Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ar iechyd a llesiant yn ystod mesurau coronafeirws – Awst 2022

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 10fed Awst 2022

Awduron: Karen Hughes, Natasha Judd, Mark Bellis

Math o gyfeiriad: Ymchwil a thystiolaeth

Crynodeb:

Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r adroddiad hwn yn dangos tueddiadau mewn ymatebion i ddetholiad o gwestiynau craidd dros gyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys: poeni am y Coronafeirws; iechyd meddyliol a chorfforol; poeni am faterion ariannol; a chanfyddiadau o’r ymateb cenedlaethol. Mae’n archwilio gwahaniaethau mewn ymatebion yn ôl amddifadedd, rhywedd ac oedran.

Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho

  • Arolwg-ymgysylltu-â’r-cyhoedd-ar-iechyd-a-lles-yn-ystod-mesurau-coronafeirws-awst-2022

    PDF, 1 MB

    Llawrlwytho PDF