Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Derbyn brechlynnau ymhlith plant yng Nghymru: Adroddiad blynyddol COVER 2025 i 2026

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 6ed Gorffennaf 2026

  • COVER blynyddol

Crynodeb Pennawd

Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, bu gostyngiadau bach yn nifer y brechiadau arferol i blant hyd at bum mlwydd oed. Fodd bynnag, arhosodd y nifer sy’n derbyn brechiadau arferol ymhlith pobl ifanc yn sefydlog, neu cynyddodd mewn rhai achosion. Mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau o ran cwblhau’r amserlen frechu arferol erbyn pedair oed. Gostyngodd y bwlch anghydraddoldeb ychydig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan adlewyrchu gostyngiad bach yn nifer y plant oedd wedi’u brechu erbyn pedair oed yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Adroddiad Blynyddol Brechiadau Plentyndod yng Nghymru 2026

Ffeithlun o Adroddiad Blynyddol Brechiadau Plentyndod yng Nghymru 2026 yn dangos cyfraddau derbyn brechiadau yn 1, 2, 4 ac 16 oed. Mae'r gyfradd derbyn yn 1 oed yn amrywio rhwng 90.9% a 94.6%, ac yn 2 oed rhwng 91.7% a 92.5%. Yn 4 oed, mae 84.6% o blant yn gyfredol â'u brechiadau. Dangosir cyfraddau derbyn y brechlyn HPV ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd dros amser, ac mae'r cyfraddau'n aros yn uwch na 70%. Yn 16 oed, mae'r gyfradd derbyn MMR yn uchel (95.9% ar gyfer y dos cyntaf a 93.5% ar gyfer yr ail ddos), tra bod cyfraddau derbyn y brechlyn atgyfnerthu i bobl ifanc a'r brechlyn MenACWY tua 76%.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Derbyn brechlynnau ymhlith plant yng Nghymru - Adroddiad blynyddol COVER 2025 i 2026 (Saesneg yn unig)

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Derbyn brechlynnau ymhlith plant yng Nghymru - Adroddiad blynyddol COVER 2025 i 2026 (Saesneg yn unig) (2 MB)

Llawrlwytho PDF