Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2023 i 2024

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2026

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan y Rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2022 hyd at ddiwedd Mawrth 2023. Mae
canlyniadau’n cael eu hadrodd gan fwrdd iechyd lle mae sgrinio wedi’i gynnal. Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais.

Penawdau ystadegau

This report covers the period from April 2023 to March 2024

  • Nifer y genedigaethau cymwys ar draws Cymru oedd 28,014.
  • Nifer y babanod a brofwyd oedd 27,856 (99.4%).
  • Roedd 97.5% o fabanod newydd-anedig cymwys wedi cael cerdyn smotyn gwaed (ar gyfer sgrinio neu ddirywiad) yn y labordy erbyn diwrnod 14 eu bywyd (cyflawnder y cynnig).
  • Roedd gan 95.2% o fabanod newydd-anedig cymwys ganlyniadau sgrinio smotyn gwaed terfynol erbyn diwrnod 17 o’u bywyd (cwmpas).
  • Cymerwyd 95.1% o samplau smotyn gwaed cyntaf rhwng diwrnodau 4 a 6 eu bywyd.
  • Y gyfradd ailadrodd y gellid ei hosgoi oedd 4.7%, sy’n cynrychioli samplau a ailadroddwyd sy’n ofynnol oherwydd smotiau gwaed o ansawdd gwael neu wybodaeth anghyflawn/anghywir a gofnodwyd.
  • Roedd gan 99.3% o gardiau smotyn gwaed a dderbyniwyd yn y labordy rif GIG dilys ar gyfer y baban wedi’i gofnodi.
  • Derbyniwyd 91.4% o gardiau smotyn gwaed o fewn tri diwrnod gwaith i gasglu sampl.
  • Roedd nifer y babanod a sgriniwyd yn bositif a ganfuwyd yn y flwyddyn fel a ganlyn: ffenylcetonwria (3), clefyd wrin surop marsan (0), diffyg didhydrogenas acyl-CoA cadwyn ganolig (4), homocystinuria (0), asidwria glwtaraidd math 1 (0), isovaleric acidaemia (1), isthyroidedd cynhenid (33), ffeibrosis systig (23) ac anhwylderau clefyd y crymangelloedd (3). Mae’r rhain yn ganlyniadau sgrinio’n bositif, ni chafodd pob baban ddiagnosis o’r cyflwr a amheuir.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2023 i 2024

PDF, 873KB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2023 i 2024 (873 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig