Y Mesur Iechyd Meddwl – ddeng mlynedd yn ddiweddarach
- Anghenion heb eu bodloni
- Bregusrwydd
Cyhoeddwyd ar: 18fed Mehefin 2023
Math o gyfeiriad: Ymchwil a thystiolaeth
Crynodeb:
Mae’r Mesur Iechyd Meddwl (y Mesur) yn rhan hollbwysig o gyfraith iechyd meddwl Cymru. Ers ei roi ar waith ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi rhoi fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi bod yn rhan ganolog o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sef strategaeth ddeng mlynedd Llywodraeth Cymru. Ddegawd ers rhoi’r Mesur ar waith, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y mae wedi newid profiadau pobl wrth iddyn nhw ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael.