Mewnwelediadau o astudiaethau achos costau byw
Awduron: Emma Girvan, Dr Alex Walker a Rebecca Evans, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Grŵp Cydlynu Adeiladu Cymru Iachach.
Cyhoeddwyd ar: 16eg Hydref 2026
Cyflwyniad
Yn dilyn y cynnydd sydyn ym mhrisiau ynni yn 2022, cynhaliodd y grŵp Adeiladu Cymru Iachach Uwchgynhadledd Costau Byw Cymru Gyfan ym mis Mawrth 2023, gan roi sylw mewn trafodaeth genedlaethol i effeithiau’r argyfwng ar bobl a chymunedau. Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, cyhoeddodd Adeiladu Cymru Iachach set o astudiaethau achos yn tynnu sylw at sut roedd sefydliadau a phartneriaethau’n cefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Dangosodd yr astudiaethau achos y gall prosiectau sy’n mynd i’r afael â phwysau costau byw wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon i bobl. Roeddent yn adlewyrchu cyfraniadau gan amrywiaeth o bartneriaid ac yn cynnwys meysydd fel bwyd, ynni, tai, incwm, dyled, iechyd meddwl, ac iechyd a gofal. Mae’r enghreifftiau’n ymwneud â gweithgarwch lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ar draws lleoliadau trefol a gwledig, ac yn cynnwys gwaith dan arweiniad awdurdodau lleol, y GIG, busnesau preifat, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Tynnodd yr astudiaethau achos sylw at yr hyn a oedd wedi helpu cymunedau mewn gwirionedd a chynigiodd y profiadau a gasglwyd ddysgu ymarferol i sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.
Yn 2025, cynhaliwyd gwerthusiad ystwyth i sefydlu sut y defnyddiwyd yr adroddiad ac i ddeall beth oedd partneriaid yn teimlo fyddai’n helpu i sicrhau bod yr astudiaethau achos yn cyrraedd cynulleidfa eang, ac yn apelio ati. Dywedwyd wrthym y byddai set wedi’i diweddaru o astudiaethau achos yn werthfawr i gydweithwyr sy’n chwilio am ddysgu o’r byd go iawn ac enghreifftiau cyfredol o’r hyn sy’n gweithio.
Mae’r adroddiad hwn yn arddangos y gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y prosiectau, gan gofnodi diweddariadau, dysgu ar y cyd, a’r cyfleoedd newydd sy’n cael eu creu. Clywsom enghreifftiau pwerus o sut mae prosiectau’n dylanwadu ar bolisi a phrosesau gwneud penderfyniadau. Mae ein hastudiaethau achos wedi’u diweddaru yn dwyn y mewnwelediadau hyn ynghyd i gefnogi gwelliant parhaus ac arloesedd yn y dyfodol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Blwyddyn o ddysgu - Mewnwelediadau o astudiaethau achos costau byw
PDF, 788KB
Llawrlwytho PDF - Blwyddyn o ddysgu - Mewnwelediadau o astudiaethau achos costau byw (788 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r […]
Cyhoeddwyd: 15fed Tachwedd 2022
-
Plant a’r argyfwng costau bywyng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiad o lenyddiaeth o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant. Defnyddiwyd y canfyddiadau i wneud argymhellion ar draws un ar […]
Cyhoeddwyd: 7fed Medi 2023
-
Adroddiad sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Yr argyfwng costau byw
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn […]
Cyhoeddwyd: 18fed Awst 2022
-
Costau byw cynyddol ac iechyd a llesiant yng Nghymru: Arolwg cenedlaethol
Mae cartrefi ledled Cymru a ledled y byd yn profi cynnydd mewn costau byw. Ers diwedd 2021,mae cynnydd mewn prisiau ar gyfer eitemau sylfaenol fel bwyd ac ynni wedi bod […]
Cyhoeddwyd: 11eg Hydref 2023