Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
Cyhoeddwyd ar: 2il Mawrth 2026
Mae’r adroddiad byr hwn a gyhoeddwyd gan y Tîm Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i effaith Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ar lefelau siwgr yn y gwaed a’r categorïau glycemig cysylltiedig (normoglycemia, cyn-ddiabetes, a diabetes). Defnyddiodd y gwerthusiad ddata gwasanaeth cysylltiedig a chofnodion gofal iechyd rheolaidd a gedwir yng nghronfa ddata Cysywllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (9–13). Defnyddiwyd cynllun sawl cyfnod cam wrth gam ar gyfer y gwerthusiad a chymharwyd canlyniadau ar gyfer bron i 2,000 o unigolion a gafodd gynnig bod yn rhan o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan. Nodwyd bron i 1,500 o bobl fel rhai a oedd mewn perygl o gael diabetes math 2 a oedd yn derbyn y gofal arferol cyn cyflwyno’r rhaglen.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
PDF, 172KB
Llawrlwytho PDF - Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (172 KB)
Llawrlwytho PDF