Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a’u perthynas â chanlyniadau iechyd rhywiol gwael: Canlyniadau o bedwar arolwg trawstoriadol
Cyhoeddwyd ar: 21ain Gorffennaf 2022
Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes, Mark Bellis, Kat Ford, Sara Wood, Hannah Madden
Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn
Crynodeb:
Mae gwella dealltwriaeth o ffactorau risg ar gyfer ymddygiad rhywiol peryglus yn hanfodol i sicrhau gwell iechyd rhywiol ar gyfer y boblogaeth. Archwiliodd yr astudiaeth hon gysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a chanlyniadau iechyd rhywiol gwael yn y DU. Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen am ymyriadau effeithiol i atal a gwella effeithiau gydol oes ACEs. Gallai perthnasoedd wedi’u llywio gan drawma ac addysg rhyw, gwasanaethau iechyd rhywiol, a gwasanaethau cyn-enedigol ac ôl-enedigol, yn enwedig ar gyfer y glasoed a rhieni ifanc, roi cyfleoedd i atal ACEs a chefnogi’r rhai yr effeithir arnynt.
Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.