Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

COVID-19 a newidiadau o ran cyflogaeth yng Nghymru – Mewnwelediadau ar gyfer polisi – pobl ifanc, cyflogaeth ac iechyd

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gomisiwn i Beaufort Research i archwilio barn am heriau o ran cyflogaeth a wynebir gan bobl ifanc (â phlant dibynnol a heb blant dibynnol) mewn perthynas â’r pandemig; a beth ellid ei wneud i liniaru effaith newidiadau o ran cyflogaeth sy’n gysylltiedig â COVID-19 ar bobl ifanc. Fe wnaed ymchwil ansoddol gyda phobl ifanc 18-24 mlwydd oed mewn ystod o wahanol amgylchiadau (chwe grŵp ffocws), mudiadau’r trydydd sector a oedd yn cefnogi pobl ifanc (un gweithdy ar-lein), ac ystod o wneuthurwyr polisi a dylanwadwyr yn y maes hwn (17 o gyfweliadau unigol). Fe wnaed y gwaith maes rhwng 20 Ionawr ac 16 Mawrth 2021.


Yn wahanol i arolygon meintiol, nid yw ymchwilio ansoddol, o ran ei natur, wedi’i fwriadu i fod yn ystadegol gynrychioliadol. Mae wedi’i fwriadu i fod yn enghreifftiol ac i ymorol am archwiliad manwl o’r amrywiaeth mewn perthynas â phynciau o ddiddordeb.

Lawrlwythiadau adroddiadau

COVID-19 a newidiadau o ran cyflogaeth yng Nghymru - Mewnwelediadau ar gyfer polisi - pobl ifanc, cyflogaeth ac iechyd

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - COVID-19 a newidiadau o ran cyflogaeth yng Nghymru - Mewnwelediadau ar gyfer polisi - pobl ifanc, cyflogaeth ac iechyd (3 MB)

Llawrlwytho PDF