Effeithiolrwydd cost ychwanegu asid ffolig at flawd wrth atal diffygion tiwb niwral: adolygiad chwmpasu ystwyth
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Claire Morgan
Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2023
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae diffygion tiwb niwral yn gyflyrau geni sy’n datblygu pan nad yw’r tiwb niwral yn cau’n iawn yn ystod y 28 diwrnod cyntaf ar ôl beichiogi. Gall asid ffolig helpu i atal diffygion niwral. Mae diffyg asid ffolig yn broblem iechyd cyhoeddus sylweddol. Ystyrir bod ychwanegu asid ffolig at flawd yn ffordd effeithiol o gyrraedd pobl sydd â beichiogrwydd heb ei gynllunio a’r rheini nad ydynt yn cymryd at chwanegiadau asid ffolig cyn beichiogi.
Gofynnwyd i ni ymchwilio i effeithiolrwydd cost ychwanegu asid ffolig at flawd er mwyn atal diffygion niwral. Nod yr adroddiad chwmpasu hwn oedd crynhoi’r dystiolaeth eilaidd sydd ar gael ar y pwnc hwn ac i nodi ymchwil o ansawdd uchel a allai lywio unrhyw ddadansoddiad effeithiolrwydd cost yn y dyfodol, yn ogystal â chefnogi newidiadau polisi i wneud ychwanegu asid ffolig at flawd gwenith nad yw’n flawd cyflawn yn orfodol, fel y penderfynwyd gan Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn 2021.
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2023 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2013 a 2023.
Beth wnaethom ddarganfod?
- Dim ond un adolygiad systematig a aeth i’r afael yn uniongyrchol â’r cwestiwn o effeithiolrwydd cost defnyddio blawd wedi’i atgyfnerthu ag asid ffolig i atal diffygion tiwb niwral
- Ymddengys fod atgyfnerthu yn effeithiol o ran cost ar gyfer atal diffygion tiwb niwral
- Am bob uned ariannol a wariwyd ar atgyfnerthu gorfodol asid ffolig mewn blawd, byddai elw o 17.5 uned ariannol
- Roedd pob dos o asid ffolig yn gost-effeithiol ac yn darparu buddiannau iechyd cadarnhaol, ac eithrio mewn un astudiaeth
- Cysylltwyd dos uwch o asid ffolig â gwell gwerth am arian a dychweliad uwch ar fuddsoddiad o raglenni atgyfnerthu gorfodol
- Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag atgyfnerthu blawd yn orfodol yn cynnwys cynhyrchu, storio, dosbarthu, gweithgareddau rheoleiddio (megis ymgyrchoedd addysg gyhoeddus ac archwiliadau cynnyrch), a monitro ar gyfer effeithiau andwyol posibl
- Mae’r costau cysylltiedig y gellir eu harbed drwy atgyfnerthu blawd yn orfodol yn cynnwys: amser gofalwyr (oriau), gostyngiad yn y gweithlu a chynhyrchiant, amser ail-leoli’r gweithlu (cyflogwr), talu pensiynau a budd-daliadau cymdeithasol eraill i bobl â diffygion tiwb niwral; addasrwydd cartref ac addysg arbennig
- Dangosodd canlyniadau dau astudiaeth fod dosau asid ffolig dros 300 μg/100 g yn cael cymhareb dadansoddiad cost-buddiant uwch na dosau o dan 300 μg/100 g
Beth mae hyn yn ei olygu?
Gan mai dim ond un adolygiad systematig a nodwyd a oedd yn uniongyrchol berthnasol i’r cwestiwn, gallai fod yn briodol cynnal adolygiad chwmpasu o’r llenyddiaeth gynradd i nodi ymchwil arall sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn, yn enwedig ymchwil gynradd o’r DU neu Ewrop, os yw ar gael.
Gwybodaeth dechnegol
Cynhyrchwyd gennym adolygiad chwmpasu ystwyth sy’n rhoi trosolwg eang o’r dystiolaeth ar effeithiolrwydd cost atgyfnerthu blawd ag asid ffolig ar gyfer atal diffygion tiwb niwral.
Geirfa
Asid ffolig: y fersiwn synthetig o’r fitamin ffolad, a elwir hefyd yn fitamin B9. Mae ffolad yn helpu’r corff i gynhyrchu celloedd gwaed coch iach ac mae i’w gael mewn rhai bwydydd.
Astudiaeth gynradd: ymchwiliad ymchwil gwreiddiol lle mae ymchwilwyr yn casglu ac yn dadansoddi data’n uniongyrchol (er enghraifft, arolwg, cyfweliadau neu arbrofion), yn hytrach na chrynhoi astudiaethau eraill.
Cymhareb Dadansoddiad Cost a Buddiant: math o werthusiad economaidd sy’n asesu’r elw ariannol, neu’r buddiannau, o ymyrraeth o’i gymharu â chyfanswm cost ei chyflwyno.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cost-effeithiolrwydd atgyfnerthu blawd ag asid ffolig er mwyn atal diffygion y tiwb niwral cwmpas y llenyddiaeth eilaidd
PDF, 334KB
Llawrlwytho PDF - Cost-effeithiolrwydd atgyfnerthu blawd ag asid ffolig er mwyn atal diffygion y tiwb niwral cwmpas y llenyddiaeth eilaidd (334 KB)
Llawrlwytho PDF