Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Iechyd yn asesiadau cynlluniadau

  • Cynllunio gofodol
Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Hydref 2018

Awduron: Jenny Dunwoody, Michael Chang, Liz Green

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Yn y rhifyn diweddaraf o Planning in London, darparodd Michael Chang (Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref), Liz Green (WHIASU) a Jenny Dunwoody (Arup) drosolwg o gyfleoedd i integreiddio ystyriaethau iechyd mewn ystod o asesiadau yn y broses gynllunio. Mae’r rhain yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. Mae’r erthygl hon wedi’i gosod yng nghyd-destun y Cynllun Llundain arfaethedig, dogfen gynllunio strategol statudol ar gyfer Llundain gyfan, a fydd yn gweld bwrdeistrefi yn mabwysiadu’r polisi o ddefnyddio HIA yn y broses ceisiadau cynllunio. Bydd llawer o’r materion a’r themâu a nodir yn yr erthygl hefyd yn berthnasol ac o ddiddordeb i ymarferwyr yng Nghymru.

Yn Saesneg yn unig mae’r deunydd cyfeirio hwn ar gael.

Dolenni: