Elfennau gofal brys a’u heffeithiolrwydd: adolygiad cyflym
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Anamica Patel, Keira Charteris, Kate Shiells, Laura Johnson, Helen Morgan, Hannah Shaw, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Kirsty Little, Mariana Dyakova
Cyhoeddwyd ar: 1af Tachwedd 2025
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae’r galw am ofal brys a gofal mewn argyfwng yn cynyddu ledled y byd. Mae adrannau brys yn wynebu arosiadau hirach a mwy o gleifion, oherwydd poblogaethau sy’n heneiddio, salwch cronig ac ymweliadau nad ydynt yn rhai brys.
Yn aml, mae pobl yn dewis gofal mewn argyfwng er hwylustod neu sicrwydd, tra bod gwasanaethau gofal brys yn parhau i fod yn dameidiog ac yn aneglur. Cynhaliwyd yr adolygiad cyflym hwn i edrych ar dystiolaeth gyfredol ac arferion da o wledydd eraill i helpu i ailgynllunio gofal brys a bodloni’r galw cynyddol yng Nghymru. Ac i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu model gofal brys newydd sy’n cynnig cyngor, asesiad a gofal di-dor yn nes at y cartref.
Archwiliodd yr adolygiad cyflym hwn ba gydrannau o wasanaethau gofal brys sydd fwyaf effeithiol wrth leihau’r galw mewn ysbytai a chefnogi gofal yn y cartref.
Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at gydrannau gwasanaeth cyffredin a ddefnyddir yn rhyngwladol ac yn nodi’r rhai sydd fwyaf effeithiol wrth leihau pwysau ar ysbytai a chefnogi annibyniaeth cleifion.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Gwnaethom y chwiliadau ar gyfer yr adolygiad hwn ym mis Ebrill a mis Mai 2025 a chynnwys astudiaethau a gyhoeddwyd yn Saesneg a werthusodd ddata a gasglwyd ar ôl 2015.
Yr Hyn a Ganfuom
Fe wnaethon ni gynnwys 22 astudiaeth. Ni chanfuwyd unrhyw adolygiadau systematig nac astudiaethau penodol i Gymru. Daeth chwe chydran allweddol gofal brys i’r amlwg: mynediad at radioleg, brysbennu digidol, offer ailgyfeirio, canolfannau gofal brys, symud tasgau, a gofal brys rhithwir. Gan fod yr holl dystiolaeth yn dod o’r tu allan i Gymru, mae angen ymchwil bellach i ddeall sut mae’r canfyddiadau hyn yn berthnasol yng nghyd-destun Cymru.
- Mae symud tasgau yn trosglwyddo rhai tasgau gofal brys oddi wrth feddygon teulu i ymarferwyr uwch, fel ymarferwyr nyrsio, i helpu i reoli’r galw cynyddol a phrinder gweithlu. Mae tystiolaeth o Loegr a’r Iseldiroedd yn awgrymu y gall y dull hwn weithio’n ddiogel pan gaiff ei gefnogi gan brotocolau clir a goruchwyliaeth. Mae astudiaethau’n adrodd am ansawdd gofal tebyg a boddhad uchel gan gleifion, ond roedd yr arbedion cost yn fach ac yn ansicr, ac mae angen mwy o ymchwil i gadarnhau’r effeithiau hirdymor.
- Mae mynediad at brofion diagnostig fel pelydrau-X yn aml yn gyfyngedig mewn gofal meddyg teulu y tu allan i oriau, gan arwain at fwy o atgyfeiriadau i adrannau brys. Canfu un astudiaeth o’r Iseldiroedd fod rhoi mynediad uniongyrchol i feddygon teulu at radioleg yn lleihau atgyfeiriadau i adrannau brys ar gyfer achosion trawma. Er bod hyn yn awgrymu y gallai gwell mynediad wella llif cleifion, mae’r dystiolaeth yn gyfyngedig i un wlad.
- Mae offer brysbennu digidol, fel GIG 111 ac apiau hunan-frysbennu, yn helpu i arwain pobl at y gofal cywir a lleihau teithiau diangen i’r adran achosion brys. Mae tystiolaeth o Wlad Belg, Denmarc, yr Iseldiroedd, Portiwgal a Lloegr yn dangos canlyniadau cymysg. Gall yr offer hyn ostwng costau a gwneud gofal yn fwy effeithlon, ond mae eu heffaith ar ddiogelwch a phrofiad cleifion yn amrywio yn dibynnu ar sut maen nhw wedi’u cynllunio a’u staffio.
- Mae ailgyfeirio yn cynnwys anfon cleifion addas o’r adran achosion brys i glinigau meddygon teulu y tu allan i oriau gwaith i leihau gorlenwi. Mae un astudiaeth ansawdd isel o Ffrainc yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gleifion yn derbyn ailgyfeirio ac ychydig wnaeth ddychwelyd i’r adran achosion brys, sy’n dangos y gallai fod yn ddiogel ac yn dderbyniol. Fodd bynnag, roedd boddhad yn dibynnu ar y gwasanaethau oedd ar gael, ac mae’r dystiolaeth yn gyfyngedig i un lleoliad.
- Nod canolfannau gofal brys yw lleihau’r pwysau ar adrannau achosion brys drwy reoli cyflyrau nad ydynt yn peryglu bywyd yn gyflym. Mae tystiolaeth o bum astudiaeth ryngwladol yn awgrymu y gall y rhain wella llif cleifion a lleihau’r galw mewn adrannau brys a gallant ostwng costau drwy osgoi profion diangen. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau’n fach, ar un safle, a thu allan i’r DU, ac mae’r canfyddiadau ar ddiogelwch, amseroedd aros, a phrofiad cleifion yn amrywio.
- Mae gofal brys rhithwir yn defnyddio ymgynghoriadau fideo neu ar-lein i reoli achosion acíwtedd isel o bell a lleihau ymweliadau personol. Mae tystiolaeth o Ddenmarc a Chanada yn awgrymu y gall y rhain wella mynediad a boddhad cleifion a gallant ostwng costau pan osgoir ymweliadau ag adrannau brys. Fodd bynnag, mae canfyddiadau o ran yr effaith ar wasanaethau a gofal dilynol yn gymysg.
Beth Mae Hyn yn ei Olygu?
Mae gwasanaethau gofal brys dan bwysau, ac mae’r adolygiad hwn yn tynnu sylw at chwe chydran a allai helpu: symud tasgau, mynediad at radioleg, brysbennu digidol, ailgyfeirio, canolfannau gofal brys, a gofal brys rhithwir. Mae pob un yn dangos addewid ar gyfer gwella effeithlonrwydd a lleihau’r galw ar adrannau brys, ond mae’r dystiolaeth yn gymysg ac yn dod o’r tu allan i Gymru yn bennaf.
Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod:
- Timau amlddisgyblaethol a phrotocolau clir yn gallu cefnogi symud tasgau’n ddiogel.
- Gwell mynediad at ddiagnosteg yn gallu lleihau atgyfeiriadau diangen i adrannau achosion brys.
- Offer digidol a rhithwir yn gallu gwella mynediad, ond mae dyluniad a staffio yn effeithio ar ddiogelwch a phrofiad cleifion.
- Modelau gwasanaeth fel canolfannau gofal brys ac ailgyfeirio yn gallu lleddfu pwysau ar adrannau brys, ond mae llwyddiant yn dibynnu ar seilwaith lleol ac ymwybyddiaeth cleifion.
Dylai llunwyr polisi ystyried yr opsiynau hyn wrth ailgynllunio gofal brys yng Nghymru, gan gydbwyso diogelwch, effeithlonrwydd a thegwch. Bydd ymwybyddiaeth gyhoeddus a dylunio gwasanaethau cynhwysol yn allweddol. Mae angen ymchwil bellach i brofi’r dulliau hyn yng Nghymru, archwilio costau hirdymor, a sicrhau eu bod yn gweithio i bob grŵp o’r boblogaeth.
Gwybodaeth dechnegol
Gwnaethom adolygiad cyflym gan ddefnyddio dulliau symlach i ddod o hyd i dystiolaeth a’i chrynhoi’n gyflym yn hytrach na chynnal cwiliad trylwyr. Fe wnaethon ni gynnwys astudiaethau a edrychodd ar sut mae cydrannau gofal brys yn gweithio’n ymarferol a mesur canlyniadau megis diogelwch, amseroedd aros, cost-effeithiolrwydd, , a phrofiad cleifion. Er mai gofal sylfaenol brys oedd y ffocws, roedd llawer o astudiaethau’n cyfuno gofal brys a gofal mewn argyfwng. I adlewyrchu hyn, fe wnaethon ni gynnwys y ddau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Elfennau gofal brys a'u heffeithiolrwydd: adroddiad technegol
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Elfennau gofal brys a'u heffeithiolrwydd: adroddiad technegol (1 MB)
Llawrlwytho PDF