Iechyd a Gofal ar Sail Atal Fframwaith
Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2025
Cynlluniwyd elfennau allweddol y fframwaith IGSA, a’r cwestiynau rhestr wirio (fel y darlunnir) i helpu i lunio consensws trwy gydweithio.
Mae’r fframwaith IGSA yn cynnwys pedair haen:
- Yng nghanol y fframwaith IGSA mae pwyslais ar y Deilliannau sy’n canolbwyntio ar yr
unigolyn ac iechyd y boblogaeth y mae’r camau atal yn anelu at eu cyflawni. - Mae’r fframwaith wedyn yn ystyried y Cylch Atal sy’n ymgorffori:
- Adnabod – ystyried y boblogaeth a dargedir, eu hanghenion a sut y gellir eu cyrraedd yn
deg - Ymyraethau – ystyried yr ymyraethau angenrheidiol a’r modd y maent yn gyson â’r 6 maes ansawdd yn Nyletswydd Ansawdd Llywodraeth Cymru h.y. Diogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg, yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r ddyletswydd yn berthnasol mewn lleoliadau gofal iechyd ac mae’n cyd-fynd â gwerthoedd gofal cymdeithasol.
- Gweithredu – ystyried y ffordd orau i gyflawni ymyraethau o safon uchel arraddfa fawr
3. Mae haen nesaf y fframwaith IGSA yn canolbwyntio ar y Gweithlu – mae IGSA yn cydnabod bod angen creu’r amodau gorau i’r gweithlu gyflawni camau ataliol trwy ymdrin â gallu (C), cyfleoedd (O) a chymhelliant (M) y gweithlu.
4. Mae haen allanol y fframwaith IGSA yn integreiddio Galluogwyr system, wedi ei gydgynllunio gyda Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Mae’r rhain yn cydnabod yr angen am ddull systemau,fydd yn cael ei gyflawni trwy ymdrin â:
- Arweinyddiaeth, cydweithio a dylanwadu
- Ymgysylltiad, cyfraniad a phrofiad pobl
- Iechyd a llesiant digidol
- Data a dadansoddi data
- Ymchwil, tystiolaeth ac effaith yn darparu gwerth
- Partneriaethau strategol
Lawrlwythiadau adroddiadau
Iechyd a Gofal ar Sail Atal Fframwaith
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Iechyd a Gofal ar Sail Atal Fframwaith (3 MB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Fframwaith Galluoedd a Hyfforddiant Amlbroffesiynol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cynhwysiant, Carchardai a Dalfeydd yng Nghymru
Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r galluoedd, yr wybodaeth a’r sgiliau allweddol ar gyfer staff gofal iechyd aml-broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl sydd â nifer o anghenion iechyd a gofalcymdeithasol difrifol […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2026
-
Cefnogi Ymddygiadau Iach: Canllaw ar gyfer Meddygaeth Gyffredinol
Amlygodd Cymru Iachach yr angen i symud tuag at fwy o waith atal ac ymyrraeth gynnar er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl a chefnogi cynaliadwyedd ein system iechyd a […]
Cyhoeddwyd:
-
Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol 2022 i 2024
Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol , sy’n cwmpasu mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024, wedi’i ddylunio i gefnogi’r gwaith o weithredu elfennau sylfaenol a gofal yn y gymuned […]
Cyhoeddwyd: 1af Ebrill 2022
-
Deall Ymddygiad y Gweithlu Gofal Sylfaenol o ran Cefnogi Pobl i Reoli eu Pwysau
Mae gordewdra a rheoli pwysau yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol sydd ar gynnydd yng Nghymru. Ar lefel polisi, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r achosion o ordewdra drwy […]
Cyhoeddwyd: 1af Hydref 2021
-
Cefnogi Rheoli Pwysau Ôl-enedigol mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Edrychodd ein hymchwil ar sut y gellir ymwreiddio cefnogaeth rheoli pwysau ôl-enedigol mewn gofal sylfaenol neu gymunedolarferol.
Cyhoeddwyd:
-
Deall Ymddygiad y Gweithlu Gofal Sylfaenol o ran Cefnogi Pobl i Reoli Eu Pwysau: Crynodeb
Mae’r ddogfen hon yn adroddiad cryno ar y ddealltwriaeth o ymddygiad y gweithlu gofal sylfaenol o ran cefnogi pobl i reoli eu pwysau. Mae adroddiad technegol llawn, a gynhyrchwyd gan […]
Cyhoeddwyd: