Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Pa mor effeithiol yw ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)? Adolygiad cyflym

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Alesha Wale, Salina Khatoon, Claire Morgan, Amy Fox-McNally, Helen Morgan, Kirsty Little, Hannah Shaw, Davies, Ben Williams, Olivia Gallen, Jacob Davies, Rhiannon Tudor Edwards, Adrian Edwards, Deborah Edwards, Ruth Lewis

Cyhoeddwyd ar: 1af Tachwedd 2025

Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Gyda phroblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu dros y degawd diwethaf, bu ffocws ar ddeall ffyrdd o gefnogi anghenion lles emosiynol a meddyliol pobl ifanc. Er bod mentrau fel y ‘dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol’ yn werthfawr, mae’n bwysig deall yn well pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yn y gymuned nad ydynt efallai’n gallu cael mynediad at wasanaethau ysgol. Amcangyfrifir bod 13.5% o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn y DU (yn 2024). Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y grŵp hwn yn profi cyfraddau uwch o broblemau iechyd meddwl. Felly mae’n bwysig deall effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET.

Nod yr astudiaeth hon oedd nodi a gwerthuso ymyriadau sy’n cefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc sy’n NEET.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn Mehefin 2025 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2013 a 2025.

Beth wnaethom ei ganfod

Defnyddiwyd naw astudiaeth yn yr adolygiad hwn, yn cwmpasu ystod o wledydd ac ymyriadau. Roedd y mathau o ymyrraeth yn cynnwys: seicolegol, seiliedig ar natur, gyda chymorth anifeiliaid, presgripsiynu cymdeithasol (cysylltu pobl â gwasanaethau cymunedol i gefnogi lles) a hyfforddiant cyfannol (cefnogi anghenion lles unigol ar draws ystod o feysydd bywyd).

At ei gilydd, mae’r dystiolaeth yn dangos y gellir defnyddio amrywiaeth o ymyriadau i gefnogi pobl ifanc sy’n NEET, gydag astudiaethau’n awgrymu:

  • gall ymyriadau seicolegol fod yn effeithiol wrth wella lles cymdeithasol a galwedigaethol ac annog pobl i reoleiddio emosiynau.
  • gall ymyriadau sy’n seiliedig ar natur fod o gymorth wrth wella cysylltiadau cymdeithasol a datblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Efallai y bydd hefyd yn fwy effeithiol wrth hyrwyddo gwydnwch a lleihau profiadau o iselder a gorbryder.
  • gall ymyriadau â chymorth anifeiliaid wella ymddygiad cymdeithasol a galluoedd cyfranogwyr.
  • gall ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wella lles meddyliol a lleihau trallod seicolegol ymhlith pobl ifanc NEET.
  • gall ymyriadau hyfforddi cyfannol wella ymdeimlad o les, mynediad at adnoddau cymorth gan gymheiriaid, gwybodaeth am wasanaethau a mynediad atynt a chysylltiad â chyfleoedd dysgu ac ennill.

Roedd pobl ifanc yn ymgysylltu ag ymyriadau ac yn cael eu grymuso ganddynt, gan nodi ffactorau a oedd yn arbennig o ddefnyddiol, gan gynnwys: y berthynas â’r rhai a oedd yn cyflwyno ymyriadau, cefnogaeth emosiynol a chorfforol, mannau diogel i drafod emosiynau a chyfleoedd i ymgysylltu ag anifeiliaid a natur.

Fodd bynnag, mae hyder yn y dystiolaeth hon yn gyfyngedig, gan mai dim ond un astudiaeth a werthusodd y rhan fwyaf o’r canlyniadau.

Beth mae hyn yn ei olygu

Goblygiadau polisi ac ymarfer

Er bod y sylfaen dystiolaeth a nodwyd yn gyfyngedig o ran niferoedd ac ansawdd, gallai’r canfyddiadau helpu i lywio datblygiad a’r ddarpariaeth o ymyriadau mewn pobl ifanc NEET. Yn gyffredinol, cafodd ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol eu derbyn yn dda gan bobl ifanc sy’n NEET ac fe arweiniodd hyn at fanteision o ran lles, er y gallai ffactorau eraill gyfyngu ar weithredu rhai ymyriadau (e.e. hyfforddiant staff, argaeledd cyllid/adnoddau).

Goblygiadau’r ymchwil a bylchau yn y dystiolaeth

Dylid ystyried gwerthusiad cadarn pellach wrth ddatblygu a gweithredu ymyriadau ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET. Yn ogystal, byddai gwaith ymchwil yn y dyfodol sy’n asesu effeithiolrwydd hirdymor yn dyfnhau dealltwriaeth o’r ffordd orau o gefnogi anghenion pobl ifanc sy’n NEET.

Ystyriaethau economaidd

Dylid ystyried safbwyntiau’r gwasanaeth iechyd gwladol (GIG) a safbwyntiau cymdeithasol ehangach wrth werthuso effaith economaidd darparu ymyriadau ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET.

Mae gan bobl ifanc sy’n NEET botensial economaidd os gellir eu cefnogi i gael cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Gwybodaeth dechnegol

Mae ein Hadolygiadau Cyflym  yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon gan dalu sylw i duedd ar yr un pryd. Nod yr adolygiad cyflym hwn yw nodi effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol ymhlith pobl ifanc NEET.

Geirfa

Adolygiad cyflym: Ffurf ar synthesis tystiolaeth sy’n cyflymu’r broses o gynnal adolygiad systematig traddodiadol er mwyn cynhyrchu tystiolaeth mewn modd amser-sensitif, fel arfer i lywio penderfyniadau gofal iechyd brys.

Adolygiad systematig: Adolygiad sy’n crynhoi’r dystiolaeth ar gwestiwn adolygu wedi’i lunio’n glir yn unol â phrotocol wedi’i ddiffinio ymlaen llaw, gan ddefnyddio dulliau systematig ac eglur i nodi, dewis ac arfarnu astudiaethau perthnasol, ac i echdynnu, dadansoddi, casglu ac adrodd eu canfyddiadau. Gall ddefnyddio technegau ystadegol, megis meta-ddadansoddiad, neu beidio.

Awdur y crynodeb lleyg: Olivia Gallen, Aelod o Grŵp y Bartneriaeth Gyhoeddus

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb Gweirthredol Pa mor effeithiol yw ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

PDF, 174KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb Gweirthredol Pa mor effeithiol yw ymyriadau i gefnogi iechyd a lles meddyliol ac emosiynol pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (174 KB)

Llawrlwytho PDF