Gwasanaeth Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT) Symptomatig
-
Ffurflen Atgyfeirio ar y We
Bwriedir y ffurflen hon ar gyfer gofyn am Brofion Imiwnocemegol ar Ysgarthion (FIT) gan staff sydd HEB fynediad i GPTR/WCP. Os oes gennych fynediad i GPTR/WCP – rydym yn eich annog i ddefnyddio GPTR/WCP i gyflwyno’r cais hwn.
Canllawiau
Mae gwasanaeth profi FIT Symptomatig Iechyd Cyhoeddus Cymru yn addas ar gyfer cleifion sy’n oedolion o unrhyw grŵp oedran sydd ag arwyddion neu symptomau canser y colon a’r rhefr posibl fel y’i diffinnir yng ‘Nghylchlythyr Iechyd Cymru – Llwybr Delfrydol Cenedlaethol ‘FIT’ newydd ar gyfer y Bibell Gastroberfeddol Isaf’. Gwnewch yn siŵr bod y claf yn bodloni’r meini prawf cyn gwneud atgyfeiriad.
Meini Prawf:
- Dylai bobl sy’n cyflwyno ag arwyddion neu symptomau a allai awgrymu presenoldeb canser y colon a’r rhefr gwblhau prawf FIT. Mae ACPGBI/BSG yn cynghori nad oes angen i gleifion ag wlseriad rhefrol neu fàs rhefrol/rectol gwblhau prawf FIT cyn iddynt gael eu hatgyfeirio.
- Rydym yn argymell y dylai cleifion sydd â màs yn yr abdomen a allai awgrymu bod malaenedd yn bresennol gwblhau prawf FIT ochr yn ochr ag archwiliad (e.e. sgan CT ar yr abdomen) neu atgyfeiriad oherwydd bod amheuaeth bod canser yn bresennol.
- Nid oes arwydd y dylai pobl â symptomau gastroberfeddol uchaf (e.e. dyspepsia) gwblhau prawf FIT
Gweler ‘Cylchlythyr Iechyd Cymru – Llwybr Delfrydol Cenedlaethol (FIT) newydd ar gyfer y Bibell Gastroberfeddol Isaf’ am ragor o wybodaeth am gyngor ar lwybrau a rhwydi diogelwch.
Am ganllawiau pellach, cyfeiriwch at ganllawiau cenedlaethol ACPGBI/BSG a llwybrau clinigol lleol.
Gwybodaeth
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gyflwyno’r atgyfeiriad:
- Caiff pecyn profi FIT Symptomatig ei ddosbarthu gan Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhen un diwrnod gwaith (Llun-Gwener), drwy’r Post Brenhinol, i’r cyfeiriad a nodwyd ar y ffurflen atgyfeirio.
- Bydd y claf yn derbyn y pecyn profi, yn cwblhau’r prawf gartref ac yn dychwelyd sampl i Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Bydd y sampl yn cael ei derbyn gan Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru a fydd yn profi ac yn awdurdodi’r canlyniad – Bydd y canlyniadau ar gael ymhen un diwrnod gwaith i dderbyn y sampl.
Sylwch: Gellir cael mynediad at y canlyniadau drwy Borth Clinigol Cymru (WCP) neu GP Links – NID yw’r Labordy yn anfon copi o’r canlyniad at y claf
Llawlyfr y Labordy
Cynnwys y pecyn profi:
- Extel Hemo-Auto MC Collection Picker
- Amlen ddychwelyd wedi’i thalu ymlaen llaw
- Dyfais Casglu Ysgarthion
Cysylltu â ni
Am ymholiadau ynghylch atgyfeiriad FIT Symptomatig, cysylltwch â:
neu
o
01443 235131
FIT Symptomatig – Cais am Brawf Electronig
Mae Cais am Brawf Electronig FIT Symptomatig bellach ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd y mae gan Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru Gytundeb Lefel Gwasanaeth â nhw:
· Betsi Cadwaladr
· Caerdydd a’r Fro
· Bae Abertawe
· Powys* (yn dibynnu ar leoliad – cadarnhewch gyda Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Dechreuwch ddefnyddio GPTR Neu WCP i ofyn am becynnau profi FIT Symptomatig – Bydd FIT Symptomatig yn ymddangos fel “Faecal Haemoglobin” o fewn GPTR/WCP.
Os na allwch ddefnyddio GPTR/WCP, rhowch wybod i labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt uchod.
***Sylwch***:
PEIDIWCH ag argraffu/anfon ffurflen bapur i’ch Labordy/Adran Patholeg leol.
- Bydd Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn echdynnu’r cais yn uniongyrchol o GPTR/WCP. Efallai y bydd copi papur o’r cais FIT yn cael ei argraffu’n awtomatig i chi – nid oes angen i chi wneud dim byd gyda’r copi papur hwn. Gwaredwch ef mewn bin gwastraff cyfrinachol.
PEIDIWCH â rhoi cynhwysydd sbesimen i’r claf.
- Bydd Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anfon pecyn profi/casglu FIT yn uniongyrchol i gyfeiriad y claf. Dim ond samplau a gesglir gan ddefnyddio un o’n casglwyr ni sy’n addas ar gyfer cynnal profion FIT (Symptomatig).
- Unwaith y bydd y claf yn derbyn y pecyn prawf bydd yn ei gwblhau gartref ac yn dychwelyd ei sampl yn uniongyrchol i Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru ei brofi.
Canlyniadau:
- Bydd canlyniadau ar gael ar y dolenni GPTR/GP a Porth Clinigol Cymru ar ôl iddynt gael eu hawdurdodi. Ni anfonir copi o’r canlyniadau at y claf.