Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dulliau lleihau niwed ysmygu: adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Laura Johnson, Kate Shiells, Amy Fox-McNally, Hannah Shaw

Cyhoeddwyd ar: 8fed Gorffennaf 2026

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Ysmygu yw prif achos clefydau a marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Helpa Fi i Stopio yn dilyn canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) drwy gefnogi ysmygwyr i ‘roi’r gorau iddi’n sydyn’, sef pan fo dyddiad rhoi’r gorau iddi’n cael ei bennu a rhoddir y gorau i ysmygu’n llwyr. Fodd bynnag, nid yw llawer o ysmygwyr yn barod nac yn gallu rhoi’r gorau iddi’n sydyn. Ar gyfer yr unigolion hyn, mae NICE yn argymell trafod dulliau lleihau niwed, gan weithio gyda phob person i nodi strategaethau addas a phennu nodau cyraeddadwy.

Mae opsiynau lleihau niwed yn cynnwys:
• Ysmygu llai cyn rhoi’r gorau iddi gyda chymorth ymddygiad
• Ysmygu llai heb roi’r gorau iddi, gan ddefnyddio cymorth ymddygiad
• Rhoi’r gorau i ysmygu dros dro

Argymhellir therapi disodli nicotin (NRT) ar gyfer lleihau niwed trwy gyfnewid sigaréts yn llwyr neu’n rhannol, neu drwy leihau chwantau. Ystyrir bod therapi disodli nicotin yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer ysmygu llai, yn well na pharhau i ysmygu, yn cynyddu’r tebygolrwydd o roi’r gorau iddi, yn lleihau ysmygu cydadferol (ysmygu llai o sigaréts ond eu hanadlu i mewn yn ddyfnach), a gellir ei ddefnyddio am gyfnod amhenodol er mwyn atal ailddechrau ysmygu.

Ni argymhellir e-sigaréts ar gyfer lleihau niwed oherwydd nad ydynt wedi’u trwyddedu na’u rheoleiddio’n feddygol, ac mae diffyg tystiolaeth o safbwynt eu diogelwch, eu hansawdd a’u heffeithiolrwydd. Er eu bod yn debygol o fod yn llai niweidiol nag ysmygu, cynhyrchion nicotin trwyddedig yw’r opsiwn a ffefrir.

Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth sy’n sail i ganllawiau lleihau niwed cyn 2015. Felly, nod yr adolygiad cyflym hwn yw diweddaru’r sylfaen dystiolaeth ar ddulliau lleihau niwed. Mae’n crynhoi’r hyn sy’n gweithio i oedolion nad ydynt eto’n barod i geisio rhoi’r gorau iddi’n sydyn, gyda’r bwriad o lywio datblygiadau yn y dyfodol o’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio er mwyn helpu pobl i leihau ysmygu neu fwrw ati’n raddol i roi’r gorau iddi.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Chwiliodd yr adolygiad cyflym hwn am astudiaethau cynradd a gyhoeddwyd ers 2015.

Beth wnaethom ei ganfod

  • Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth newydd gref a fyddai’n cyfiawnhau cefnu ar ganllawiau NICE. Dylai datblygiadau Helpa Fi i Stopio er mwyn cefnogi pobl nad ydynt yn barod i ymrwymo i roi’r gorau iddi ddilyn y canllawiau presennol.
  • Fe wnaethom chwilio am unrhyw ymyriadau i leihau dod i gysylltiad ag ysmygu tybaco nad ydynt yn cynnwys rhoi’r gorau iddi’n sydyn. Gellid pennu nodau ar gyfer lleihau ysmygu ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â nodau tymor hwy i roi’r gorau i ysmygu.
  • Cafodd naw hap-dreial eu cynnwys yn yr adolygiad, gan archwilio cymorth ymddygiad ar ei ben ei hun, neu ar y cyd â therapi disodli nicotin neu feddyginiaeth ar bresgripsiwn (varenicline).
  • Roedd gan varenicline ynghyd â chymorth ymddygiad dystiolaeth glir o fudd o un treial rhyngwladol o ansawdd uchel, gan wella cyfraddau lleihau ysmygu ac ymatal wedi’i gadarnhau.
  • Helpodd cymorth ymddygiad yn unig rai pobl i ysmygu llai yn y tymor byr ond ni ddangosodd unrhyw effaith barhaus ar ymatal wedi’i gadarnhau mewn tri ymyriad amrywiol.
  • Nid ddangosodd therapi disodli nicotin ynghyd â chymorth ymddygiad unrhyw dystiolaeth o wella cyfraddau lleihau neu ymatal wedi’u cadarnhau mewn pedair astudiaeth o ansawdd gwaeth.
  • Roedd canlyniadau a adroddwyd gan unigolion eu hunain yn aml yn goramcangyfrif llwyddiant yn fawr o’u cymharu â mesurau wedi’u cadarnhau.
  • Dim ond dwy astudiaeth a adroddodd am niwed neu gost – effeithiolrwydd, felly nid oes sicrwydd o ran y cydbwysedd cyffredinol rhwng niwed a budd.

Gwybodaeth dechnegol

Chwiliodd yr adolygiad cyflym hwn am astudiaethau cynradd a gyhoeddwyd ers 2015. Roedd yn cynnwys hap-dreialon dan reolaeth yn cynnwys oedolion sy’n ysmygu ond nad ydynt yn barod i bennu dyddiad rhoi’r gorau iddi. Gallai ymyriadau fod yn unrhyw ddull o leihau cysylltiad â thybaco nad yw’n cynnwys rhoi’r gorau iddi’n sydyn. Gellid pennu nodau ar gyfer lleihau ysmygu ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â nodau tymor hwy i roi’r gorau i ysmygu. Roedd y canlyniadau’n cynnwys newidiadau wedi’u cadarnhau mewn ymddygiad ysmygu, llai o ysmygu ac ymatal rhag ysmygu. Cafodd tystiolaeth ei chrynhoi ar ffurf naratif oherwydd amrywiad mewn ymyriadau a mesurau canlyniad.

Rhestr Termau

Therapi Disodli Nicotin: Mae therapi disodli nicotin yn driniaeth sy’n darparu nicotin mewn ffurf fwy diogel – fel patsys, gwm, losenni, anadlyddion, neu chwistrellau – er mwyn helpu i leihau symptomau diddyfnu a chwantau pan fydd rhywun yn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.

Varenicline: a elwir hefyd yn Champix, yw meddyginiaeth ar bresgripsiwn sy’n gweithio trwy leihau symptomau diddyfnu a rhwystro rhai o effeithiau ‘gwobrwyo’ ysmygu, gan wneud rhoi’r gorau iddi’n haws a gan wneud ailddechrau ysmygu’n llai tebygol.

Rhanddeiliaid

Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Dulliau lleihau niwed ysmygu: adolygiad cyflym o'r llenyddiaeth

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Dulliau lleihau niwed ysmygu: adolygiad cyflym o'r llenyddiaeth (2 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig