Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Mesur newidiadau mewn iechyd a llesiant oedolion yn ystod y pandemig COVID-19 a’u perthynas â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac asedau cymdeithasol cyfredol: Arolwg trawsdoriadol

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 24ain Awst 2023

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes, Kat Ford, Helen Lowey

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, gan adael pobl â llai o wydnwch i heriau iechyd gydol eu hoes. Mae’r astudiaeth hon yn archwilio a yw lefelau iechyd meddwl, iechyd corfforol ac ansawdd cwsg unigolion a’r newidiadau yn y lefelau a adroddwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig COVID-19 yn gysylltiedig ag ACEs ac a ydynt yn cael eu lleddfu gan asedau cymdeithasol megis cael teulu a ffrindiau y gellir ymddiried ynddynt.

Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.

Dolenni: