Niferoedd yn manteisio ar frechiad (rhwystrau/ hwyluswyr ac ymyriadau) mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu anodd i’w cyrraedd: Crynodeb Cyflym O Dystiolaeth
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie
Cyhoeddwyd ar: 1af Gorffennaf 2021
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Gwnaethom edrych am dystiolaeth o’r rhwystrau rhag brechu a’r pethau sy’n hwyluso oedolion i fanteisio ar frechiad pan maent heb eu gwasanaethau’n ddigonol neu’n anodd i’w cyrraedd, a thystiolaeth o ymyriadau a strategaethau i gynyddu nifer y bobl yn y grwpiau hyn sy’n manteisio ar frechiad. Grŵp Tegwch Brechu Cymru a Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru wnaeth ofyn am yr adroddiad hwn.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2021 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2016 a 2021.
Beth wnaethom ei ganfod
Dyma’r pethau sy’n atal pobl rhag cael eu brechu:
- Diffyg gwybodaeth
- Pryderon ynglŷn â diogelwch brechlynnau a sgil-effeithiau posibl
- Drwgdybio’r llywodraeth ac asiantaethau iechyd cyhoeddus
- Rhwystrau ieithyddol
- Credu eu bod nhw, yn bersonol, mewn risg isel
- Ei chael hi’n anodd cyrraedd lle bynnag y mae’r brechlyn yn cael ei roi
- Brechlynnau ddim yn rhan gyffredin o’u diwylliant
Dyma’r pethau sy’n ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd pobl yn cael eu brechu:
- Derbyn gwybodaeth am y brechlyn a chael rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i’w hannog i gael eu brechu
- Cyfathrebiadau yn eu hiaith nhw ac sy’n gweddu i’w diwylliant
- Cyfieithwyr mewn clinigau brechu
- Ymgyrchoedd addysgol yn y gymuned
- Cynnal clinigau yn y gymuned mewn lleoedd y mae pobl yn debygol o fynd iddyn nhw, er enghraifft, cael clinigau mewn banciau bwyd a llochesau ar gyfer pobl dlawd a digartref
- Canolfannau brechu mewn lleoedd sy’n hawdd i’w cyrraedd.
Beth mae hyn yn ei olygu
Mae ansawdd y dystiolaeth o’r hyn sy’n annog pobl i gael eu brechu’n isel. Felly, mae angen i’r llywodraeth ac awdurdodau iechyd fabwysiadu dull aml-agwedd o weithredu. Dylen nhw weithio gydag arweinwyr cymunedau fel pobl y gellir ymddiried ynddyn nhw i ddarparu gwybodaeth i’w cymunedau ac annog pobl i gael eu brechu.
Gwybodaeth dechnegol
Briff tystiolaeth interim i ddarparu sail ar gyfer gwaith pellach a sicrhau bod darganfyddiadau allweddol ar gael yn gynnar.
Geirfa
Adolygiad cyflym: Ffurf ar synthesis tystiolaeth sy’n cyflymu’r broses o gynnal adolygiad systematig traddodiadol er mwyn cynhyrchu tystiolaeth mewn modd amser-sensitif, fel arfer i lywio penderfyniadau gofal iechyd brys.
Adolygiad systematig: Adolygiad sy’n crynhoi’r dystiolaeth ar gwestiwn adolygu wedi’i ffurfio’n glir yn unol â phrotocol a ragddiffiniwyd, gan ddefnyddio dulliau systematig ac eglur i nodi, dethol ac asesu astudiaethau perthnasol, ac i echdynnu, dadansoddi, casglu ac adrodd ar eu canfyddiadau. Gall ddefnyddio technegau ystadegol, megis meta-ddadansoddi, neu beidio.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Niferoedd yn manteisio ar frechiad (rhwystrau/ hwyluswyr ac ymyriadau) mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu anodd i’w cyrraedd: Crynodeb Cyflym O Dystiolaeth
PDF, 879KB
Llawrlwytho PDF - Niferoedd yn manteisio ar frechiad (rhwystrau/ hwyluswyr ac ymyriadau) mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu anodd i’w cyrraedd: Crynodeb Cyflym O Dystiolaeth (879 KB)
Llawrlwytho PDF