CBSSI adroddiad blynyddol 2025
Cyhoeddwyd ar: 11eg Tachwedd 2026
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cafodd y tîm Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn Nhîm Diogelu Iechyd (HARP), Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) ei gyfarwyddo i ddatblygu cynllun cadw gwyliadwriaeth a chefnogi’r broses o’i roi ar waith yn dilyn Genedigaethau Cesaraidd a gynhelir yn ysbytai’r GIG yng Nghymru. Bu’r broses hon yn orfodol ers mis Ionawr 2006.
Mae Haint Clwyf Llawfeddygol (SSI) yn faes pwysig sy’n gofyn am wyliadwriaeth barhaus, gan fod heintiau o’r fath yn parhau i fod yn un o gymhlethdodau llawfeddygaeth, lle mae’r effaith ar bobl a’r effaith ariannol yn fawr (Plowman, 2000; Jenks, Laurent, McQuarry a Watkins, 2014). Yn ogystal â hyn, gellir atal y rhan fwyaf o heintiau (National Institute for Health and Care Excellence, 2019). SSI yw un o’r cymhlethdodau mwyaf cyffredin dilyn genedigaethau Cesaraidd (Zuarez-Easton et al. 2017; Zejnullahu et al. 2019).
Gall SSI arwain at ganlyniadau difrifol i gleifion, gan gynnwys poen ac, o bryd i’w gilydd, yr angen am ymyriadau llawfeddygol ychwanegol (Sykes, Brodribb, McLaws, & McGregor, 2005). Mae’n bwysig cydnabod bod SSI yn gallu amrywio o redlif cymharol ddibwys o’r clwyf heb gymhlethdodau pellach, i gyflwr sy’n bygwth bywyd. Mae canlyniadau clinigol eraill SSI yn cynnwys creithiau gwael sy’n annerbyniol o safbwynt cosmetig, poen a chosi parhaus, cyfyngiad ar symudiad, a chael effaith sylweddol ar lesiant emosiynol.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data a gasglwyd yn ystod arhosiad cleifion yn yr ysbyty ac yn y gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Mae’r cynllun cadw gwyliadwriaeth yn ymgorffori data a gasglwyd gan dimau clinigol a bydwragedd ac mae’n defnyddio diffiniadau y cytunwyd arnynt (Horan, Gaynes, Martone, Jarvis, & Emori, 1992), gan olygu bod modd cymharu data Cymru â chronfeydd rhyngwladol eraill, fel cronfa ddata SSI Ewropeaidd Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop (ECDC), a’u hymgorffori iddynt. Mae’r adroddiad hwn yn nodi canlyniadau’r data gwyliadwriaeth a gasglwyd yn 2025.
Lawrlwythiadau adroddiadau
CBSSI Adroddiad Blynyddol 2025
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - CBSSI Adroddiad Blynyddol 2025 (1 MB)
Llawrlwytho PDF