Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein, yn ogystal ag wrth anfon rhai canlyniadau.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Deall y cysylltiad rhwng iechyd geneuol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi a chyswllt â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod: Astudiaeth ôl-weithredol

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Hydref 2019

Awduron: Kat Ford, Mark Bellis, Karen Hughes, Catherine Sharp, Paul Brocklehurst

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol, gael effaith andwyol ar iechyd plant ac oedolion. Fodd bynnag, ychydig o ymchwil sydd wedi archwilio’r effaith y mae profiadau bywyd cynnar o’r fath yn ei chael ar iechyd y geg. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried a yw profi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod cyn 18 oed yn gysylltiedig ag iechyd deintyddol gwael sydd wedi ei hunan-gofnodi yn nes ymlaen mewn bywyd.

Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.

Dolenni: