Fepio a smygu ymhlith dysgwyr ym mlwyddyn 7 i 11 yng Nghymru
Awduron: Chris Emmerson, Mary-Ann McKibben, Rebecca Hughes, Dr Julie Bishop
Mae cyfran y bobl ifanc sy’n fepio wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi bod yn anghyfreithlon gwerthu fêp i unrhyw un o dan 18 oed ers 2015.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod argaeledd dyfeisiau untro a’r ffyrdd y mae fêps yn cael eu marchnata wedi cyfrannu’n gryf at eu hapêl ymhlith y grŵp hwn.
Cyhoeddwyd nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009, gwahardd gwerthu fêps untro a chyfyngu ar farchnata fêps mewn ffyrdd sy’n debygol o apelio at blant a phobl ifanc.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf y byddai’r dulliau hyn yn lleihau nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n dechrau smygu a fepio.
Mae’r data a gyflwynir yn seiliedig ar 129,761 o ddysgwyr o flwyddyn 7 i 11 o 201 o ysgolion yng Nghymru a ymatebodd i’r arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (SHW) a weinyddwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2023.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Fepio a smygu ymhlith dysgwyr ym mlwyddyn 7 i 11 yng Nghymru
PDF, 578KB
Llawrlwytho PDF - Fepio a smygu ymhlith dysgwyr ym mlwyddyn 7 i 11 yng Nghymru (578 KB)
Llawrlwytho PDF