w wneud a pheidio ei wneud yn y cyfnod ôl-ofal, ar ôl y colonosgopi

Byddwch yn cael cyfle i drafod unrhyw bryderon neu ofyn cwestiynau. Gall y Nyrs Sgrinio ofyn i chi ddod i gael asesiad wyneb yn wyneb os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

 

Beth yw colonosgopi?

Ffordd o edrych ar leinin eich coluddyn mawr (colon), rhag ofn bod clefyd i’w weld, yw colonosgopi. Mae’r prawf hefyd yn ein galluogi i dynnu polypau a chymryd samplau bach o’r coluddyn (biopsi) i’w dadansoddi yn y labordy pe byddai angen. Bydd y Nyrs Sgrinio gyda chi pan fyddwch yn cael y colonosgopi.

Enw’r offeryn a ddefnyddir yw colonosgôp, ac mae’n hyblyg. Mae’r golau sydd y tu mewn i bob colonsgôp yn cael ei bwyntio at leinin eich coluddyn. Caiff y lluniau eu dangos ar sgrîn fel bod y colonosgopydd yn gallu gwirio a oes gennych unrhyw glefyd neu lid o’r coluddyn â’i beidio.

Yn ystod yr ymchwiliad, gall y colonosgopydd dynnu’r polypau neu gymryd samplau bach o leinin eich coluddyn i’w dadansoddi. Byddwn yn cadw’r samplau ac efallai y byddwn yn gwneud recordiad fideo a ffotograffau ar gyfer eich cofnodion.

Beth yw polyp?

Tyfiant bach ar leinin y coluddyn yw polyp sy’n cael ei weld yn ystod y colonosgopi.

Fel arfer, mae polypau’n cael eu tynnu oherwydd gallant dyfu ac achosi problemau’n ddiweddarach. Yr enw ar hyn yw polypectomi. Weithiau mae polypau’n datblygu’n ganser

Paratoi ar gyfer y colonosgopi

Bwyta ac yfed

Os ydych yn cael colonosgopi, mae’n rhaid i ni weld y coluddyn yn glir. Byddwn yn anfon carthydd atoch er mwyn i chi wagio’ch coluddyn. Bydd y carthydd yn gwneud i chi gael dolur rhydd felly bydd angen i chi aros yn agos i dŷ bach ar ôl i chi ddechrau ei gymryd. Efallai y cewch wynt neu gramp yn eich bol tra byddwch yn cymryd y carthydd.

Bydd eich Nyrs Sgrinio yn trafod beth y gallwch ac na allwch ei fwyta cyn, yn ystod ac ar ôl cymryd y carthyddion. Byddwn yn anfon y carthyddion atoch yn y post gyda chyfarwyddiadau.Dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n dod gyda’r carthyddion. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch Nyrs Sgrinio.

Gallwch ddod â’ch bwyd eich hun i’w fwyta ar ôl eich colonosgopi os ydych yn meddwl y bydd angen bwyd arnoch.

Meddyginiaethau

Dylech gymryd y rhan fwyaf o feddyginiaethau cyffredinol yn ôl yr arfer. Efallai y bydd yn rhaid ymatal rhag cymryd rhai meddyginiaethau cyn eich colonosgopi, er enghraifft meddyginiaeth i deneuo’r gwaed. Dywedwch wrth eich Nyrs Sgrinio os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau.

Alergeddau

Dywedwch wrth eich Nyrs Sgrinio os oes gennych alergedd i latecs neu unrhyw alergeddau eraill.

Cofiwch

Dewch â gŵn gwisgo a sliperi.

Dewch â rhywun gyda chi os ydych yn dewis cael tawelydd (sedation) neu gyffur leddfu poen yn ystod y colonosgopi.

 

Sut rydym yn defnyddio’ch manylion a gwybodaeth amdanoch

Cedwir eich manylion a’ch gwybodaeth yn gyfrinachol.

Am fwy o wybodaeth am sut mae Sgrinio Coluddion Cymru yn defnyddio eich manylion, ewch i’n gwefan.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio’r coluddyn, neu os hoffech wybodaeth mewn fformat arall, sef:

  • Hawdd ei Ddeall
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • sain
  • print bras, neu yn
  • Saesneg

ewch i’n gwefan 

neu ffoniwch y llinell gymorth Rhadffôn ar 0800 294 3370

neu ebostio sgrinio-coluddion@wales.nhs.uk.