Gwerthusiad o Raglen Tlodi Tanwydd Cymru Gynnes
Cefndir
Mae tai o ansawdd gwael yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol yng Nghymru; amcangyfrifir ei bod yn costio tua £1 biliwn bob blwyddyn, (1) ac yn cyfrannu at amrywiaeth eang o ganlyniadau iechyd niweidiol (2,3). Mae cartrefi sy’n anodd neu’n ddrud i’w gwresogi yn gysylltiedig â phroblemau iechyd corfforol a meddyliol, gan gynnwys cyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd, yn ogystal â mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd a gofal. Mae tlodi tanwydd—sy’n effeithio ar oddeutu un o bob pedair aelwyd yng Nghymru (4), yn codi pan nad yw pobl yn gallu fforddio cadw eu cartrefi’n ddigon cynnes (2), gan arwain at ganlyniadau difrifol posibl i lesiant corfforol a meddyliol, sicrwydd ariannol ac ansawdd bywyd (3,5,6). Er bod effeithlonrwydd ynni tai yn chwarae rhan bwysig er mwyn gallu cadw cartrefi’n gynnes, mae set ehangach o ffactorau yn achosi tlodi tanwydd, gan gynnwys incwm, costau byw cynyddol (7,8), cyflogaeth ansicr, a chyflyrau iechyd hirdymor (9,10).
Mae rhaglenni fel Cymru Gynnes yn cyfrannu at ymdrechion i ddileu tlodi tanwydd difrifol a pharhaus (11) drwy roi cymorth i gartrefi sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Mae Cymru Gynnes yn darparu cymorth wedi’i deilwra, sy’n canolbwyntio ar unigolion, trwy fodel presgripsiynu cymdeithasol, gan helpu aelwydydd i leihau costau ynni, gwneud y mwyaf o’u hincwm, a chael mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant ehangach (12). Mae angen cynyddol i ddeall yn well sut mae tai ac iechyd yn rhyngweithio—a sut y gall ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol fel Cymru Gynnes wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn, a luniwyd gan Labordy Data Rhwydwaith (NDL) Cymru a’r Tîm Gwerthuso Canolog yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn archwilio effaith effeithlonrwydd ynni tai a chymorth Cymru Gynnes ar ddefnydd gwasanaethau iechyd yng Nghymru gan ddefnyddio data cysylltiedig. Mae hefyd yn cynnwys gwerthusiad proses i ddeall sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, y ffactorau sy’n rhwystro neu’n hwyluso mynediad at y gwasanaeth, a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i unigolion sy’n derbyn cymorth a sefydliadau partner.
Mae NDL Cymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Prifysgol Abertawe, a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n un o bum tîm dadansoddi a ariennir gan y Sefydliad Iechyd i ymchwilio i faterion yn y gwasanaethau iechyd a gofal (13).
Cafodd y gwerthusiad hwn ei gynnal mewn cydweithrediad â staff Cymru Gynnes, defnyddwyr gwasanaethau, a sefydliadau partner. Roedd cyfraniad rhanddeiliaid cymunedol a phartneriaid atgyfeirio yn hanfodol i gyflenwi gwasanaethau a’r broses werthuso.
Cynhaliwyd yr holl ddadansoddiad data cysylltiedig yn Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE: Trusted Research Environment) Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) (14–16). Cymeradwywyd dadansoddiadau SAIL gan Banel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL – prosiect rhif 1873 a gymeradwywyd gan SAIL.
Canfyddiadau Allweddol
Effeithlonrwydd ynni yng Nghymru
Roedd effeithlonrwydd ynni yn amrywio ar draws nodweddion tai ac aelwydydd, yn enwedig deiliadaeth. Yn gyffredinol, roedd cartrefi rhent cymdeithasol yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi rhent preifat neu gartrefi perchen-feddianwyr.
Roedd effeithlonrwydd ynni hefyd yn amrywio yn ôl amddifadedd a natur wledig, gan ddangos bod patrymau tai ehangach yn effeithio ar effeithlonrwydd ynni ac na ddylid ei drin fel dull uniongyrchol o fesur tlodi tanwydd.
Pwy gafodd gymorth gan Cymru Gynnes?
Mae Cymru Gynnes yn elusen Gymreig sy’n ceisio darparu gwres fforddiadwy i gartrefi a lleddfu tlodi tanwydd trwy gynnig cyngor a chymorth am ddim trwy fodel presgripsiynu cymdeithasol.
Rhoddodd Cymru Gynnes ddata inni ar gyfer 2021-2023, a oedd yn cynnwys tua 2,200 o gofnodion. O’r rhain, gellid cysylltu tua 90% â data ehangach o fewn Banc Data SAIL. Ar ôl casglu ynghyd gwybodaeth am yr holl unigolion a oedd yn byw mewn aelwydydd ar yr adeg y derbyniwyd cymorth, a chymhwyso ein meini prawf cynnwys a oedd yn benodol i’r astudiaeth, fe wnaethom gynnwys 2,290 o unigolion a oedd wedi derbyn cymorth gan Cymru Gynnes yn ystod y cyfnod hwn.
Fe wnaethom ganfod fod derbynwyr cymorth Cymru Gynnes yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd mwy difreintiedig a thai rhent cymdeithasol. Roedd y derbynwyr yn iau na’r garfan o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn gysylltiedig ag Thystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) 2021 ac roeddent yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd gydag oedolion a phlant, gan adlewyrchu’r gyfran uchel o deuluoedd a gefnogir gan Cymru Gynnes.
Roedd dros hanner y rhai a dderbyniodd gymorth gan Cymru Gynnes yn byw mewn cartrefi yr oedd eu heffeithlonrwydd ynni yn is na’r cyfartaledd, ac roedd oddeutu 1 o bob 10 yn byw mewn cartrefi yr oedd eu heffeithlonrwydd ynni yn is na’r cyfartaledd. Mae hyn yn atgyfnerthu’r pwynt nad effeithlonrwydd ynni yw’r unig ffactor sydd ynghlwm â thlodi tanwydd.
Effaith Cymru Gynnes
Un o nodau’r astudiaeth hon oedd archwilio a oedd yn ymarferol cysylltu data dienw gan dderbynwyr cymorth Cymru Gynnes â chofnodion gofal iechyd arferol er mwyn deall a oedd y cymorth a ddarparwyd wedi cael effaith ar weithgarwch gofal iechyd. Roeddem yn gallu cysylltu bron pob unigolyn yn ein carfan Cymru Gynnes â data gofal iechyd; fodd bynnag, nid oedd yn bosibl nodi nifer yr ymweliadau â meddygon teulu ar gyfer cyflyrau sy’n ymwneud yn benodol â chartrefi oer oherwydd ansawdd y data.
Felly, dim ond cyfanswm y rhyngweithiadau â phractis meddyg teulu yr oeddem yn gallu eu harchwilio, ac roedd y rhain yn cynnwys ymgynghoriadau, presgripsiynau a digwyddiadau gweinyddol. Yn y dadansoddiad hwn, gwelsom fod gostyngiad yng nghyfanswm rhyngweithiadau â meddygon teulu y rhai a dderbyniodd gymorth gan Cymru Gynnes, o’i gymharu ag unigolion tebyg na dderbyniodd gymorth gan Cymru Gynnes. Fodd bynnag, o ystyried nad oedd cyfanswm y rhyngweithiadau â meddygon teulu yn ymwneud â chyflwr penodol, ni ellir cysylltu unrhyw wahaniaethau y sylwyd arnynt yn hyderus ag effeithiau iechyd sy’n deillio o gymorth Cymru Gynnes.
Gwnaethom hefyd ystyried a oedd yn ymarferol archwilio’r effaith ar arosiadau yn yr ysbyty. Unwaith eto, roedd yn bosibl cysylltu’r data dienw; fodd bynnag, roedd arosiadau yn yr ysbyty yn gymharol anghyffredin yn ystod cyfnod yr astudiaeth, felly roedd tystiolaeth o unrhyw newid yn y defnydd o ysbytai gan gleifion mewnol yn gyfyngedig ac yn ansicr.
Gweithredu a chyflawni
Roedd gan staff, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid farn gadarnhaol am Cymru Gynnes. Yn ôl yr ymatebwyr, roedd y dull hyblyg, sy’n canolbwyntio ar unigolion, ei berthnasoedd cryf a’i waith partneriaeth yn gryfderau allweddol. Cafodd y ddarpariaeth ei llywio hefyd gan bwysau o ran capasiti a chyllid, bylchau yn y ddarpariaeth, oediadau neu golli cyswllt, a heriau wrth gydlynu cymorth ar draws gwasanaethau.
Newidiadau a adroddwyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau
Awgrymodd y rhan fwyaf o’r straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol a chyfweliadau ansoddol fod cymorth Cymru Gynnes wedi cyfrannu at welliannau ystyrlon i rai defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys llai o bwysau ariannol, mwy o hyder wrth reoli biliau a chael mynediad at gymorth, gwell llesiant meddyliol trwy leihau straen, a chysur gwell a oedd yn gysylltiedig â gallu cadw’n gynnes yn y cartref. Mae’r canfyddiadau hyn yn seiliedig ar sampl fach, a ddewiswyd yn bwrpasol ac felly mae’n bosibl nad ydynt yn adlewyrchu profiadau pawb a dderbyniodd gymorth Cymru Gynnes.
Casgliad
At ei gilydd, mae’r gwerthusiad yn awgrymu bod Cymru Gynnes yn cyrraedd aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd. Mae’r canfyddiadau’n dangos nad yw sgôr effeithlonrwydd ynni ar ei phen ei hun o reidrwydd yn dangos pwy sy’n wynebu tlodi tanwydd, ac y gallai cymorth ymarferol, ariannol a chymorth sy’n canolbwyntio ar unigolion helpu i leihau straen, yn ogystal â nifer y rhyngweithiadau a gofnodwyd â meddygon teulu yn achos rhai derbynwyr.
Cefndir
Defnyddio dulliau cymysg i ddeall sut caiff rhaglen Cymru Gynnes ei rhoi ar waith a’i heffaith
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tai o ansawdd gwael yn costio oddeutu £1 biliwn i gymdeithas bob blwyddyn (1). Mae cyflwr cartrefi pobl yn chwarae rhan bwysig wrth lunio iechyd, gan gyfrannu at anghydraddoldebau a phob math o ganlyniadau niweidiol, gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, cyflyrau anadlol, ac iechyd meddwl gwael (2,3). Mae’r effeithiau hyn yn aml yn waeth mewn cartrefi sy’n anodd neu’n gostus i’w cadw’n gynnes, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.
Mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol yng Nghymru, ac mae’n effeithio ar oddeutu un o bob pedair aelwyd (4). Mae’n digwydd pan na all aelwydydd fforddio cadw eu cartrefi’n ddigon cynnes (2), ac mae’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o ganlyniadau niweidiol, gan gynnwys cyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd, risg uwch o gwympo, maeth gwaeth, ac effeithiau ar iechyd meddwl a llesiant (3,5,6). Gall cartrefi oer hefyd gyfrannu at farwolaethau gormodol yn y gaeaf a rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gofal (6,17,18).
Mae ansawdd tai yn chwarae rhan ganolog mewn tlodi tanwydd. Mae effeithlonrwydd ynni cartref—sy’n cael ei siapio gan ffactorau fel ei oedran, ei adeiladwaith, a’i system wresogi—yn pennu pa mor hawdd a fforddiadwy yw hi i gadw’r cartref yn gynnes. Yng Nghymru, diffinnir aelwyd fel un sy’n wynebu tlodi tanwydd os byddai angen iddi wario mwy na 10% o’i hincwm i’w gwresogi i lefel boddhaol. Mae hyn yn golygu y gall tai o ansawdd is gynyddu anghenion a chostau ynni, gan wneud tlodi tanwydd yn fwy tebygol (4).
Fodd bynnag, nid amodau tai yn unig sy’n achosi tlodi tanwydd. Mae’n adlewyrchu set ehangach o ffactorau strwythurol, fel incwm isel, costau byw cynyddol (7,8), cyflogaeth ansicr, a chyflyrau iechyd hirdymor (9,10). Gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn cyfyngu ar allu pobl i ddiwallu anghenion sylfaenol, gan arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd (6,18,19).
Yn unol ag ymdrech i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru (11) , mae mentrau cymunedol, fel Cymru Gynnes, wedi cael eu datblygu i gefnogi’r aelwydydd sydd fwyaf mewn perygl. Gan ddefnyddio model presgripsiynu cymdeithasol (20), mae’r rhaglenni a gyflwynir gan Cymru Gynnes yn mynd y tu hwnt i welliannau ffisegol i gartrefi gan helpu pobl i leihau biliau cyfleustodau a chostau ynni, gwneud gwell defnydd o ynni, helpu aelwydydd i wneud y mwyaf o’u hincwm, a chael mynediad at wasanaethau ehangach sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant. Trwy ddarparu’r cymorth wedi’i deilwra hwn, sy’n canolbwyntio ar unigolion, nod Cymru Gynnes yw lleihau tlodi tanwydd a gwella llesiant drwy helpu aelwydydd i gadw’n gynnes, lleihau straen ariannol a chael mynediad at gymorth ymarferol (12).
Gyda chyfraddau tlodi tanwydd yn codi ac amodau tai yn parhau i effeithio ar iechyd, mae gwir angen deall yn well sut mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio – a sut y gall ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol fel Cymru Gynnes, sy’n cyfuno cymorth ymarferol â dulliau cymdeithasol ac iechyd ehangach, wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.
Ynglŷn â’r astudiaeth hon
Beth oedden ni eisiau ei ddeall?
Nod yr astudiaeth hon oedd gwerthuso effaith effeithlonrwydd ynni a chymorth Cymru Gynnes ar ddefnydd gwasanaethau iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio data cysylltiedig ar raddfa boblogaeth o Fanc Data SAIL (14–16). Yn ogystal, cynhaliwyd gwerthusiad proses i ddeall sut mae gwasanaethau Cymru Gynnes yn cael eu darparu, a pha wahaniaeth maent yn ei wneud i unigolion sy’n derbyn cymorth a sefydliadau partner sy’n defnyddio Fframwaith RE-AIM (21).
Beth wnaethon ni?
Mabwysiadodd y gwerthusiad ddull gweithredu cymysg, wedi’u strwythuro o amgylch dwy ffrwd waith gyflenwol: dadansoddiad data cysylltiedig a gwerthusiad proses, gan ymgorffori elfennau meintiol ac ansoddol.
Ffrwd Waith 1: Dadansoddiad Data Cysylltiedig (Meintiol)
Cysylltodd y dadansoddiad meintiol gofnodion iechyd electronig (EHRs) dienw, a gesglir yn rheolaidd, ar raddfa’r boblogaeth ar lefel unigol a ffynonellau data gweinyddol o fewn Banc Data SAIL.
Crëwyd dwy garfan anarwahanol:
- Carfan preswylwyr Cymru sy’n gysylltiedig â Thystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) 2021 (N = 1,228,944): pawb a oedd yn byw yng Nghymru ar Ddiwrnod Cyfrifiad 2021 yr oedd ganddynt gofnod EPC dilys ac a oedd yn bodloni’r meini prawf i gael eu cynnwys yr astudiaeth (gweler y fethodoleg gefnogol). Oherwydd nad oedd gan bob cartref EPC dilys, efallai nad yw’r garfan hon yn gynrychioladol o boblogaeth gyfan Cymru ar yr adeg hon.
- Carfan Cymru Gynnes (N = 2,290): yr holl bobl a dderbyniodd gymorth gan Cymru Gynnes rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2023 a oedd â chofnod EPC dilys ac a oedd yn bodloni’r meini prawf i gael eu cynnwys yn yr astudiaeth (gweler y fethodoleg gefnogol).
Mesurwyd effeithlonrwydd ynni gan ddefnyddio’r sgôr effeithlonrwydd ynni gyfredol o gofnodion Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC). Mae hwn yn fesur cyfansawdd o nodweddion ffisegol cartref, yn amrywio o Fand A-B (y mwyaf effeithlon) i Fand F-G (y lleiaf effeithlon) (22). Er mwyn helpu i ddeall a oedd cymorth Cymru Gynnes yn gysylltiedig â newidiadau yn y defnydd o wasanaethau iechyd, fe wnaethom gymharu pobl a dderbyniodd gymorth â grŵp tebyg o bobl nad oeddent wedi derbyn cymorth gan Cymru Gynnes. Cafodd derbynwyr cymorth Cymru Gynnes eu paru ag unigolion nad oeddent yn derbyn cymorth Cymru Gynnes, ond oedd â nodweddion tebyg, megis oedran, rhyw, amddifadedd ar lefel ardal, natur wledig, deiliadaeth tai, sgôr EPC a defnydd blaenorol o wasanaethau iechyd. Yna fe wnaethon ni gymharu sut y newidiodd y defnydd o wasanaethau iechyd cyn ac ar ôl derbyn cymorth Cymru Gynnes yn y ddau grŵp. Mae manylion llawn i’w cael yn y fethodoleg gefnogol.
Ffrwd Waith 2: Gwerthusiad Proses (Ansoddol)
Roedd y dadansoddiad ansoddol yn cynnwys gwerthusiad proses a oedd yn defnyddio nifer o ffynonellau data i ddeall sut y darparwyd Cymru Gynnes, y gwahaniaeth a wnaeth i unigolion a oedd yn derbyn cymorth a sefydliadau partner, a’r canlyniadau a adroddwyd gan dderbynwyr.
Defnyddiwyd fframwaith RE-AIM i archwilio’r canlynol:
- Cyrhaeddiad: Deall pwy sy’n cael mynediad at y gwasanaeth, a’r ffactorau sy’n eu rhwystro a’u hwyluso i ymgysylltu â’r gwasanaeth
- Effeithiolrwydd: Y graddau y mae’r gwasanaeth yn cyfrannu at dlodi tanwydd a chanlyniadau llesiant hunan-ganfyddedig ac yn eu gwella
- Mabwysiadu: Sut mae sefydliadau partner yn ymgysylltu â gwahanol agweddau ar raglen Cymru Gynnes ac yn cefnogi’r broses o’u cyflawni
- Gweithredu: Sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n ymarferol a’i dderbynioldeb
- Gwaith Cynnal a Chadw: A yw canlyniadau’n gynaliadwy dros amser ac a ydynt yn deall yr amodau sy’n cefnogi integreiddio hirdymor
Casglwyd data o’r ffynonellau canlynol:
- Cyfweliadau ansoddol manwl gyda derbynwyr cymorth Cymru Gynnes (n=6), un nad oedd yn dderbynnydd (n=1), staff Cymru Gynnes (n=4), a chynrychiolwyr sefydliadau partner (n=2). Cynhaliwyd cyfanswm o 13 cyfweliad rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2025.
- Straeon y Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC)(23) a gasglwyd gan chwe derbynnydd cymorth Cymru Gynnes, gan gofnodi effeithiau canfyddedig a newidiadau ar ôl derbyn cymorth.
Recriwtiwyd cyfranogwyr gan ddefnyddio dull samplu pwrpasol. Oherwydd heriau recriwtio, roedd maint y sampl yn fach a dylid dehongli’r canfyddiadau yn ofalus (24).
Dadansoddwyd data yn thematig i archwilio profiadau defnyddwyr y gwasanaeth, staff a sefydliadau partner ac adroddwyd ar newidiadau mewn tlodi tanwydd, iechyd a llesiant, a chyfraniad cymorth Cymru Gynnes. Strwythurwyd y canfyddiadau gan ddefnyddio fframwaith RE‑AIM (21).
Pa mor effeithlon yw cartrefi Cymru o ran ynni?
Roedd effeithlonrwydd ynni yn amrywio ar draws nodweddion tai ac aelwydydd
Gan ddefnyddio’r garfan o breswylwyr Cymru a oedd yn gysylltiedig ag EPC 2021 (n = 1,228,944), y sgôr effeithlonrwydd ynni mwyaf cyffredin yng Nghymru yn 2021 oedd Band D (45.5%). Roedd bandiau uchaf (Band A-B) ac isaf (Band F-G) y raddfa sgorio yn gymharol anghyffredin, ac yn cyfrif am 1.8% a 5.7% o unigolion yn y drefn honno.
Roedd effeithlonrwydd ynni yn amrywio’n sylweddol yn ôl deiliadaeth, gyda chartrefi rhent cymdeithasol yn gyffredinol yn fwy effeithlon o ran ynni na chartrefi rhent preifat neu gartrefi perchen-feddianwyr (Ffigur 1). Mae hyn yn debygol o adlewyrchu gwahaniaethau mewn safonau rheoleiddio, sy’n fwy llym ar gyfer tai cymdeithasol nag ar gyfer cartrefi rhent preifat neu gartrefi perchen-feddianwyr (25,26).
Roedd effeithlonrwydd ynni hefyd yn amrywio yn ôl amddifadedd ar lefel ardal a natur wledig. Roedd pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi cymharol effeithlon o ran ynni (Ffigur 2), a allai adlewyrchu’r crynodiad uwch o dai rhent cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn. Mewn cyferbyniad, roedd unigolion mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi llai effeithlon o ran ynni, gyda 36.0% islaw cyfartaledd Band D o’i gymharu â 19.2% mewn ardaloedd trefol. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu ffactorau fel stoc tai hŷn, mynediad cyfyngedig at brif gyflenwad nwy, a chyfradd uwch o gartrefi perchen‑feddianwyr.
At ei gilydd, mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod sgôr effeithlonrwydd ynni yn amrywio yn ôl deiliadaeth tai a nodweddion aelwydydd ehangach. Felly mae’r sgôr yn ddefnyddiol ar gyfer disgrifio effeithlonrwydd ffisegol cartrefi, ond ni ddylid ei dehongli fel dull uniongyrchol o fesur dlodi tanwydd. Gall teulu fyw mewn cartref cymharol effeithlon o ran ynni a dal i gael trafferth fforddio lefel digonol o wres.
Pwy gafodd gymorth gan Cymru Gynnes?
Rhwng Ionawr 2021 a Rhagfyr 2023, roedd ein carfan Cymru Gynnes yn cynnwys 2,290 o bobl.
Roedd pobl a oedd yn derbyn cymorth gan Cymru Gynnes yn iau na’r garfan o breswylwyr Cymru a oedd yn gysylltiedig ag EPC yn 2021
Roedd pobl a oedd yn derbyn cymorth Cymru Gynnes yn iau na’r garfan o breswylwyr Cymru a oedd yn gysylltiedig â’r EPC yn 2021 (Ffigur 2). Roedd y rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn derbyn cymorth Cymru Gynnes (70.4%) yn byw mewn aelwydydd gydag oedolion a phlant, o’i gymharu â 50.5% o’r garfan o breswylwyr Cymru a oedd yn gysylltiedig â’r EPC yn 2021. Gall y patrymau hyn awgrymu galw uwch ymhlith teuluoedd â phlant, er y gallant hefyd adlewyrchu targedu cynlluniau, cyfyngiadau data, a/neu angen heb ei ddiwallu ymhlith pobl hŷn ac aelwydydd heb blant.
Nodweddion tai’r rhai sy’n derbyn cymorth Cymru Gynnes
Roedd y rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn derbyn cymorth Cymru Gynnes yn byw mewn cartrefi rhent cymdeithasol (59.6%) ac mewn ardaloedd mwy difreintiedig (41.2%). O’i gymharu â charfan preswylwyr Cymru sy’n gysylltiedig ag EPC 2021, roedd y rhai mewn cartrefi perchen-feddianwyr (Ffigur 3) a’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Ffigur 4) wedi’u tangynrychioli.
Roedd dros hanner derbynwyr cymorth Cymru Gynnes yn byw mewn cartrefi ag effeithlonrwydd ynni uwch na’r cyfartaledd, a ddiffinnir fel Bandiau EPC A–C, o’i gymharu â 30.7% o’r garfan preswylwyr Cymru a oedd yn gysylltiedig ag EPC yn 2021. Roedd oddeutu 1 o bob 10 o dderbynwyr cymorth Cymru Gynnes yn byw mewn cartrefi ag effeithlonrwydd ynni islaw’r cyfartaledd, a ddiffinnir fel Bandiau EPC E–G.
Gallai hyn adlewyrchu’r gyfran uchel o dderbynwyr Cymru Gynnes sy’n byw mewn tai rhent cymdeithasol, a oedd yn gyffredinol â sgoriau EPC uwch na thai rhent preifat neu dai perchen-feddianwyr. Fodd bynnag, nid yw byw mewn cartref mwy effeithlon o ran ynni o reidrwydd yn golygu y gall aelwyd fforddio lefel digonol o wres, yn enwedig os yw’r tŷ mewn ardal fwy difreintiedig.
Cyrhaeddiad: Mae Cymru Gynnes yn cyrraedd pobl mewn angen, ond mae rhwystrau mynediad yn parhau
Dangosodd canfyddiadau’r gwerthusiad proses fod Cymru Gynnes yn cyrraedd pobl sy’n wynebu tlodi tanwydd. Fel arfer, roedd defnyddwyr gwasanaethau yn cael mynediad at gymorth drwy atgyfeiriadau, ymgysylltu â’r gymuned ac awgrymiadau gan bobl eraill, gan geisio cymorth gyda chostau ynni, deall biliau a thariffau, a chael mynediad at gymorth ariannol ehangach.
Ar y cyfan, roedd y profiadau’n gadarnhaol, ac roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau yn nodi bod eu hanghenion wedi’u diwallu, hyd yn oed pan na ellid cyflawni’r holl ddisgwyliadau. Cryfhawyd ymgysylltiad â defnyddwyr gwasanaethau gan gyfathrebu clir y staff, cymorth gydag anghenion iechyd a llesiant sy’n canolbwyntio ar unigolion, cyswllt parhaus a gwiriadau dilynol, hyrwyddo wedi’i dargedu, a dulliau wedi’u teilwra ar gyfer grwpiau agored i niwed.
Cyfeiriodd defnyddwyr gwasanaethau, staff a sefydliadau partner at rwystrau i gael mynediad at gymorth a’i ddarparu. Roedd y rhain yn cynnwys cymhwysedd cyfyngedig ar gyfer rhai mathau o gymorth, fel talebau lluosog, budd-daliadau neu ôl-osod; anghenion heb eu diwallu y tu hwnt i gwmpas y gwasanaeth, fel newidiadau i’r cartref, poptai neu dalebau siopa; oedi neu golli cyswllt; cyfyngiadau ar gapasiti’r gwasanaeth; ac unigolion yn teimlo eu bod wedi’u llethu gan atgyfeiriadau lluosog.
Beth yw effaith Cymru Gynnes?
Cafodd darpariaeth gwasanaethau ei llunio gan gapasiti a gweithio mewn partneriaeth
Roedd gan staff, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid farn gadarnhaol am raglen Cymru Gynnes, ac roedd ei dull hyblyg, sy’n canolbwyntio ar unigolion, yn cael ei hystyried yn gryfder allweddol. Roedd perthnasoedd cryf a gweithio mewn partneriaeth yn cefnogi atgyfeiriadau ac yn helpu’r gwasanaeth i gyrraedd pobl mewn angen. Fodd bynnag, roedd pwysau ar gapasiti a chyllid, bylchau yn y ddarpariaeth, oediadau neu golli cyswllt, a heriau wrth gydlynu cymorth ar draws gwasanaethau hefyd yn llywio’r ddarpariaeth. Effeithiodd y ffactorau hyn ar ymatebolrwydd ac maent yn tynnu sylw at bwysigrwydd llwybrau atgyfeirio clir, cyfathrebu parhaus a gweithio mewn partneriaeth gynaliadwy.
Effeithiolrwydd: Cyfrannodd cymorth Cymru Gynnes at newidiadau ystyrlon i rai defnyddwyr gwasanaethau
Awgrymodd straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol a chyfweliadau ansoddol fod cymorth Cymru Gynnes wedi cyfrannu at welliannau ystyrlon i rai defnyddwyr gwasanaethau. Roedd y newidiadau a adroddwyd yn cynnwys llai o bwysau ariannol, mwy o hyder wrth reoli biliau a chael mynediad at gymorth, llesiant meddyliol gwell trwy leihau straen, a chysur corfforol gwell yn gysylltiedig â gallu cadw’n gynnes yn y cartref.
Priodolwyd y newidiadau hyn i’r ffaith bod y cymorth a ddarparwyd yn ymarferol ac wedi’i deilwra. Roedd hyn yn cynnwys cymorth gyda chostau tanwydd a biliau ynni, cyngor ar ynni, cymorth i ddeall neu newid tariffau, darparu eitemau hanfodol, a staff yn helpu defnyddwyr gwasanaethau i gyfathrebu â chyflenwyr ynni neu wasanaethau eraill. Disgrifiodd defnyddwyr gwasanaethau hefyd pa mor werthfawr oedd cael rhywun i wrando arnynt, derbyn cyfathrebu clir, a chael cefnogaeth a oedd yn teimlo’n ymatebol i’w hamgylchiadau.
Dylid dehongli’r canfyddiadau ansoddol yn ofalus. Maent yn seiliedig ar sampl fach, a ddewiswyd yn bwrpasol ac efallai nad ydynt yn cynrychioli profiadau pawb a dderbyniodd gymorth Cymru Gynnes. Nododd y gwerthusiad hefyd feysydd lle gallai anghenion barhau ar ôl cymorth, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau’n awgrymu llwybrau credadwy y gallai Cymru Gynnes eu dilyn i wella llesiant a lleihau straen, gan helpu i esbonio pam y canfu’r dadansoddiad data cysylltiedig lai o ryngweithiadau â meddygon teulu ar ôl derbyn cymorth.
Roedd yn bosibl cysylltu derbynwyr cymorth Cymru Gynnes â’u defnydd o’r gwasanaeth iechyd
Archwiliodd yr astudiaeth hon a oedd yn ymarferol cysylltu data dienw derbynwyr cymorth Cymru Gynnes â chofnodion gofal iechyd arferol i ddeall a oedd y cymorth a ddarparwyd yn cael effaith ar ddefnydd o wasanaethau iechyd. Roeddem yn gallu cysylltu bron pob unigolyn yn ein carfan Cymru Gynnes â data cleifion mewnol meddygon teulu ac ysbytai.
Dewiswyd rhyngweithiadau â meddygon teulu a nifer y diwrnodau y gwnaeth cleifion mewnol eu treulio yn yr ysbyty fel mesurau o ddefnydd gofal iechyd a gofnodwyd yn rheolaidd a allai fod yn sensitif i newidiadau mewn amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol a ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Fodd bynnag, nid ydynt yn mesur tlodi tanwydd, llesiant, statws iechyd na’r mecanweithiau y gallai cymorth Cymru Gynnes ddylanwadu ar eu canlyniadau yn uniongyrchol. Dylid dehongli’r ddau ganlyniad fel mesuriadau o ddefnydd cofnodedig o wasanaethau iechyd, nid mesuriadau uniongyrchol o angen iechyd.
Er mwyn ceisio deall a oedd cymorth Cymru Gynnes wedi cael effaith ar ddefnydd o wasanaethau iechyd, defnyddiwyd dyluniad gwahaniaeth-mewn-gwahaniaethau cyfatebol. Cymharodd hyn ddefnydd y gwasanaethau iechyd cyn ac ar ôl derbyn cymorth Cymru Gynnes yng ngharfan Cymru Gynnes â newidiadau mewn grŵp cymharu cyfatebol nad oeddent wedi derbyn cymorth gan Cymru Gynnes. Defnyddiwyd y dull hwn oherwydd bod derbynwyr cymorth Cymru Gynnes yn wahanol i’r boblogaeth ehangach o ran oedran, deiliadaeth, amddifadedd, cyfansoddiad aelwydydd ac angen sylfaenol tebygol, ac oherwydd bod y defnydd o wasanaethau iechyd eisoes yn dangos y nodweddion hyn. Er bod dulliau paru a gwahaniaeth-mewn-gwahaniaethau yn helpu i leihau rhagfarn o wahaniaethau a fesurir rhwng grwpiau, gall dryswch gweddilliol o ffactorau heb eu mesur barhau. Felly, dylid dehongli canlyniadau fel cysylltiadau yn hytrach nag amcangyfrifon pendant o effaith rhaglenni.
Mae’r dadansoddiad yn awgrymu bod derbyn cymorth gan Cymru Gynnes yn gysylltiedig â llai o ddiwrnodau o weithgarwch meddygfeydd teulu cofnodedig. O’i gymharu â phobl debyg na dderbyniodd gymorth, gwelwyd gostyngiad mwy yn nifer y dyddiau y cofnodwyd rhyngweithio â meddygon teulu ymhlith derbynwyr cymorth Cymru Gynnes. Dylid dehongli’r canfyddiad hwn yn ofalus oherwydd bod diwrnodau rhyngweithio â meddygon teulu yn cynnwys ymgynghoriadau, presgripsiynau a chofnodion gweinyddol, yn hytrach nag un math o apwyntiad neu gyflwr iechyd. Felly ni all y data ddangos yn union pa fath o weithgarwch meddyg teulu newidiodd, neu a yw’r gwahaniaeth yn adlewyrchu newidiadau mewn iechyd, newidiadau yn y ffordd y defnyddiodd pobl wasanaethau meddyg teulu, neu wahaniaethau yn y ffordd y cofnodwyd gweithgarwch.
Fe wnaethon ni hefyd ystyried a oedd cymorth Cymru Gynnes yn gysylltiedig â newidiadau yn y dyddiau a dreuliwyd yn yr ysbyty. Roedd arosiadau yn yr ysbyty yn llawer llai cyffredin na rhyngweithiadau â meddygon teulu yn ystod cyfnod yr astudiaeth, felly roedd yr amcangyfrifon yn llai manwl gywir. At ei gilydd, nid oedd dadansoddiad yn cynnig unrhyw dystiolaeth glir bod cymorth Cymru Gynnes yn gysylltiedig â newid yn y defnydd o ysbytai gan gleifion mewnol.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Crynodeb
Ymddengys bod Cymru Gynnes yn cyrraedd aelwydydd sydd ag anghenion cymorth ymarferol ac ariannol sylweddol. Roedd derbynwyr cymorth yn fwy tebygol o fyw mewn tai rhent cymdeithasol ac ardaloedd mwy difreintiedig, ac roedd llawer yn byw mewn cartrefi â sgoriau EPC uwch na’r cyfartaledd. Mae hyn yn atgyfnerthu’r ffaith bod tlodi tanwydd yn cael ei lunio gan amrywiaeth o ffactorau, ac nid yw byw mewn cartref mwy effeithlon o ran ynni o reidrwydd yn golygu y gall aelwyd fforddio lefel digonol o wres, yn enwedig os yw’r tŷ mewn ardal fwy difreintiedig.
Yn y dadansoddiad hwn, roedd y gostyngiad yn nifer y dyddiau o ryngweithiadau (clinigol a gweinyddol) â meddyg teulu yn fwy ymhlith pobl a dderbyniodd gymorth Cymru Gynnes na’r grŵp cymharu cyfatebol yn ystod y cyfnod dilynol. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl pennu o’r data hyn a oedd y gwahaniaeth hwn o ganlyniad i gymorth Cymru Gynnes, gan y gallai gwahaniaethau heb eu mesur rhwng grwpiau barhau. Roedd tystiolaeth o newidiadau yn nifer y dyddiau y cafodd cleifion mewnol eu cadw mewn ysbytai yn gyfyngedig ac yn ansicr.
Mae canfyddiadau ansoddol yn awgrymu llwybrau credadwy ar gyfer y patrymau hyn. Disgrifiodd defnyddwyr gwasanaethau lai o bwysau ariannol, mwy o hyder, llai o straen a mwy o gysur yn y cartref, tra bod staff a phartneriaid wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cymorth hyblyg, sy’n canolbwyntio ar unigolion, a pherthnasoedd atgyfeirio cryf.
Dylai darpariaeth yn y dyfodol barhau i gryfhau llwybrau atgyfeirio, dilyniant, cefnogaeth gymdeithasol a llesiant ehangach, gweithio mewn partneriaeth a chyllid cynaliadwy.
Cyfyngiadau
Fel yn achos unrhyw werthusiad dulliau cymysg sy’n defnyddio data arferol a chyfweliadau ansoddol, mae cyfyngiadau.
Cyflawnder data a chofnodi: Cafodd rhai unigolion eu heithrio oherwydd bod gwybodaeth am gymorth Cymru Gynnes, cysylltedd cyfeiriadau neu gofnodion EPC yn anghyflawn. Mae dyddiad y fynegai yn cofnodi ymgysylltiad a gofnodwyd gyda’r gwasanaeth ond efallai nad yw’n adlewyrchu amseriad, hyd, dwyster na chynnwys y cymorth a dderbyniwyd yn llawn.
Cysylltiad ag EPC a chwmpas: Roedd y cysylltiad â data effeithlonrwydd ynni tai yn dibynnu ar gyfeiriadau cofrestru meddygon teulu, a allai fod yn anghywir pe bai pobl yn symud heb ddiweddaru eu manylion. Roedd y dadansoddiad hefyd wedi’i gyfyngu i eiddo â chofnodion EPC dilys, felly efallai na fydd y carfanau yn yr astudiaeth yn cynrychioli’n llawn boblogaeth ehangach Cymru, pob derbynnydd cymorth Cymru Gynnes na’r stoc tai ehangach.
Canlyniadau defnydd o wasanaethau iechyd: Mae rhyngweithiadau â meddygon teulu yn cynnwys yr holl weithgarwch a gofnodir gan feddygon teulu, gan gynnwys ymgynghoriadau, presgripsiynau a digwyddiadau gweinyddol. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu defnydd a mynediad at wasanaethau a gofnodwyd, ac ni ddylid eu dehongli fel mesuriadau uniongyrchol o angen iechyd.
Dadansoddiad effaith: Mae’r dadansoddiad gwahaniaeth-mewn-gwahaniaethau yn tybio y byddai derbynwyr cymorth Cymru Gynnes a’r rheolyddion cyfatebol wedi dilyn tueddiadau tebyg yn absenoldeb cymorth. Mae paru yn gwella cymhariaeth, ond gall gwahaniaethau heb eu mesur barhau.
Samplu ansoddol: Mae canfyddiadau ansoddol yn seiliedig ar sampl fach, a ddewiswyd yn bwrpasol. Roedd recriwtio yn heriol, ac mae’n bosibl nad yw’r sampl yn cynnwys yr amrediad llawn o brofiadau defnyddwyr gwasanaethau, staff a phartneriaid.
Casgliad
At ei gilydd, mae’r gwerthusiad yn awgrymu bod Cymru Gynnes yn cyrraedd aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd. Mae’r canfyddiadau’n dangos nad yw sgôr effeithlonrwydd ynni yn unig o reidrwydd yn dangos y rhai sy’n wynebu tlodi tanwydd, ac y gallai cymorth ymarferol, ariannol a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn helpu i leihau straen a rhyngweithiadau a gofnodir gyda meddygon teulu i rai derbynwyr.
1. Watson I, MacKenzie F, Woodfine ii L, Azam ii S. Gwneud Gwahaniaeth Tai ac Iechyd: Prif Adroddiad Achos dros Fuddsoddi. Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru. 2019 [dyfynnwyd 2026 Meh 17]; Ar gael o: https://icccgsib.co.uk/adnoddau/gwneud-gwahaniaeth-tai-ac-iechyd-prif-adroddiad-achos-dros-fuddsoddi/
2. Cartrefi oer a llaith: Beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â salwch sy’n ymwneud â thai? [dyfynnwyd 2026 Meh 17]. Ar gael o: https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/cartrefi-oer-a-llaith-beth-sy-n-cael-ei-wneud-i-fynd-i-r-afael-a-salwch-sy-n-ymwneud-a-thai/
3. Janssen H, Gascoyne B, Ford K, Hill R, Roberts M, Azam S et al. C homes and their association with health and well-being: a systematic literature review. Cold homes and their association with health and well-being: a systematic literature review. 2022.
4. Llywodraeth Cymru. Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu ar gyfer Cymru: ym mis Hydref 2024. 2024.
5. Bolton P HS. Fuel Poverty [Internet]. 2025. Available from: https://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CBP-8730/CBP-8730.pdf%0A
6. Azam S, Jones T, Wood S, Bebbington E, Woodfine L BMI. Gwella iechyd a llesiant yn ystod y gaeaf a lleihau pwysau’r gaeaf yng Nghymru – Dull ataliol. 2019.
7. Policy WC for P. Poverty and social exclusion alleviation: overview of the international evidence. 2022.
8. Roberts MPL. Cartrefi fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant. 2024.
9. Carter I, Hill-Dixon A RM. Tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. 2022.
10. Sefydliad JRT. Tlodi yng Nghymru 2025. 2025.
11. Llywodraeth Cymru. Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035 [HTML] | LLYW.CYMRU [Rhyngrwyd]. 2021 [dyfynnwyd 2026 Meh 17]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/trechu-tlodi-tanwydd-2021-i-2035-htmll
12. J S. Cymorth gan Cymru Gynnes: Mynd i’r afael â thlodi tanwydd, lleihau anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi a gwella iechyd a lles. Cymru Gynnes. 2023.
13. The Networked Data Lab | The Health Foundation [Internet]. [cited 2021 Jun 7]. Available from: https://www.health.org.uk/funding-and-partnerships/the-networked-data-lab
14. Home – SAIL Databank [Rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 2026 Awst 6]. Ar gael o: https://saildatabank.com/
15. Ford D V., Jones KH, Verplancke JP, Lyons RA, John G, Brown G, et al. The SAIL Databank: Building a national architecture for e-health research and evaluation. BMC Health Serv Res [Rhyngrwyd]. 2009 Medi 4 [dyfynnwyd 2022 Jan 4];9(1):1–12. Ar gael o: https://bmchealthservres.biomedcentral.com/articles/10.1186/1472-6963-9-157
16. Lyons RA, Jones KH, John G, Brooks CJ, Verplancke JP, Ford D V., et al. The SAIL databank: Linking multiple health and social care datasets. BMC Med Inform Decis Mak [Rhyngrwyd]. 2009 Ion 16 [dyfynnwyd 2021 Meh 7];9(1):1–8. Ar gael o: http://www.biomedcentral.com/1472-6947/9/3
17. Alice Lee, Ian Sinha, Tammy Boyce, Jessica Allen PG. Fuel poverty, cold homes and health inequalities in the UK. 2022.
18. Barrett C, Lee AR, Abrams EM, Mayell SJ, Hawcutt DB SI. Eat or heat: fuel poverty and childhood respiratory health. Lancet Respir Med. 2022;10(3):229.
19. Liddell C, Morris C. Fuel poverty and human health: A review of recent evidence. Energy Policy [Rhyngrwyd]. 2010 Meh 1 [dyfnnwyd 2026 Meh 17];38(6):2987–97. Ar gael o: https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0301421510000625
20. Buck D, Baylis A, Dougall D RR. A Vision For Population Health. The King’s Fund. 2018.
21. Holtrop JS, Estabrooks PA, Gaglio B, Harden SM, Kessler RS, King DK et al. Understanding and applying the RE-AIM framework: Clarifications and resources. Clin Transl Sci. 2021;5(1):e126.
22. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Energy efficiency of housing in England and Wales: 2025 [Rhyngrwyd]. 2025 [dyfynwyd 2026 Meh 17]. Ar gael o: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/housing/articles/energyefficiencyofhousinginenglandandwales/2025
23. Davies R DJ. The Most Significant Change (MSC) Techqnique. 2005.
24. Saunders B, Kingstone T, Baker S, Waterfield J, Bartlam B et al. Saturation in qualitative rsearch: exploring the conceptualisation and operalisation. Qual Quant. 2017;52(4).
25. Llywodraeth Cymru. Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. 2024;
26. Safonau effeithlonrwydd ynni – Rhentu’n Ddoeth Cymru [Rhyngrwyd]. [dyfynnwyd 2026 Meh 17]. Ar gael o: https://rentsmart.gov.wales/cymergyefficiency/