Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Loading Events

Oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyddiad

Cynhaliodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) yn cynnal digwyddiad i ddwyn ynghyd weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes cynllunio gofodol ac iechyd, neu sydd â diddordeb ynddo, er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o botensial cydweithio.  Mae materion allweddol ar y cyd i fynd i’r afael â nhw nawr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Drwy gydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac…

Cynhaliodd Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) yn cynnal digwyddiad i ddwyn ynghyd weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes cynllunio gofodol ac iechyd, neu sydd â diddordeb ynddo, er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o botensial cydweithio. 

Mae materion allweddol ar y cyd i fynd i’r afael â nhw nawr ac yn y dyfodol, megis newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Drwy gydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio ac iechyd, gellir mynd i’r afael â materion o’r fath drwy ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth a all ddod â manteision sylweddol i iechyd a llesiant ein cymunedau. 

Rhoddodd y siaradwyr yn y digwyddiad eu safbwyntiau ar sut i gynllunio cydweithio rhwng meysydd cynllunio ac iechyd gyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd; asesiadau o’r effaith ar iechyd; cyfraniadau at gynllunio darpariaeth gofal iechyd; a rhoddodd enghreifftiau o sut y gall iechyd y cyhoedd ymgysylltu â’r system gynllunio.


  • Gweminar