Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgaredd gofal wedi’i gynllunio

Manylion:

Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Chukwudi Okolie, Jordan Everitt, Alesha Wale, Helen Morgan, Toby Ayres, Hannah Shaw, Ruth Lewis, Alison Cooper, Adrian Edwards

Cyhoeddwyd ar: 1af Mawrth 2023

Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Fe wnaeth pandemig COVID-19 waethygu tarfu ar wasanaethau gofal dewisol yn y DU ymhellach, gan arwain at arosiadau hirach am driniaeth ac ôl-groniad cynyddol i lawdriniaethau dewisol. Mae hybiau llawfeddygol yn elfen allweddol o’r strategaeth adfer ddewisol ar gyfer y GIG a gallant chwarae rhan hanfodol wrth leihau’r ôl-groniad gofal dewisol. Nod yr hybiau hyn yw cynyddu capasiti llawfeddygol trwy ddarparu mynediad cyflymach at driniaethau, yn ogystal â hwyluso rheolaeth haint trwy wahanu cleifion a staff oddi wrth ofal brys.

Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgarwch gofal wedi’i gynllunio, er mwyn llywio’r gwaith o roi’r hybiau hyn ar waith yng Nghymru.

Prif bwyntiau

Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?

Roedd yr adolygiad yn nodi tystiolaeth a oedd ar gael hyd at Ionawr 2023. Cyhoeddwyd yr astudiaethau a gafodd eu cynnwys rhwng 2015 a 2022.

Beth wnaethom ei ganfod

  • Gall canolfannau llawfeddygol fod yn effeithiol wrth wella canlyniadau clinigol megis hyd arhosiad yn yr ysbyty, cymhlethdodau yn ystod llawdriniaeth ac ar ôl llawdriniaeth, a mesurau ansawdd llawdriniaeth cataract mewn rhai meysydd llawfeddygol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn heterogenaidd ac yn gyfyngedig.
  • Mae tystiolaeth ar effaith canolfannau llawfeddygol ar ganlyniadau perfformiad megis effeithlonrwydd, defnydd, nifer y llawdriniaethau/triniaethau, perfformiad, achosion o ganslo, ac amser rhwng diagnosis a thriniaeth yn gyfyngedig.
  • Mae tystiolaeth yn ymwneud ag effaith economaidd canolfannau llawfeddygol yn gyfyngedig.
  • Mae tystiolaeth yn ymwneud ag effaith canolfannau llawfeddygol ar ganlyniadau a adroddir gan gleifion yn gyfyngedig ond mae’n dangos y gallai fod effaith gadarnhaol ar foddhad a chydymffurfedd cleifion.
  • Roedd gan bob astudiaeth gyfyngiadau methodolegol. Defnyddiodd lawer ddulliau gwan nad ydynt efallai’n briodol ar gyfer dod i gasgliad ar eu heffeithiolrwydd, ac felly dim ond astudiaethau cymharol yr ydym wedi’u dadansoddi wrth werthuso canlyniadau effeithiolrwydd.

Beth mae hyn yn ei olygu

  • Mae’r adroddiad hwn wedi rhoi mewnwelediad i sut roedd canolfannau llawfeddygol yn darparu gwasanaethau mewn meysydd llawfeddygol penodol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio ymchwil neu wasanaethau i gynorthwyo gydag adferiad gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio yn y DU.
  • O ystyried y prinder tystiolaeth gadarn, mae angen rhagor o ymchwil gymharol o ansawdd uwch wedi’i gynllunio’n dda o’r DU a gwledydd tebyg er mwyn deall effeithiolrwydd canolfannau llawfeddygol yng Nghymru yn well.

Gwybodaeth dechnegol

Mae ein hadolygiadau cyflym yn defnyddio amrywiad ar y dull adolygu systematig, gan dalfyrru neu hepgor rhai cydrannau i gynhyrchu’r dystiolaeth i hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon tra’n rhoi sylw i ragfarn. Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd asesu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb canolfannau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgarwch gofal wedi’i gynllunio, er mwyn llywio gweithrediad y canolfannau hyn yng Nghymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb Gweithredol: Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgaredd gofal wedi'i gynllunio

PDF, 235KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb Gweithredol: Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb hybiau llawfeddygol wrth gefnogi gweithgaredd gofal wedi'i gynllunio (235 KB)

Llawrlwytho PDF