Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Tuag at weithlu iach a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Iechyd a llesiant presennol y gweithlu nyrsio a
bydwreigiaeth yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn un o’r arolygon trawstoriadol mwyaf o ran maint a’r mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd ymhlith y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru ac mae’n darparu dealltwriaeth o’u hiechyd a’u llesiant. Mae’n ymchwilio i’r heriau sylfaenol i iechyd a llesiant, gan gynnwys effaith yr amgylchedd gwaith, a theimladau’r gweithlu tuag at eu gyrfa a phwysau ariannol. Mae’r arolwg hwn yn cynnwys barn 1,642 o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd ledled Cymru a ymatebodd i’r holiadur, ac er nad oedd yn sampl gynrychioliadol, mae’n cyfateb i ~5% o weithlu GIG Cymru.

Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth sy’n mwynhau eu gyrfa ac yn teimlo’n frwd ynghylch eu gyrfa ond sydd hefyd yn profi lefelau uchel o straen sy’n gysylltiedig â gwaith, pwysau gwaith eraill a goblygiadau ehangach (e.e. pryderon ariannol) a allai arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth. Yn ogystal, mae yna grwpiau penodol sy’n profi’r pwysau hyn yn fwy nag eraill.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Tuag at weithlu iach a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol - Iechyd a llesiant presennol y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Tuag at weithlu iach a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol - Iechyd a llesiant presennol y gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru (2 MB)

Llawrlwytho PDF