Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Pecyn Cymorth ar Degwch Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP)

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 4ydd Tachwedd 2024

Mae’r pecyn cymorth hwn yn anelu at gefnogi’r rhai sy’n cynllunio, yn rheoli ac yn cyflwyno’r AWDPP, i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ymddygiad i hybu a galluogi mynediad teg i’r rhaglen a defnydd teg ohoni.

Yn 2021, canfu’r data llinell sylfaen nad oedd dull gweithredu teg ledled Cymru ar gyfer atal diabetes.

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) yn rhaglen atal ledled Cymru sy’n anelu at leihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2 ymysg y rhai y nodwyd bod risg uchel iddynt ei ddatblygu.

Mae’n anelu at hwyluso dull systematig a theg ar gyfer atal diabetes math 2 ledled Cymru i leihau’r amrywiadmewn perthynas â’i atal mewn gofal sylfaenol.

Mae gan Fyrddau Iechyd a Chlystyrau Gofal Sylfaenol ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd teg a chyfartal rhoi systemau a phrosesau ar waith i gefnogi hyn. Felly, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau lleol ystyried a chefnogi mynediad teg at yr AWDPP a defnydd teg ohoni ymysg grwpiau a chymunedau amrywiol o fewn y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Pecyn Cymorth ar Degwch Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP)

PowerPoint, 159KB

Llawrlwytho PowerPoint - Pecyn Cymorth ar Degwch Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) (159 KB)

Llawrlwytho PowerPoint

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig