Canllaw ar gyfer y gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol: Egwyddorion craidd i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r gweithlu
Cyhoeddwyd ar: 1af Tachwedd 2021
Math o gyfeiriad: Canllawiau
Crynodeb:
Clefyd y coronafeirws 2019 (COVID-19) yw’r her fwyaf y mae’r system iechyd a gofal wedi’i hwynebu o fewn cof ac mae’n cael effaith sylweddol ar fywydau pob un ohonom. Gyda chynnydd mewn bregusrwydd ac anghenion, mae’n hollbwysig bod gwasanaethau adfer ac adsefydlu ledled Cymru wedi’u gwreiddio yn y gymuned, ac yn gweithredu fel system gyfan.
Rhaid gwneud ymdrech i ganolbwyntio ar gydweithio a gwytnwch cymunedol, yn seiliedig ar anghenion ein poblogaeth, yng nghyd-destun yr effaith ar eu bywydau a’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt.
Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn rhan hanfodol o ddatblygu modelau a thimau i ddarparu gofal o’r ansawdd uchaf a gwella canlyniadau iechyd.
Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho
-
Canllaw ar gyfer y gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol
PDF, 2 MB
Llawrlwytho PDF