Pwysig

Oherwydd problem fyd-eang gyda Microsoft 365 rydym yn profi oedi wrth dderbyn ac ymateb i e-byst ac ymholiadau ar-lein.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol dros y ffôn.

Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Manylion:

Awduron: Louisa Petchey, Katie Cresswell

Cyhoeddwyd ar: 27ain Hydref 2021

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Bydd y nodyn briffio hwn yn edrych ar beth yw cytundebau masnach a pham mae ganddynt ganlyniadau pwysig i iechyd a llesiant gwlad.

Bydd yn crynhoi dadansoddiad cychwynnol o’r cytundebau masnach newydd sy’n cael eu taro gan Lywodraeth y DU i dynnu sylw at rai o’r cyfleoedd a’r risgiau i iechyd y cyhoedd, ac archwilio beth allai hyn ei olygu i Gymru.

Mae’r briff hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a swyddogion sy’n gweithio ar bolisi iechyd y cyhoedd sydd â diddordeb mewn sut y gall Brexit a chytundebau masnach effeithio ar eu gwaith, ac i swyddogion y DU a Chymru sy’n gweithio ym maes polisi masnach godi ymwybyddiaeth o berthnasedd masnach i iechyd a llesiant pobl Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Adroddiad beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

PDF, 2MB

Llawrlwytho PDF - Adroddiad beth allai cytundebau masnach ar ôl Brexit ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru? (2 MB)

Llawrlwytho PDF