Arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ar iechyd a llesiant yn ystod mesurau coronafeirws – wythnos 58
Cyhoeddwyd ar: 21ain Mai 2021
Awduron: Karen Hughes, Mark Bellis, Natasha Judd
Math o gyfeiriad: Ymchwil a thystiolaeth
Crynodeb:
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.
Mae’r adroddiad yn edrych ar dueddiadau mewn ymatebion i gwestiynau dethol dros y cyfnod pandemig, sy’n cynnwys poeni am coronafeirws, derbyn y brechlyn ac iechyd meddwl a chorfforol. Mae hefyd yn edrych ar wahaniaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymatebion i’r cwestiynau hyn a chwestiynau ychwanegol sy’n gofyn sut mae iechyd a lles pobl wedi newid ers cyn i’r pandemig ddechrau.
Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho
-
Arolwg-ymgysylltu-â’r-cyhoedd-ar-iechyd-a-lles-yn-ystod-mesurau-coronafeirws-wythnos-58
PDF, 2 MB
Llawrlwytho PDF