Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Gwerthusiad Ffurfiannol a Seiliedig ar Werth o’r Broses o Gyflwyno Cam 1 Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 3ydd Gorffennaf 2023

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwerthusiad ffurfiannol a seiliedig ar werth o’r broses o gyflwyno Cam 1 Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW)

Yng Nghymru, cafodd y rhaglen atal diabetes genedlaethol yn seiliedig ar ymyriad ffordd o fyw byr ei datblygu yn dilyn gwaith treialu a gynhaliwyd yng nghlystyrau gofal sylfaenol Cwm Afan a Gogledd Ceredigion. Fel rhan o ymyriad AWDPP, defnyddir dull systematig i ganfod oedolion sy’n wynebu risg o ddatblygu Diabetes Mellitus Math 2 (T2DM) ar sail mesuriad HbA1c rhwng 42 a 47 mmol/mol, h.y., yr ystod cyn-ddiabetes, a chynnig sgwrs 30 munud sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i drafod ei ffordd o fyw (naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo) gan edrych yn benodol ar ddeiet a lefelau gweithgarwch corfforol. Y bwriad yw bod yr ymyriad yn cael ei ddarparu gan Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd penodedig sydd wedi cael hyfforddiant hanfodol er mwyn helpu i ddarparu ymyriad AWDPP. Yna, gall defnyddwyr gwasanaeth gael eu hatgyfeirio at raglenni hybu iechyd / addasu ffordd o fyw sy’n bodoli’n barod, fel y Rhaglen Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), gwasanaethau rheoli pwysau, neu raglen addysg ddigidol ryngweithiol Let’s Prevent Diabetes.
Caiff y gwaith o gyflwyno AWDPP yn genedlaethol ei arwain gan Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chaiff y rhaglen ei darparu gan dimau deietig cymunedol Byrddau Iechyd lleol, drwy glystyrau gofal sylfaenol ym mhob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Gwerthusiad Ffurfiannol a Seiliedig ar Werth o'r Broses o Gyflwyno Cam 1 Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Gwerthusiad Ffurfiannol a Seiliedig ar Werth o'r Broses o Gyflwyno Cam 1 Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig